Awdur Gwadd: Marianne Mannello, Cyfarwyddwraig Gynorthwyol: Polisi, Cymorth ac Eiriolaeth Chwarae Cymru
Effaith y Car
Mae ystyriaethau fel y cynnydd mewn traffig a’r defnydd o geir (yn symud ac wedi parcio) yn rhwystrau cyfarwydd i blant allu chwarae yn eu cymdogaeth. Mae plant yn parhau i godi pryderon am gyflymder a nifer y ceir a’r traffig yn eu cymdogaeth leol (Dallimore, 2019)
Bellach, dyw cael y rhyddid i fynd allan trwy ddrws y tŷ i chwarae ger y stryd ac yn agos at y cartref ddim yn rhan arferol o fywydau’r rhan fwyaf o blant, fel yr oedd ychydig ddegawdau’n ôl. Mae cyfanswm y traffig wedi cynyddu dros y blynyddoedd ac mae Adran Trafnidiaeth Llywodraeth y DU yn rhagweld ei fod yn debygol y bydd yn parhau i godi rhwng 17 a 51 y cant erbyn 2050 (Adran Trafnidiaeth, 2018).
Cymaint yw effaith y car ar chwarae plant, fel bod angen annog a chefnogi mentrau priffyrdd arloesol a chreadigol mewn cymdogaethau a chymunedau er mwyn codi ymwybyddiaeth a meithrin datrysiadau cadarnhaol i broblemau lleol.
Calonnau a Meddyliau
Mae Chwarae Cymru’n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i fabwysiadu terfyn cyflymder cenedlaethol o 20mya ym mhob ardal breswyl ac adeiledig. Fe allai hyn gael yr effaith mwyaf pellgyrhaeddol a chadarnhaol i gefnogi mwy o blant i chwarae. Bydd yn arafu traffig, a thrwy hynny lleihau’r risg o anafiadau difrifol a gwella ansawdd yr aer mae plant yn cael ei amlygu iddo.
Er mwyn gwneud y gorau o’r newid polisi hwn, mae angen mynd i’r afael â’r ystyriaethau cyfoes sydd wedi arwain at anallu plant i chwarae yn eu cymdogaethau eu hunain. Mae’r canlynol yn dueddiadau cyffredin:
- newidiadau mewn cymdogaethau, gan gynnwys defnydd cynyddol o geir, cyflymder y traffig a mwy o geir yn cael eu parcio ger cartrefi
- cyfyngiadau gan rieni oherwydd ofnau am ddiogelwch y gymdogaeth, traffig a ‘pherygl dieithriaid’
- anoddefgarwch cynyddol at blant yn chwarae ac yn cyfarfod
Mae rhai ardaloedd wedi mynd i’r afael â hyn drwy adennill strydoedd ar gyfer chwarae gyda phrosiectau chwarae stryd dan arweiniad preswylwyr lle caiff ffyrdd eu cau am gyfnodau byr yn aml unwaith y mis, ond weithiau unwaith y dydd, i ganiatáu i blant chwarae. Yn ogystal â helpu plant i ddysgu sgiliau ffisegol a sgiliau cymdeithasol, mae digon o resymau da dros gefnogi strydoedd chwarae (Chwarae Cymru, dim dyddiad).
Mae strydoedd chwarae yn gweithredu fel menter a arweinir gan rieni a phreswylwyr, yn seiliedig ar waith Playing Out (https://playingout.net) y sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi chwarae stryd drwy’r DU. Fe’i sefydlwyd dros ddegawd yn ôl gan ddau riant oedd yn rhwystredig gyda’r effaith roedd traffig yn ei gael ar chwarae eu plant. Mae’r syniad wedi’i gyflwyno ledled DU ac yn rhyngwladol fel ffordd hawdd o helpu plant i chwarae’n agos at eu cartrefi.
Mewn adroddiad o 2017 gan Brifysgol Bryste awgrymir y gallai cefnogi preswylwyr i gau eu strydoedd dros dro ar gyfer chwarae wneud cyfraniad ystyrlon i lefelau gweithgaredd ffisegol plant. Mae plant dair i bum gwaith yn fwy gweithredol yn ystod sesiynau chwarae allan nag y bydden nhw ar ddiwrnod ‘normal’ ar ôl ysgol. Mae’r astudiaeth hefyd yn dangos bod sesiynau chwarae stryd yn cynyddu hyder plant i chwarae allan ac mae rhieni’n teimlo’n fwy cyfforddus yn caniatáu hyn.
Agor Strydoedd ar gyfer Chwarae yng Nghymru
Caerdydd yw’r cyngor cyntaf yng Nghymru i weithio at gydnabyddiaeth fyd-eang fel rhan o raglen Dinas Addas i Blant UNICEF. Fel rhan o hyn, daeth y cyngor â phartneriaid at ei gilydd i ddatblygu prosiect Chwarae Stryd, gan ymuno ag yn agos i 70 o gynghorau eraill yn y DU sy’n cyflenwi cynlluniau tebyg. Mae’r prosiect yn symleiddio’r broses o wneud cais i gau ffordd a galluogi preswylwyr i gau eu strydoedd am gyfnodau byr i alluogi plant i chwarae’n ddiogel ger eu cartrefi.
Mae’r cyngor a Chwarae Cymru wedi gweithio gyda phreswylwyr i wneud strydoedd a chymunedau’n fannau mwy cyfeillgar i blant ac phobl ifanc yn eu harddegau allu chwarae. Hwylusir sesiynau chwarae stryd dan arweiniad cymdogion i gymdogion – mae preswylwyr ledled y ddinas yn cyfyngu traffig ar eu strydoedd am ddwy awr y mis ar gyfer sesiynau chwarae stryd.
Ysgrifennodd Jack, sy’n naw oed, am chwarae yn y stryd yng nghylchgrawn Chwarae i Gymru (Chwarae Cymru, 2019). Mae’n esbonio pam ei fod yn meddwl bod strydoedd chwarae’n wych:
‘Weithiau rwy’n mynd ar fy sgwter neu feic pan fydd yn wlyb, chwarae pêl-droed neu gemau eraill. Does gen i ddim gardd fawr iawn felly mae chwarae ar y stryd yn rhoi llawer mwy o le i chi. Rwyf i wedi gwneud ffrindiau newydd nad oeddwn i’n eu nabod ond rwy’n eu nabod nawr. Maen nhw’n hoffi rhai o fy hoff bethau. Mae fy nwy chwaer fach wedi cael hwyl yn chwarae gyda’u ffrindiau hefyd. Hefyd mae fy chwaer yn fwy hyderus ar ei beic oherwydd chwarae stryd. Yn ogystal, mae fy chwaer wedi gwneud llawer o ffrindiau drwy chwarae stryd, a dim ond dwy oed yw hi!’
Mae ymchwil gan Brifysgol Bryste ar strydoedd chwarae’n cadarnhau geiriau Jack, gan ganfod:
“ymddygiad cyffredin arall, a allai hybu mwy o weithgaredd corfforol a symudedd annibynnol y tu hwnt i sesiynau chwarae stryd, oedd datblygu sgiliau a hyder seiclo. Gwelwyd hyn mewn plant oedd yn newydd i seiclo (rhai mor hen â naw a deg oed) nad oedd wedi cael cyfle i ddysgu seiclo neu ddim yn ddigon hyderus i seiclo heb gymorth” (Play England, 2016)
Pam fod Chwarae Stryd yn Bwysig Nawr
Wrth i ni ddod allan o rai o gyfyngiadau llymaf coronafeirws, mae prosiectau chwarae stryd yn addas i gefnogi chwarae cymunedol wrth adael y cyfnodau clo ac ymdrin â’r straen a achoswyd. Mae’r canlynol ymhlith manteision strydoedd chwarae:
- Mae chwarae, yn enwedig chwarae yn yr awyr agored, yn hanfodol i blant mewn cyfnodau ansicr i’w helpu i wneud synnwyr o gyfnodau dryslyd.
- Bydd galluogi plant a’u teuluoedd i chwarae a chwrdd yn ddiogel yn unol â chanllawiau pellter corfforol yn cefnogi gwell iechyd a llesiant i bawb.
- Ceir teimlad cyffredinol y bu ein strydoedd yn llefydd gwell yn ystod y cyfnodau clo – o ran diogelwch, cydlyniad cymunedol a chwarae (fel enfysau sialc, helfeydd tedis, creigiau wedi’u peintio).
- Gall cymdogion hŷn neu fregus gymryd rhan fel stiwardiaid gwirfoddol neu wylio o’u cartrefi eu hunain yn eu drysau a’u gerddi.
- Mae’r rhain yn gynulliadau awyr agored lleol a bach sy’n caniatáu goruchwylio’r plant o’r cartref.
- Maen nhw’n fodelau cost isel a rhwydd i gynghorau Cymru eu cefnogi.
Ac yn olaf, mae gan blant hawl sylfaenol i chwarae, ac mae chwarae yn ganolog iddynt fwynhau plentyndod iach a hapus. Mae cynnig cyfleoedd ar gyfer chwarae hunangyfeiriol a hunan-benderfynol yn cynorthwyo plant i fod yn gyfranogwyr gweithredol ac yn meithrin eu gwydnwch a’u dyfeisgarwch eu hunain.
Gyda’r ansicrwydd a achoswyd gan y pandemig, mae cyfleoedd i chwarae’n hanfodol i helpu plant i wneud synnwyr o’u profiadau, datrys problemau, ailgysylltu â’u cymheiriaid a hyrwyddo eu lles eu hunain. Wrth i ni ddatblygu ymyriadau a mentrau i gefnogi plant wrth ddod allan o’r pandemig a’i gyfyngiadau cysylltiedig, chwarae yw un o’r meysydd pwysicaf i ganolbwyntio arno i hybu iechyd a lles plant.
Adnoddau Chwarae Stryd
Mae Chwarae Cymru’n cefnogi mentrau sy’n adennill strydoedd a chymdogaethau i blant a phobl ifanc allu chwarae. I wneud hyn rydym ni wedi gweithio gyda Playing Out i ddatblygu adnoddau i breswylwyr, cyrff cymunedol ac awdurdodau lleol yng Nghymru.
Mae Sut i drefnu sesiynau chwarae’r tu allan ar dy stryd yn ganllaw cam wrth gam ar gyfer trefnu sesiynau chwarae ar y stryd. Mae’n seiliedig ar brofiad rhieni a phreswylwyr ledled y DU. Ceir deunyddiau cefnogol ychwanegol i rieni drefnu sesiynau chwarae ar eu stryd ar ein gwefan.
Mae Agor strydoedd ar gyfer chwarae yn becyn cymorth wedi’i gynllunio i ddarparu gwybodaeth glir a chryno am chwarae stryd i awdurdodau lleol a’u partneriaid. Bwriedir iddo helpu awdurdodau lleol i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau i alluogi prosiectau chwarae stryd dan arweiniad preswylwyr yn eu hardaloedd. Mae hefyd yn ddefnyddiol i gymdeithasau tai, cymunedau ysgolion, gweithwyr cymunedol a phreswylwyr lleol allu deall y cyfleoedd a’r heriau.
Mae’r pecynnau cymorth hyn yn ymdrin ag amrywiaeth o bryderon a chwestiynau cyffredin fel:
Pam fod angen i blant chwarae yn y stryd gan fod parciau gerllaw?
Mae parciau’n wych ar gyfer ymweliadau teuluol ac i blant hŷn sy’n gallu mynd yno’n annibynnol ond i blant iau, mae fel arfer yn golygu taith arbennig, wedi’i threfnu a’i goruchwylio gan oedolion. Mae chwarae stryd yn wahanol iawn. Yn gyntaf, mae’n llythrennol ar riniog y drws felly gall plant chwarae gyda ‘lled-oruchwyliaeth’ a mynd a dod yn annibynnol. Yn ail, mae plant yn chwarae gyda’i gilydd ar y stryd yn helpu i feithrin ymdeimlad o gymuned a pherthyn, sydd yn ei dro’n gwneud eich stryd yn lle mwy diogel a chyfeillgar.
Alla i gyrraedd fy nghartref yn y car o hyd?
Gall preswylwyr barhau i yrru i mewn ac allan yn ystod y sesiwn os bydd angen, ond ar gyflymder cerdded i’w wneud yn ddiogel i bawb. Efallai y bydd yn haws parcio ar y stryd nag arfer, gan na fydd unrhyw draffig yn mynd drwodd. I’r rheini nad ydyn nhw’n byw ar y stryd, bydd yn golygu ychwanegiad bach yn unig i’w taith. Dim ond awr neu ddwy yw’r rhan fwyaf o sesiynau ac fe’u cynhelir cyn y cyfnod prysur ac ar benwythnosau.
Pam fod angen cau’r stryd? Roedden ni’n chwarae allan yn blant
Mae’r byd wedi newid. Mae llawer mwy o draffig ar y strydoedd a dyw hi ddim bellach yn normal gweld plant allan yn chwarae fel o’r blaen. Nid yw gorfod trefnu i gau ffordd yn swyddogol i ddefnyddio’r stryd fel hyn yn ddatrysiad tymor hir. Mewn rhai strydoedd tawel iawn gall plant barhau i chwarae allan yn naturiol. Ond mewn llawer o strydoedd preswyl, mae ceir – wedi parcio ac yn symud – yn tra-arglwyddiaethu gan olygu bod chwarae’n amhosibl. Yn y mannau hyn mae sesiynau ‘chwarae allan’ yn rhoi datrysiad dros dro ac yn dangos beth sy’n bosibl. Yn ddelfrydol byddai ein strydoedd yn fannau lle gall ceir a phobl o bob oed gyd-fyw’n hapus.
Oni fydd hyn yn annog plant i feddwl bod y ffordd yn lle diogel i chwarae mewn amgylchiadau arferol?
Rydym ni wedi sgwrsio llawer gyda rhieni am hyn a cheir cytundeb cryf bod plant bach hyd yn oed yn gallu deall y gwahaniaeth rhwng sesiwn chwarae allan ac amgylchiadau arferol. Dylai fod arwydd clir fod y ffordd yn ‘ddiogel i chwarae’ a bydd rhieni’n sicrhau bod plant yn deall bod pethau ‘yn ôl i normal’ ar ddiwedd y sesiwn. Mae sesiynau chwarae stryd hefyd yn gyfle da i rieni siarad gyda’u plant am ddiogelwch ffordd a pheryglon traffig.
I gael cyngor a gwybodaeth ar roi cychwyn ar chwarae stryd yn eich ardal, cysylltwch â Chwarae Cymru.