Prosiectau Trafnidiaeth ac Iechyd yn y Gymuned
Mae’n bleser gan Rwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd gyhoeddi ei fod yn cefnogi pedwar prosiect sy’n mynd i’r afael â rôl trafnidiaeth yn y dasg o greu cymuned iach. Y prosiectau a ddewiswyd oedd:
Age Connects Morgannwg: Ymchwil Trafnidiaeth
dan arweiniad Bethan Shoemark-Spear, Rheolwr Partneriaeth, Polisi a Datblygiad Strategol Age Connects Morgannwg.
Mae Age Connects Morgannwg yn sylwi ar gynnydd yn y galw am gymorth gyda materion trafnidiaeth gan y bobl hŷn yn eu hardal ac eisiau deall mwy am y rheswm, er enghraifft, ai prinder trafnidiaeth gyhoeddus sy’n gyfrifol? Ai’r ffaith nad oes modd iddynt gyrraedd eu gorsaf fysiau neu drên agosaf yn ddiogel sy’n gyfrifol? Ai diffyg hyder i deithio ar eu pen eu hunain? Bydd y prosiect yn trefnu a chynnal trafodaethau gyda phobl hŷn a staff cymorth ac yn rhoi amser i ddadansoddi’r ymatebion er mwyn darparu gwasanaeth sydd wedi’i deilwra’n well i anghenion pobl hŷn. Dylai eu helpu i ddod yn annibynnol ac i fynd allan i’r awyr agored.

Cynyddu Symudedd Merched Ifanc trwy Roi ‘Sgwtis’
arweinir gan Dr. Nashia Ajaz, Darlithydd Astudiaethau Rhyw ym Mhrifysgol Menywod Fatima Jinnah, Pacistan.
Sgwtis yw’r enw ar feiciau moped ym Mhacistan. Nod y prosiect hwn yw helpu myfyrwyr benywaidd 18-25 oed, y cyfyngir ar eu symudedd oherwydd normau diwylliannol a chrefyddol Pacistan. Mae llawer o fyfyrwyr benywaidd yn rhoi’r gorau i’w haddysg am eu bod yn wynebu aflonyddu a cham-drin rhywiol wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sydd wedi ei gynllunio yn bennaf ar gyfer dynion ym Mhacistan a dynion sy’n ei ddefnyddio fwyaf. Bydd y prosiect yn cynnig prynu sgwtis yn ogystal â rhoi hyfforddiant a chefnogaeth i fyfyrwyr benywaidd. Nod y prosiect yw rhoi’r hawl i symudedd, ac annibyniaeth i fenywod ifanc, a’u helpu i fagu hyder. Bydd y prosiect yn cysylltu â menter debyg yng Nghymru.

Cynhwysiant cymdeithasol trwy gludiant cymunedol
Arweinir gan Gemma Lelliott, Cyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA).
Nod y prosiect yw gweithio gyda chymuned benodol sy’n wynebu rhwystrau cymdeithasol sylweddol i gynhwysiant – pobl ag anableddau dysgu – a dod o hyd i opsiynau trafnidiaeth a chymorth a fydd yn helpu i feithrin cysylltiad cymdeithasol. Drwy sicrhau gwasanaethau trafnidiaeth da, daw gwasanaethau a gweithgareddau yn y gymuned leol yn fwy hygyrch a chaiff pobl ag anableddau fwy o ddewis a rheolaeth dros eu bywydau. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos y rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig lle mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r prosiect hwn yn gatalydd i annog trafod a gweithredu ar newid arferion gwaith, a dod o hyd i ffyrdd i’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol allu cefnogi gweithredwyr i ymestyn eu gwasanaethau er mwyn cefnogi lles pobl yn well.
Nod cyffredinol y prosiect yw ei ddefnyddio fel cam ymlaen tuag at waith y dyfodol – bydd yn rhoi ciplun o rwystrau allweddol ac yn ein helpu i adnabod y camau nesaf. Y prosiect hwn yw’r man cychwyn er mwyn i ni ddechrau, gyda’n gilydd, mynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau sefydliadol ac agweddol i deithio. Y gobaith yw gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy gefnogi pobl ag anableddau dysgu i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn rhwydwaith trafnidiaeth sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Mae’r prosiect eisiau helpu i wneud newidiadau gwirioneddol ac effeithiol i’r ffordd y caiff gwasanaethau bysiau, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gymunedol eu darparu os nad ydynt yn diwallu anghenion pobl ag anableddau dysgu. Rydym yn cydnabod y bydd y gwaith hwn yn cymryd llawer mwy o amser na’r prosiect cychwynnol.

Annog Teithio Llesol Yn Y Drenewydd
dan arweiniad Ruth Stafford, Swyddog Prosiect, Canolbarth Cymru. Sustrans
Bwriad y prosiect hwn yw helpu pobl sy’n byw yn y Drenewydd, yn enwedig yn ardal ystâd Treowen, i gerdded, beicio a rowlio mwy. Bydd y prosiect yn rhoi gwybodaeth am opsiynau trafnidiaeth, yn enwedig teithio llesol, ac yn gweithio tuag at sefydlu cynllun cydymaith teithio perthnasol i gefnogi’r trigolion (os yw’n briodol).
