Skip to content

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

Menu
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Tîm
  • Blog Archwilio Trafnidiaeth ac Iechyd
  • Podlediad y THINK
  • Adnoddau Academi THINK
    • 20mya ac iechyd
    • Adnoddau Teithio Llesol
    • Adnoddau Gwahanu Cymunedau o boptu Ffyrdd
    • Adnoddau Diogelwch Defnyddwyr Ffyrdd
    • Adnoddau Llygredd Aer a Sŵn
    • Cyhoeddiadau THINK
    • Trafnidiaeth a dull gweithredu Iechyd Cyfunol
  • Prosiectau rhwydwaith THINK
    • Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd
      • Derbynwyr y Gwobrau 2023
    • Bws Rhywedd+Cymru: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad treisgar yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru
  • Newyddion
  • Cyfleoedd i Gymryd Rhan
    • Dod yn aelod o THINK
    • Sefydlu Cymunedau Ymarfer
    • Cynllun Mentora THINK
  • Cysylltu â ni
  • CymraegCymraeg
    • EnglishEnglish
    • CymraegCymraeg
Menu

Podlediad y THINK

Croeso i dudalen Podlediad y Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd – THINK

Cyfres Podlediadau THINK ar Gludiant Cymunedol

Mae hon yn gyfres o bodlediadau ar Gludiant Cymunedol wedi’u recordio, eu golygu a’u cyflwyno gan aelodau o dîm THINK, Amy Nicholass, Swyddog Prosiect a Dr Lucy Baker, Ymchwilydd Cyswllt. Gwnaed y gwaith recordio y tu allan i’r stiwdio mewn lleoliadau amrywiol yn Sir Benfro a’r cyffiniau ym mis Rhagfyr 2022, gan gynnwys ar fysiau oedd yn symud! Felly mae ansawdd y sain yn amrywio, ond yn ychwanegu at yr awyrgylch ac yn rhoi ymdeimlad i chi o ble mae Cludiant Cymunedol yn digwydd – ie, ar fysiau ac yn swyddfeydd y gweithredwyr, ond hefyd yng nghartrefi’r gwirfoddolwyr a’r defnyddwyr ac mewn caffis lle gallai’r teithwyr fod eisiau cael eu cludo i fwynhau coffi gyda ffrindiau.

Diolch yn fawr i bawb am roi o’u hamser i gael eu recordio ar gyfer y podlediad ac am siarad mor agored am eu profiadau.

Lluniau wedi’u darparu gan Gymdeithas Cludiant Cymunedol – nid ydynt yn cynnwys pobl a gafodd eu cyfweld

Cafwyd llawer o gyfranwyr brwdfrydig yn ogystal â’n siâr ein hunain o heriau technegol cysylltiedig â recordio y tu allan i’r stiwdio! Gyda’r recordiadau o ansawdd yr oedd modd eu defnyddio, nid oedd modd i ni eu gwasgu i gyd i mewn i un podlediad (sef y cynllun gwreiddiol) felly penderfynwyd golygu’r sain a gasglwyd yn gyfres o bodlediadau yn lle hynny. Er na allwn ni ddefnyddio’r holl ddeunydd a recordiwyd, roedd stori pawb yn llywio ein dealltwriaeth o’r angerdd sy’n danwydd i drafnidiaeth gymunedol ac yn dylanwadu ar y ffordd y golygwyd y rhaglenni.

Enw’r podlediad cyntaf yn y gyfres hon yw ‘Mwy Na Dim ond Siwrnai’ ac mae’r ‘seinwedd’ yn cynnwys lleisiau llawer o bobl yn y gyfres, gan amlygu manteision Trafnidiaeth Gymunedol y tu hwnt i gludo teithwyr o A i B.

Mae podlediadau eraill yn y gyfres hon yn ymdrin yn fanylach â themâu cydgynhyrchiad gwasanaethau trafnidiaeth rhwng y defnyddwyr, technoleg ddigidol i ddod â Chludiant Cymunedol i gynulleidfaoedd ehangach a’r ffordd y mae Trafnidiaeth Gymunedol yn hanfodol er mwyn manteisio ar ofal iechyd a lleihau’r tebygolrwydd y bydd pobl yn dychwelyd i’r ysbyty ar ôl gwella.

Mae pob podlediad yn cael ei gynnal gan wefan allanol a chewch hyd iddynt i gyd wedi’u rhestru yno.

https://transportandhealth.podbean.com/

Bydd trawsgrifiad ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer pob podlediad ond efallai na fydd y rhain ar gael ar adeg y lansiad.

Pennod Un : Mwy na Dim Ond Siwrnai

https://www.podbean.com/eas/pb-bsp7s-13af9e4

Llun gan y gyrrwr Kellie Lowther – nid yw’r ddelwedd yn un o rywun sy’n cael ei grybwyll yn y podlediad
Llun gan Cludiant Cymunedol Dolen Teifi – nid o rywun sy’n cael ei grybwyll yn y podlediad
Llun o iStock: Gwasanaeth bws fflecsi Prestatyn a redir gan Drafnidiaeth Cymru

Yn y bennod ragarweiniol arbennig hon rydym yn defnyddio dull ‘sainwedd’ fel modd i’r bobl sy’n darparu, defnyddio ac yn ymchwilio i Drafnidiaeth Gymunedol rannu ei bwysigrwydd yn eu geiriau eu hunain. Byddwch yn clywed sut mae’r gwasanaethau’n cynnig annibyniaeth sydd fawr ei hangen, yn mynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd ac yn rhoi mynediad i siopau, gofal iechyd, teulu, hwyl a natur i’r bobl sy’n eu defnyddio. Ond, yn fwy annisgwyl mae’n debyg, byddwch yn clywed hefyd sut mae’r gyrrwyr gwirfoddol yn elwa’n aruthrol.

Byddwch yn clywed lleisiau Emma Bingham (Cymdeithas Cludiant Cymunedol), Debbie Johnson (Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro), y gyrwyr Kellie Lowther (Tîm Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro), Bob (Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol), Sue (Ceir Cefn Gwlad), John (Dolen Teifi) a chwsmeriaid, yn ogystal â Robert Hagan o Brifysgol Fetropolitan Manceinion.

Pennod Dau : Cydgynhyrchiad

https://www.podbean.com/ew/pb-nv4c7-13b0d01

Edrychwn ar y ffordd mae Trafnidiaeth Gymunedol yn ymgysylltu â chymunedau ac yn fodd iddynt gyfathrebu’r heriau cysylltiedig â thrafnidiaeth a chreu atebion hygyrch a chynhwysol gyda’r cymunedau, ac atebion sy’n helpu cymunedau gwledig i fod yn llai dibynnol ar geir. Mae darparwyr Cludiant Cymunedol yn aml yn pontio’r bwlch rhwng y cymunedau, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r gwasanaethau gofal iechyd ac maent yn allweddol er mwyn sicrhau dyfodol cydgynhyrchiol ym maes trafnidiaeth.

Astudiaethau achos hynod ddiddorol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn enghreifftiau bywyd go iawn o gydgynhyrchu. Edrychwch hefyd ar y bennod ar Fynediad at Ofal Iechyd i gael rhagor o enghreifftiau.

Yn cynnwys defnyddwyr trafnidiaeth yn Llandysul, Gemma Lelliott (Cyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Cludiant Cymunedol) a Rod Bowen o Drafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi, sy’n defnyddio dull hyb sy’n gwella ymatebion cydweithredol i anghenion Cludiant Cymunedol a chynaliadwyedd darpariaeth trafnidiaeth.

Pennod Tri : Mynediad at Ofal Iechyd

https://www.podbean.com/ew/pb-9qx5f-13b5dec

Llun gan Kellie Lowther – nid o unrhyw un sy’n cael ei grybwyll yn y podlediad
Llun o Dolen Teifi – nid o unrhyw un sy’n cael ei grybwyll yn y podlediad

Yn y bennod hon clywn am ran Trafnidiaeth Gymunedol yn y gwaith o lenwi’r bylchau sy’n bodoli ers i’r gwasanaethau bws masnachol gael eu canslo a sicrhau bod gofal iechyd hanfodol ar gael i bawb. Eglura’r cyfranwyr bod y gyrwyr gwirfoddol gofalgar, brwdfrydig sy’n danfon pobl adref o’r ysbyty gyda’r gwasanaethau hyn yn aml yn sicrhau bod teithwyr sy’n byw eu hunain yn cael bwyd, cynhesrwydd a rhywun i siarad â nhw a gwneud yn siŵr eu bod yn iawn, neu hyd yn oed glirio gwydr sydd wedi torri ar ôl y gwymp yn y cartref a arweiniodd at y daith ambiwlans. Gall hyn helpu i gadw pobl rhag gorfod mynd yn ôl i’r ysbyty ar unwaith. Mae’r bennod hon yn dangos bod Sir Benfro ar y blaen mewn gwirionedd o ran y cydweithredu rhwng darparwyr Cludiant Cymunedol a darparwyr gofal iechyd er mwyn sicrhau gwell canlyniadau iechyd.

Argymhellir yn fawr bod unrhyw un sy’n gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol yn gwrando ar y podlediad.

Yn cynnwys Emma Bingham (Uwch Swyddog Datblygu, Cymdeithas Cludiant Cymunedol), Debbie Johnson (Rheolwr Datblygu, Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro), Gemma Lelliott (Cyfarwyddwr Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru), Kellie Lowther (gyrrwr cerbyd hygyrch i gadair olwyn a chydlynydd gwirfoddolwyr , Tîm Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro a Ceir Cefn Gwlad), Rod Bowen (Swyddog Datblygu Trafnidiaeth, Cludiant Cymunedol Dolen Teifi), Tina Norman (defnyddiwr cerbydau hygyrch cadair olwyn ac Ymddiriedolwr Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro) a defnyddwyr trafnidiaeth gymunedol gwasanaeth arbrofol y bws Fflesci yn Nhyddewi a Thrafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi.

Pennod Pedwar : Dyfodol Digidol

https://www.podbean.com/ew/pb-c4s8i-13b0da2

Delwedd: iStock/bagira22

Mae Dr Lucy Baker ac Amy Nicholass yn ymweld ag un o’r gwasanaethau trafnidiaeth peilot Fflecsi sy’n ymateb i’r galw yn Sir Benfro, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac sy’n rhan sefydlog o ddarpariaeth trafnidiaeth gymunedol. Rydym yn ystyried yr hyn y gall gwasanaethau sy’n gweithio drwy gyfrwng apiau ei gynnig i deithwyr a darparwyr trafnidiaeth gymunedol, a beth yw’r rhwystrau o ran ychwaegu technolegau newydd at arferion archebu. Mae’r podlediad yn amlygu’r angen am ddull cyfunol sy’n cynnal y perthnasau lleol gyda darparwyr a’r hyblygrwydd i wahanol deithwyr archebu a defnyddio’r gwasanaethau mewn sawl ffordd. 

Gwrandewch ar y podlediad hwn, yn enwedig os oes ydych chi’n diddori mewn atebion technolegol i fynd i’r afael â heriau cymunedol neu os ydych chi’n comisiynu neu’n darparu gwasanaethau bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Yn cynnwys Gemma Lelliott (Cyfarwyddwr Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru), Andrew Lloyd (Cydlynydd Prosiect Fflecsi, Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro), Chris Payne (Gyrrwr Fflecsi), Rod Bowen (Swyddog Datblygu Trafnidiaeth, Cludiant Cymunedol Dolen Teifi), Emma Bingham (Uwch Swyddog Datblygu, Cymdeithas Cludiant Cymunedol) Debbie Johnson, (Rheolwr Datblygu Cludiant Cymunedol Cymdeithas Gweithredwyr Cludiant Cymunedol Sir Benfro), Sue (Cydlynydd Gwirfoddolwyr, Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro) a defnyddwyr cludiant cymunedol.

Pennod Pump: Cymru a Chludiant Cymunedol, gyda Gemma Lelliott, Cyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Cludiant Cymunedol

https://www.podbean.com/ew/pb-cxave-13b0ce7

Mae Gemma Lelliott, Cyfarwyddwr Cymru ar gyfer Cymdeithas Cludiant Cymunedol yn cael ei chyfweld gan Dr Lucy Baker ac Amy Nicholass o THINK. Maent yn holi am ei phrofiad a’i barn ar rôl Trafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru a sut y gall dulliau strategol a newidiadau polisi gefnogi’r rôl honno. 

Mae hwn yn bodlediad defnyddiol iawn i wrando arno os ydych chi’n comisiynu gwasanaethau trafnidiaeth (yn enwedig mewn ardaloedd maestrefol a gwledig sydd fel arfer yn brin o weithredwyr bysiau masnachol), os ydych chi’n dewis lleoliadau ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd neu ofal cymunedol, os ydych chi’n gynlluniwr tref neu’n wneuthurwr polisi mewn un o amrywiol feysydd trafnidiaeth ac iechyd. Mae Gemma yn siaradwr huawdl iawn ac mae’n cyfleu’n glir y cyfraniad, disylw yn aml, a wneir gan Drafnidiaeth Gymunedol.

THINK - the Transport and Health Integrated research NetworK
  • O Systemau Trafnidiaeth Ddeallus i Systemau Trafnidiaeth Integredig
  • Pam mae pobl yn defnyddio Age Connects Morgannwg ar gyfer cludiant?
  • THINK – mae’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn chwilio am uwch reolwyr cwmnïau bysiau i gymryd rhan yn ein hymchwil. 
  • Offer i’w defnyddio i leihau effaith rwystrol ffyrdd prysur ar gerddwyr  
  • Agor y Strydoedd i Chwarae

THINK Podcast

Transport and Health Integrated research NetworK – THINK Podcast
Transport and Health Integrated research NetworK – THINK Podcast

THINK is a collaboration between the psychology department of Aberystwyth University and Public Health Wales, and is funded by Health and Care Research Wales to improve health outcomes for all, in relation to transport. The network is made up of individuals working in academic, practitioner, policy or charity roles across different areas of transport and health. THINK facilitates research, training and seminars to develop knowledge and provide opportunities to work collaboratively across four different themes – air and noise pollution; injuries and deaths stemming from vehicle crashes; the impact of active travel (walking and cycling) on health; and the impact of vehicles dividing communities. You can sign up as a member of THINK for free on the website https://think.aber.ac.uk/sign-up/ or follow us @TransportHealth

Access to Healthcare with Community Transport
byThe Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK

Hear how community transport & health care providers in Pembrokeshire are leading the way on life giving collaborative projects. Featuring Emma Bingham (CTA), Debbie Johnson (PACTO), Gemma Lelliott (CTA), Kellie Lowther (PIVOT & Country Cars driver), Rod Bowen (Dolen Teifi Community Transport), Tina Norman (wheelchair accessible vehicle user and Chair of PVT) and community transport users of the Fflesci bus service trial in St Davids and Dolen Teifi Community Transport.

Access to Healthcare with Community Transport
Access to Healthcare with Community Transport
13 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
Wales and Community Transport with Gemma Lelliott, Director for Wales, Community Transport Association
9 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
Digital Futures in Community Transport
9 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
Co-production in Community Transport
9 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
More Than Just a Journey – Community Transport
8 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
Search Results placeholder
Prifysgol Aberystwyth University
Health and Care Research Wales
NHS Wales - Public Health Wales
Latest recordings of THINK event if you missed it!
Tweets by TransportHealth
©2023 Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) | Built using WordPress and Responsive Blogily theme by Superb