Skip to content

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

Menu
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Tîm
  • Adnoddau Academi THINK
    • Blog Archwilio Trafnidiaeth ac Iechyd
    • Adnoddau Teithio Llesol
    • Adnoddau Gwahanu Cymunedau o boptu Ffyrdd
    • Adnoddau Diogelwch Defnyddwyr Ffyrdd
    • Adnoddau Llygredd Aer a Sŵn
    • Cyhoeddiadau THINK
    • Trafnidiaeth a dull gweithredu Iechyd Cyfunol
  • Newyddion
  • Cysylltu â ni
  • Cymryd rhan
  • CymraegCymraeg
    • EnglishEnglish
    • CymraegCymraeg
Menu

Hafan

Sustainable city in a form of brain

Crëwyd rhwydwaith THINK i ddod â phobl sy’n gweithio ym maes trafnidiaeth ac iechyd ym myd polisi, yn ymarferol ac yn y byd academaidd at ei gilydd, gan ddatblygu sgiliau, profiad a gwybodaeth, creu ymchwil newydd sy’n canolbwyntio ar ymarfer, a rhoi ymchwil ar waith. 

Mae’n rhwydwaith lle gall ymarferwyr, llunwyr polisi, sefydliadau trydydd sector ac academyddion ddod ynghyd i weithio’n agos, neu’n anuniongyrchol, mewn meysydd sy’n effeithio ar drafnidiaeth ac iechyd fel ei gilydd. Bydd llu o gyfleoedd i’r cyhoedd gymryd rhan yng ngweithgareddau THINK, a cheisir sicrhau bod y gweithgareddau hynny’n rhai cyfranogol.  

Mae’r rhwydwaith yn datblygu gwybodaeth ac ymarfer mewn pedair agwedd benodol a rhyng-gysylltiedig ar drafnidiaeth, symudedd, iechyd a lles:

  1. effaith cerbydau ar lygredd aer a sŵn
  2. anafiadau a marwolaethau yn sgil damweiniau cerbydau
  3. effaith teithio llesol (cerdded a beicio) ar iechyd
  4. effaith cerbydau ar hollti’r gymuned  

Bydd gwaith y rhwydwaith yn mynd i’r afael â phob un o’r rhain o safbwynt pobl a phlant o bob oed ac yn archwilio anghydraddoldebau mewn manylder, a hynny o ran symudedd, systemau diogel a lleoedd iach.

  • Hysbysebu yng Nghymru a’r DU: yr angen i integreiddio trafnidiaeth ac iechyd er mwyn creu lleoedd iachach
THINK - the Transport and Health Integrated research NetworK
Prifysgol Aberystwyth University
Health and Care Research Wales
NHS Wales - Public Health Wales
Tweets by TransportHealth
©2022 Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) | Built using WordPress and Responsive Blogily theme by Superb