Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd yn eich gwahodd i gyflwyno cais am grant sy’n ymwneud â rôl trafnidiaeth mewn creu cymuned iach. Rydym yn croesawu prosiectau arbrofol gan dimau rhyngddisgyblaethol/o sawl cefndir, o Gymru a’r tu hwnt, ac rydym yn chwilio am gynnig sy’n dod â phobl o wahanol gefndiroedd ynghyd mewn partneriaethau (e.e. cymunedau, elusennau a’r trydydd sector, academyddion, byrddau iechyd, awdurdodau lleol) i gydweithio i gynorthwyo “cymuned sydd mewn angen” â “mater penodol sy’n ymwneud â thrafnidiaeth”.
Gellir diffinio cymuned mewn angen fel unrhyw gymuned sydd â phroblem sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth, neu iechyd a lles, neu’r ddau. Er enghraifft, gallai fod yn gymuned ddaearyddol megis tref, pentref neu stryd, a/neu gymuned a ddiffinnir gan ddemograffeg gymdeithasol neu gefndir, er enghraifft pobl hŷn, plant, y gymuned LHDT+, a/neu a ddiffinnir yn ôl eu dulliau teithio (seiclwyr, cerddwyr ac ati)
Gellir diffinio’r mater penodol sy’n ymwneud â thrafnidiaeth fel un sy’n effeithio ar iechyd gan gynnwys anafiadau/marwolaethau (a achosir gan wrthdrawiadau), llygredd aer/sŵn, gwella teithio gweithredol, ynysu cymunedau, a lles cymunedol, neu gyfuniad o’r materion hyn. Gellir diffinio’r broblem fel rhywbeth megis ceisio gostwng terfynau cyflymder neu gysylltu cymunedau drwy lwybrau cerdded/beicio oddi ar y ffyrdd.
Dylid defnyddio’r grant fel cam tuag at y nod, er mwyn cael dealltwriaeth bellach am y mater trafnidiaeth, i’w ddiffinio’n fanylach a dechrau creu strategaethau neu gamau gweithredu sy’n gweithio tuag at liniaru neu leihau’r broblem.
Mae grant gwerth hyd at £2000 ar gael fesul prosiect i gefnogi’r gweithgarwch. Byddwn yn dewis hyd at 4 prosiect i’w hariannu. Gellir gwneud cais am gostau cyfalaf a chostau refeniw. Gellir defnyddio’r arian yn y prosiect felly tuag at gostau cynnal digwyddiadau a gweithdai, neu gasglu gwybodaeth er mwyn ceisio cyrraedd y nod.
Rhaid llunio adroddiad byr terfynol am y gweithgareddau a gynhaliwyd, sydd hefyd yn nodi’r camau nesaf sydd eu hangen a sut yr eir ati i gymryd y camau hynny.
Disgwylir y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu’r prosiect fel y bydd yn haws i’r gymuned wneud cais am ragor o arian ar gyfer camau nesaf y prosiect. Ar ben y grant gwerth hyd at £2000, fe gewch gymorth y Rhwydwaith i hyrwyddo eich gwaith a byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i ffynonellau cyllid pellach ac i wneud ceisiadau amdanynt fel bo’n briodol.
Bydd y prosiectau’n cael eu hasesu gan dîm y Rhwydwaith (Charles, Amy, Lucy) yn ogystal ag adolygwr arbenigol o’r tu allan i’r prif dîm, drwy bwyso a mesur y materion isod:
- I ba raddau y byddai’r prosiect arfaethedig yn helpu’r gymuned ddiffiniedig i ymdrin â’r mater trafnidiaeth
- I ba raddau y byddai’r prosiect arfaethedig yn gwneud gwahaniaeth i drafnidiaeth yn y gymuned honno,
- I ba raddau y byddai’r prosiect yn gwella iechyd y gymuned
- Pa mor realistig yw hi y byddai’r prosiect yn cyrraedd y nod hwnnw ac a ydy’n cynnig gwerth am arian.
Llenwch y ffurflen isod a’i hanfon yn ôl i think@aber.ac.uk cyn y dyddiad cau, sef 30 Tachwedd 2022. Os hoffech drafod unrhyw syniadau fo gennych chi i’ch prosiect neu am fwy o fanylion, cysylltwch â’r Athro Charles Musselwhite think@aber.ac.uk
Cwestiynau Cyffredin
C: A allwn ni gyflwyno ein cais yn Gymraeg?
A: Gallwch, gallwch gyflwyno’ch ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg gan mai Prifysgol Aberystwyth yw’r sefydliad sy’n prosesu’r gronfa a’i phrif ieithoedd yw Cymraeg a Saesneg.
C: A yw’r gronfa’n ystyried costau cyfalaf a refeniw?
A: Ydw
C: A all y gymuned neu’r ymgeiswyr fod wedi’u lleoli y tu allan i Gymru?
A: Gallant
C. Pryd fydd prosiectau’n derbyn yr arian?
A: Byddwn yn cyhoeddi’r prosiectau buddugol o fewn 3-4 wythnos i’r dyddiad cau. Bydd angen i sefydliadau arweiniol anfon anfoneb atom ar amser y cytunwyd arno ar sail prosiect wrth brosiect, gan ddibynnu ar y prosiect ac angen y sefydliad. Rydym eisiau gwneud hyn mor hyblyg â phosibl, ond mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol bod angen i ni gydlynu’r taliad i ddilyn prosesau timau cyllid unrhyw sefydliadau dan sylw.