
Bydd Cynllun Mentora THINK 2023/24 yn para blwyddyn ac mae’n rhan o genadwri THINK i gefnogi unigolion ar ddechrau eu gyrfa i ddatblygu eu galluoedd a’u cymwyseddau wrth ddeall swyddogaethau rhyng-gysylltiedig trafnidiaeth ac iechyd a’u heffeithiau ar gymunedau. Daw’r rhaglen o dan Academi THINK ac mae’n agored i ymchwilwyr ac ymarferwyr sydd â diddordeb mewn materion yn ymwneud â thrafnidiaeth ac iechyd.



Pwrpas Cynllun Mentora THINK yw cyd-gysylltu aelodau THINK sy’n rhannu diddordebau, a rhoi llwyfan cyfathrebu i gynorthwyo aelodau i ddatblygu perthynas fentora ystyrlon.
I weld sut i gael y gorau o’r cyfle mentora hwn, darllenwch yr awgrymiadau a’r cod ymddygiad.
Holiaduron
Llenwch yr holiadur sy’n berthnasol i chi a’i anfon i think@aber.ac.uk
Os oes angen ffurflen holiadur Cymraeg arnoch, gofynnwch am un gan think@aber.ac.uk