O ganlyniad i Weithdai Gosod Agenda THINK a gynhaliwyd yn fuan ar ôl lansio THINK, mae’r Cymunedau Ymarfer canlynol wedi cael eu lansio fel meysydd ffocws cychwynnol yr hoffai’r rhwydwaith gydweithio arnynt.
Mae’r cymunedau hyn yn gyfleoedd i aelodau THINK fynd ati i weithio ar y cyd a thrafod eu heriau ac, o bosib, cynnig atebion i heriau rhywun arall.
Diben y grwpiau hyn yw rhannu adnoddau, darparu seinfwrdd ar gyfer eich syniadau eich hun, llunio ceisiadau ymchwil ar y cyd ac, yn y pen draw, i THINK ddarparu man ymgynnull niwtral i drafod yr hyn y mae’r grŵp yn teimlo sydd ei angen arnynt i wella canlyniadau cadarnhaol i bawb, o fewn y gwaith y maent yn ei wneud.
Llun: iStock/Orbon Alija, networking image
Bydd tîm cyflawni THINK yn cynorthwyo’r rhai sydd â diddordeb ym mhob un o feysydd thematig y Cymunedau Ymarfer i drefnu cyfarfodydd, cynnal gweithdai hyfforddi, cynorthwyo i drefnu digwyddiadau rhwydweithio a gwneud ceisiadau am gyllid ychwanegol.
“Mae ymuno â’r Gymuned Ymarfer (Ymchwil, casglu data, dulliau ar gyfer gwneud penderfyniadau) wedi’n galluogi i archwilio’r potensial i gydweithio ar wahanol agweddau ar ein hymchwil GIS ar deithio llesol gyda gweithwyr proffesiynol sydd â diddordebau hirsefydlog mewn amrywiaeth eang o gymwysiadau trafnidiaeth”.
Yr Athro Gary Higgs, Cyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru, Prifysgol De Cymru
Bydd cyfle hefyd i bob Cymuned Ymarfer wneud cais am grant hyd at £2000 i gefnogi prosiect ymchwil a allai ddeillio o’r gymuned.
Bydd tîm cyflawni THINK yn cynorthwyo’r Cymunedau Ymarfer i’w helpu i fynd i’r afael â’r elfennau strategol a godwyd yn y Gweithdai Gosod Agenda.
THINK – Egwyddorion ar gyfer cydweithio
Gofynnwn i chi ddilyn yr egwyddorion hyn wrth ymwneud â THINK.
- Parch: at amrywiol ffyrdd o fod a ffyrdd o wybod y cyfranogwyr, eu hamrywiol gefndiroedd, lefelau o bŵer, anghenion a gwerthoedd.
- Cyd-weithio a gwrando gweithredol: sicrhau bod pawb yn cael cyfle i fynegi barn wrth weithio mewn grŵp, a bod yn amyneddgar ac yn agored eich meddwl gyda’r rhai sy’n gweithio mewn disgyblaethau gwahanol ac sy’n defnyddio terminoleg wahanol
- Tryloywder: cyd-greu man diogel ac agored i gael trafodaethau gonest.
- Cynildeb: rhagdybiaeth na ellir datrys problemau yn yr un ffordd ym mhob cyd-destun.
- Adfyfyrio: cymryd amser i fyfyrio ar effaith ein meddyliau, ein teimladau a’n hymddygiad ar eraill/ y gwaith.
- Dim methu, dim ond adborth: cyd-greu man i arbrofi â syniadau newydd.
- Rhyng-gysylltiedig: rhagdybiaeth bod y gwaith hwn yn digwydd o fewn systemau cymdeithasol-ecolegol cymhleth a chydblethedig, felly yn aml gall mynd i’r afael â her mewn un man beri i heriau newydd ddod i’r amlwg mewn mannau eraill, ac ni ddylid anwybyddu hyn yn syml fel anghyfleustra.
- Bod yn ymwybodol o ‘bwy sydd ddim yn yr ystafell’: ystyried lleisiau’r rhanddeiliaid nad ydynt yn bresennol, yn enwedig y rhai hynny sy’n aml wedi’u tangynrychioli.
- Seiliedig ar asedau: cydnabod pa asedau sydd gan gymunedau, sefydliadau ac unigolion eisoes, ac adeiladu arnynt.
- Creu iechyd cadarnhaol: drwy gydnabod yn eang y cysylltiad rhwng trafnidiaeth ac iechyd.
Cymunedau Ymarfer THINK
1. Creu symudedd a lleoedd teg a chynhwysol
Llun: iStock/Jeremy PolandCentre for Ageing Better
Mae aelodau sefydliadol y gymuned ymarfer hon yn cynnwys:
- Prifysgol Caerdydd
- Arup
- Go Upstream
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Lechyd Cyhoeddus Cymru
2. Ymchwil, casglu data, dulliau ar gyfer gwneud penderfyniadau
Mae aelodau sefydliadol y gymuned ymarfer hon yn cynnwys:
- Arup
- Sustrans
- Lechyd a Gofal Gwledig Cymru
- Prifysgol Caerdydd
- Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru, Prifysgol De Cymru
3. Nodi’r manteision cymdeithasol sy’n deillio o fuddsoddi mewn trafnidiaeth
4. Gwella Cydweithio a Chyfathrebu ymhlith rhanddeiliaid
Ymunwch â Chymuned Ymarfer
Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir ar y ffurflen hon yn cael ei storio’n ddiogel a dim ond at y dibenion rydych chi wedi cydsynio iddynt y caiff ei defnyddio. Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn anfon e-bost at bawb sydd â diddordeb mewn thema benodol, ac yn trefnu cyfarfod cychwynnol wedi’i hwyluso i drafod beth yr hoffai’r grŵp hwnnw weithio arno.