Lleoliad ac archebu
Archebwch eich tocyn, sydd wedi’i ariannu’n llawn, i fynychu’r gynhadledd wyneb yn wyneb neu ar-lein trwy Eventbrite:
Lleoliad wyneb yn wyneb Sut i ddod o hyd i ni | Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (rwcmd.ac.uk)
Agenda
Bydd y digwyddiad yn agor gyda lluniaeth am 09:30, er mwyn dechrau am 10:00, ac yn gorffen tua 15:45. Darperir cinio poeth yn ystod yr awr ginio.
Cyhoeddi’r siaradwyr
Mae enw’r Prif Siaradwr wedi’i gyhoeddi:
Yr Athro Judith Green
Mae Judith Green yn Athro Cymdeithaseg a Chyfarwyddwr Canolfan Wellcome ar gyfer Diwylliannau ac Amgylcheddau Iechyd ym Mhrifysgol Caerwysg. Mae hi wedi ymchwilio a chyhoeddi’n eang ar drafnidiaeth ac iechyd, gan gynnwys astudiaethau o anghydraddoldebau o ran anafiadau, a gwaith yn cloriannu ymyriadau polisi fel teithio ar fysiau yn rhad ac am ddim i bobl ifanc, parthau 20mya, a lleihau goleuadau stryd.
Tegwch o ran trafnidiaeth, diwylliant a ‘rhyfeloedd diwylliannol’
Mae systemau trafnidiaeth, yn eu hanfod, yn anfanteisiol i’r bobl hynny sydd ar gyrion eithaf cymdeithas, gan mai hwy sy’n gallu manteisio leiaf ar adnoddau teithio, a hwy sy’n wynebu risgiau uwch o ran llygredd ac anafiadau ar y ffyrdd. Eto i gyd, nid yw’r ymdrechion polisi diweddaraf i liniaru’r anghydraddoldebau hyn yn y DU – cymdogaethau traffig isel neu barthau 20mya cenedlaethol yng Nghymru – wedi cael eu croesawu’n gyffredinol. Er efallai fod y gwrthwynebiad yn strategol (trwy greu sefyllfa o ‘ryfel diwylliannol’), mae hefyd yn rhybudd i beidio ag anwybyddu ffactorau cymdeithasol a diwylliannol wrth gynllunio i gael tegwch o ran trafnidiaeth. Mae cael seilwaith da i drafnidiaeth yn amod angenrheidiol, ond nid yn ddigonol, i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau. Mae angen i ni hefyd gael ymwybyddiaeth o groestoriadedd wrth feithrin tegwch o ran trafnidiaeth: sut mae’r cysylltiadau rhwng elfennau megis byw mewn ardaloedd gwledig, oedran, ethnigrwydd, rhywedd a dosbarth cymdeithasol yn effeithio ar sut y defnyddir seilwaith newydd. Ac mae angen i ni ystyried arwyddocâd diwylliannol y dulliau o symudedd ar draws y croestoriadau hyn. Bydd y cyflwyniad hwn yn defnyddio astudiaethau a wnaed o ddefnyddwyr gwahanol ddulliau o drafnidiaeth i ddangos sut mae diwylliannau symudedd yn ffurfio ymateb pobl wrth iddynt ymdrin â seilwaith sy’n newid, a sut y gellir ystyried hyn wrth gynllunio. Er y gallai’r rhai hynny sydd a’u bryd ar danseilio barhau i annog ‘rhyfeloedd diwylliannol’ yn yr ymdrech i wella systemau trafnidiaeth, rydym yn fwy tebygol o gael cefnogaeth eang wrth edrych o ddifri ar y diwylliant o’r cychwyn cyntaf.
Cyflwyniadau/trafodaethau:
1 . Dr Angela Smith , Prifysgol Bournemouth.. Visiting the countryside – impacts and opportunities for transport and health .
Sefydlwyd y Rhwydwaith Datgarboneiddio Teithio Hamdden i rannu gwybodaeth ac arfer da â sefydliadau sy’n ymwneud ag ymchwil, darpariaeth neu bolisi teithio, a datblygu a hyrwyddo teithio hamdden cynaliadwy.
Mae ymweld â Pharciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ac ardaloedd twristiaeth gwledig eraill yn ddibynnol ar geir i raddau helaeth, yn rhannol oherwydd cyfyngiadau hygyrchedd ond hefyd oherwydd arferion ymweld sy’n datblygu wrth i berchnogaeth ceir yn y DU barhau i dyfu. Nid yw problemau tagfeydd, parcio anghyfreithlon, sŵn ac ymyrraeth weledol sy’n digwydd ar gyrion Parciau Cenedlaethol erioed wedi’u datrys. Yn hytrach, maent wedi cynyddu o ran maint gyda’r her ychwanegol o leihau allyriadau carbon.
Bydd y cyflwyniad hwn yn rhoi trosolwg o faterion allweddol sy’n ymwneud â phatrymau ymweld gwledig y DU sydd wedi’u hadnabod trwy waith y Rhwydwaith. Rydym yn dadansoddi goblygiadau iechyd y materion hyn ac yn gwahodd trafodaeth ynghylch y gorgyffwrdd rhwng y galw am deithio hamdden ac iechyd.
2. Michelle Symes, Swyddog Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Gwledig Cymru. Teithiau Cerdded Lles
Cynhaliwyd y fenter Teithiau Cerdded Lles gan Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (RHCW), mae’n cysylltu â’r agenda ataliol ac mae’n hyrwyddo effeithiau cadarnhaol cerdded yn yr awyr agored ar iechyd a lles, gyda chysylltiad iechyd traddodiadol trwy ddechrau pob taith o safle iechyd cydnabyddedig (meddygfeydd teulu / ysbyty). Bwriad y fenter yw hyrwyddo manteision cadarnhaol cerdded yn yr awyr agored ym myd natur ar iechyd corfforol a lles. O ganlyniad, cafodd cyfres o deithiau cerdded eu mapio allan ar daflenni, a oedd hefyd yn nodi mannau o ddiddordeb o ran bywyd gwyllt, diwylliant a hanes ar y teithiau cerdded, gan restru hefyd yr effaith gadarnhaol y mae cerdded yn ei chael ar iechyd a lles.
Hwn fydd cyflwyniad agoriadol y cyflwyniad ar daith gerdded a recordiwyd yng Nghynhadledd THINK.
Cyflwyniadau byr a sesiwn holi ac ateb
- Bus Buddies and beyond! a gyflwynir gan Emma Bingham o Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol Cymru. Pa wersi allwn ni eu dysgu o’r prosiect bydis bws arloesol yn Sir Benfro a fydd yn ein galluogi i greu hyfforddiant teithio pwrpasol sy’n gynhwysol a chefnogol ac sy’n caniatáu i bawb yn ein cymunedau gael mynediad at gludiant cymunedol a chyhoeddus sy’n diwallu eu hanghenion.
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddyfarniadau’r gronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth mewn Cymunedau: Increasing Mobility of Young Girls by Giving Scooties a gyflwynir o bell gan Shahla Tabassum o Brifysgol Menywod Fatima Jinnah, Pacistan. Age Connects Morgannwg: Transport Research cyflwyniad gan Rachel Rowlands, Prif Swyddog Gweithredol Age Connects Morgannwg.
Gweithdai
Collaborative working – the future of leadership gyda Ken Perry
Amcanion
Yn ein gweithdy byddwn yn gweithio drwy bedwar cwestiwn strategol allweddol:
1. Beth yw arweinyddiaeth a’r gwahaniaeth rhwng rheolaeth ac arweinyddiaeth
2. Sut beth yw arwain y tu hwnt i’ch sefydliad
3. Sut mae adeiladu cynulliadau i fynd i’r afael â heriau strategol tymor hir
4. Sut mae adnabod gwahanol fathau o rym a chrynhoi adnoddau i gael canlyniadau
Ken Perry
Sefydlodd Ken yr ymarfer arweinyddiaeth, Do-Well, yn 2014, sy’n gweithio i alluogi pobl, lleoedd a sefydliadau i ddod o hyd i’w pwrpas, gwneud yn dda a llwyddo. Mae ganddo dros 40 mlynedd o brofiad yn gweithio ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, o’r lefel isaf i fod yn Brif Weithredwr am 14 mlynedd. Mae Ken yn darparu cefnogaeth un i un i arweinwyr, yn ogystal â gweithio gyda thimau gweithredol, Byrddau, mudiadau cymdeithasol a chymunedau i’w cefnogi i saernïo a chyflawni eu pwrpas a’u nodau, gan weithio gyda nhw i weithredu ac, yn hollbwysig, mewn llawer o achosion, aros gyda nhw trwy hynt a helynt bywyd arweinyddol. Yn ei rolau eraill, mae’n Gymrawd Diwydiannol Gwadd ym Mhrifysgol Wrecsam, yn un o sylfaenwyr Mudiad 2025 yng Ngogledd Cymru ac yn Is-gadeirydd Elusen a Gwasanaethau Gwirfoddol Lerpwl. Mae ganddo MBA o Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored, mae’n Gymrawd yr RSA ac yn aelod o’r Sefydliad Tai Siartredig drwy arholiad. Yn 2021 cwblhaodd Ken y rhaglen arweinyddiaeth, trefnu a gweithredu yn Ysgol Harvard Kennedy.
3 simple practices for better communication gyda Mike Corcoran
Mike Corcoran
Prifysgol Wrecsam /Lab Cyd-gynhyrchu Cymru, Ymchwilydd /YmgynghoryddGwadd.
Mae Mike yn ymchwilydd annibynnol ac ymgynghorydd sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru, ac mae’n arbenigo mewn cydgynhyrchu, cyfathrebu ac ymgysylltu. Yn ogystal â’i waith annibynnol, mae Mike yn Ymchwilydd Gwadd ym Mhrifysgol Wrecsam ac yn Ymgynghorydd gyda Lab Cyd-gynhyrchu Cymru. Mae Mike wedi gweithio’n helaeth fel siaradwr cyhoeddus a hyfforddwr i’r rhai sy’n siarad yn gyhoeddus eu hunain, ac yn arwain cyrsiau byr ‘Cyflwyniad i Siarad yn Gyhoeddus’ Prifysgol Wrecsam.
A mwy….
Posteri, bwyd poeth, cerddoriaeth fyw a chyfle i gwrdd â chymysgedd o unigolion o’r un anian o’r byd academaidd, meysydd polisi, ymarfer a’r trydydd sector sy’n gweithio’n galed i integreiddio trafnidiaeth ac iechyd.
Hygyrchedd y lleoliad a’r ddarpariaeth ar-lein
THINK-Winter-Conference-Accessibilty-Statement-1
Stondinau a Phosteri
Os hoffech archebu lle ar gyfer stondin neu boster yn y gynhadledd wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd, anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk