Ionawr 2023
Prosiectau Trafnidiaeth ac Iechyd yn y Gymuned
Mae’n bleser gan Rwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd gyhoeddi ei fod yn cefnogi pedwar prosiect sy’n mynd i’r afael â rôl trafnidiaeth yn y dasg o greu cymuned iach. Y prosiectau a ddewiswyd oedd:
Age Connects Morgannwg: Ymchwil Trafnidiaeth
dan arweiniad Bethan Shoemark-Spear, Rheolwr Partneriaeth, Polisi a Datblygiad Strategol Age Connects Morgannwg.
Mae Age Connects Morgannwg yn sylwi ar gynnydd yn y galw am gymorth gyda materion trafnidiaeth gan y bobl hŷn yn eu hardal ac eisiau deall mwy am y rheswm, er enghraifft, ai prinder trafnidiaeth gyhoeddus sy’n gyfrifol? Ai’r ffaith nad oes modd iddynt gyrraedd eu gorsaf fysiau neu drên agosaf yn ddiogel sy’n gyfrifol? Ai diffyg hyder i deithio ar eu pen eu hunain? Bydd y prosiect yn trefnu a chynnal trafodaethau gyda phobl hŷn a staff cymorth ac yn rhoi amser i ddadansoddi’r ymatebion er mwyn darparu gwasanaeth sydd wedi’i deilwra’n well i anghenion pobl hŷn. Dylai eu helpu i ddod yn annibynnol ac i fynd allan i’r awyr agored.

Cynyddu Symudedd Merched Ifanc trwy Roi ‘Sgwtis’
arweinir gan Dr. Nashia Ajaz, Darlithydd Astudiaethau Rhyw ym Mhrifysgol Menywod Fatima Jinnah, Pacistan.
Sgwtis yw’r enw ar feiciau moped ym Mhacistan. Nod y prosiect hwn yw helpu myfyrwyr benywaidd 18-25 oed, y cyfyngir ar eu symudedd oherwydd normau diwylliannol a chrefyddol Pacistan. Mae llawer o fyfyrwyr benywaidd yn rhoi’r gorau i’w haddysg am eu bod yn wynebu aflonyddu a cham-drin rhywiol wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sydd wedi ei gynllunio yn bennaf ar gyfer dynion ym Mhacistan a dynion sy’n ei ddefnyddio fwyaf. Bydd y prosiect yn cynnig prynu sgwtis yn ogystal â rhoi hyfforddiant a chefnogaeth i fyfyrwyr benywaidd. Nod y prosiect yw rhoi’r hawl i symudedd, ac annibyniaeth i fenywod ifanc, a’u helpu i fagu hyder. Bydd y prosiect yn cysylltu â menter debyg yng Nghymru.

Cynhwysiant cymdeithasol trwy gludiant cymunedol
Arweinir gan Gemma Lelliott, Cyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA).
Nod y prosiect yw gweithio gyda chymuned benodol sy’n wynebu rhwystrau cymdeithasol sylweddol i gynhwysiant – pobl ag anableddau dysgu – a dod o hyd i opsiynau trafnidiaeth a chymorth a fydd yn helpu i feithrin cysylltiad cymdeithasol. Drwy sicrhau gwasanaethau trafnidiaeth da, daw gwasanaethau a gweithgareddau yn y gymuned leol yn fwy hygyrch a chaiff pobl ag anableddau fwy o ddewis a rheolaeth dros eu bywydau. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos y rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig lle mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r prosiect hwn yn gatalydd i annog trafod a gweithredu ar newid arferion gwaith, a dod o hyd i ffyrdd i’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol allu cefnogi gweithredwyr i ymestyn eu gwasanaethau er mwyn cefnogi lles pobl yn well.
Nod cyffredinol y prosiect yw ei ddefnyddio fel cam ymlaen tuag at waith y dyfodol – bydd yn rhoi ciplun o rwystrau allweddol ac yn ein helpu i adnabod y camau nesaf. Y prosiect hwn yw’r man cychwyn er mwyn i ni ddechrau, gyda’n gilydd, mynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau sefydliadol ac agweddol i deithio. Y gobaith yw gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy gefnogi pobl ag anableddau dysgu i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn rhwydwaith trafnidiaeth sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Mae’r prosiect eisiau helpu i wneud newidiadau gwirioneddol ac effeithiol i’r ffordd y caiff gwasanaethau bysiau, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gymunedol eu darparu os nad ydynt yn diwallu anghenion pobl ag anableddau dysgu. Rydym yn cydnabod y bydd y gwaith hwn yn cymryd llawer mwy o amser na’r prosiect cychwynnol.

Annog Teithio Llesol Yn Y Drenewydd
dan arweiniad Ruth Stafford, Swyddog Prosiect, Canolbarth Cymru. Sustrans
Bwriad y prosiect hwn yw helpu pobl sy’n byw yn y Drenewydd, yn enwedig yn ardal ystâd Treowen, i gerdded, beicio a rowlio mwy. Bydd y prosiect yn rhoi gwybodaeth am opsiynau trafnidiaeth, yn enwedig teithio llesol, ac yn gweithio tuag at sefydlu cynllun cydymaith teithio perthnasol i gefnogi’r trigolion (os yw’n briodol).

Ionawr 2023
Seminar Mannau Chwarae, Ionawr 17eg 16:30-17:30 ar-lein
Os na chawsoch gyfle i fynychu’r digwyddiad, gallwch wylio ar-lein https://www.youtube.com/watch?v=tQEppOkwIUs
Bydd y siaradwyr gwadd Dr Matluba Khan a’r Athro Alison Stenning yn ymuno â ni i siarad am gynnwys plant a phobl ifanc wrth gynllunio mannau trefol a chreu mannau chwarae. Bydd y sgyrsiau’n edrych ar fanteision chwarae mewn mannau cyhoeddus a mannau lle caiff pobl o bob oed ddod at ei gilydd i gymdeithasu yn yr awyr agored. Edrychir ar her creu mannau chwarae, neu dreulio amser hamddenol gyda chymdogion, ffrindiau a theulu, mewn cymunedau.
Digwyddiadau blaenorol yn 2022
Rhagfyr 2022
Gweinidog yn Agor y Ganolfan Trafnidiaeth a Symudedd
Cynhaliwyd lansiad swyddogol canolfan ymchwil newydd Prifysgol Aberystwyth, y Ganolfan Trafnidiaeth a Symudedd, ar y 1af o Ragfyr yn ystod Gŵyl Ymchwil y Brifysgol. Bydd y ganolfan newydd a gaiff ei chyd-gyfarwyddo gan yr Athro Peter Merriman (Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Amgylcheddol) a’r Athro Charles Musselwhite (Seicoleg; cyd-gyfarwyddwr THINK) yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar symudedd a thrafnidiaeth o safbwynt y gwyddorau cymdeithasol ac ymddygiadol a’r Dyniaethau.

Thema’r diwrnod oedd trafnidiaeth, symudedd ac iechyd a dechreuodd gyda Matthew Jarvis yn darllen ei gerdd am gerdded – Milltir Sgwâr, rhan o dair cerdd a ysgrifennwyd yn canmol cerdded ar gyfer THINK (gweler https://think.aber.ac.uk/in-praise-of-walking/).

Trafododd y prif siaradwr, Dr Justin Spinney o Brifysgol Caerdydd, fod angen dulliau gwahanol o fesur teithio a thrafnidiaeth, a ydyn ni’n mesur yr hyn sy’n wirioneddol bwysig? Sut mae teithio llawen, er enghraifft, yn ffitio i fodelau trafnidiaeth?

Trafododd Dr Rachel Rahman, Cyfarwyddwr y Ganolfan am Ragoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig sut y gall fod yn anodd i ardaloedd gwledig ddilyn cyngor teithio llesol – palmentydd gwael, goleuadau gwael, diffyg cysylltedd sy’n arwain at brinder lleoedd ar gyfer teithio llesol ac ar gyfer cyfarfod yn anffurfiol ac yn ffurfiol.

Yn olaf, cawsom ein hatgoffa gan yr Athro Peter Merriman fod symudedd a symudiad yn ganolog i’n bywydau. Mae’r symudeddau fel maes yn canolbwyntio ar hyn drwy gyfrwng amrywiaeth o ddulliau creadigol, gan gynnwys rhai o’r celfyddydau a’r dyniaethau ac maent yn bwysig o ran llywio polisi ac ymarfer ond anaml y rhoddir iddynt y sylw y maent yn ei haeddu.

Cynhaliwyd y lansiad swyddogol gan Lee Waters, AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, a siaradodd bod angen i ganolfan o’r fath fod yn sail i faterion trafnidiaeth cyfredol. Gofynnodd inni i gyd feddwl yn wahanol am drafnidiaeth gan ein hatgoffa bod trafnidiaeth, yn ei hanfod, yn ymwneud â phobl a chyfiawnder cymdeithasol.

Ategwyd y sgyrsiau gan wybodaeth a stondinau gan THINK, yn rhannu rhywfaint o’r ymchwil allweddol hyd yma, a bu SUSTRANS yn rhannu gwybodaeth am eu prosiect E-Symud.

Mae’r Ganolfan Trafnidiaeth a Symudedd yn bwriadu ychwanegu at y lansiad hwn trwy gynnwys mwy o academyddion o wahanol ddisgyblaethau ac mae’n gwahodd pobl o feysydd polisi ac ymarfer i gysylltu. Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Ganolfan yn https://cetram.aber.ac.uk
Charles Musselwhite chm93@aber.ac.uk
Peter Merriman prm@aber.ac.uk
Hydref 2022
THINK yn lansio’r Gronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned
Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yng Nghaerdydd
Mynychodd tîm cyflwyno’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd (THINK) gynhadledd YIGC yng Nghaerdydd ar 13 Hydref 2022 a chafwyd sgyrsiau diddorol yn y stondin a lansio Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned.
Bydd tîm cyflwyno THINK yng nghynhadledd YIGC yng Nghaerdydd ar Hydref y 13eg, dewch draw i’n stondin i ddweud helo!
Digwyddiad i ddod – Mehefin 2022

Cynhadledd Ryngwladol ar Drafnidiaeth ac Iechyd 2022
Edrych ar y ffactorau macro wrth nodi’r Penderfynyddion Cymdeithasol Iechyd micro
Dyddiad y gynhadledd: 13 – 30 Mehefin 2022
DIWRNODAU WYNEB YN WYNEB a RHITHWIR
- Caerdydd, Cymru (y Deyrnas Unedig) – Prynhawn yr 21ain o Fehefin (13:00 – 17:30) a diwrnod llawn ar yr 22ain o Fehefin (09:00 – 17:00)
- Denver, Colorado (UDA) – 27 a 28 Mehefin
- Montreal, Canada – 16 a 17 Mehefin
Mae’n bleser gan THINK weithio mewn partneriaeth â’r gynhadledd hon i hwyluso ei hymweliad â Chaerdydd. Ymunwch â ni ar yr 21ain a’r 22ain o Fehefin wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd, neu ar-lein.
Byddwn yn cydlynu prif areithiau, gweithdai i drafod pynciau dadleuol y dydd, cyflwyniadau ar waith ymchwil gwyddonol ac ymarferol (wyneb yn wyneb a rhithwir) a digwyddiadau cymdeithasol. Gall y sesiynau ymchwil wyneb yn wyneb hefyd gynnwys cyflwyniadau rhithwir, yn dibynnu ar ba awduron fydd ar gael ar y dydd. Agenda lawn i’w chadarnhau. Ymhlith y pynciau trafod fydd canfyddiadau o symudedd, cydraddoldeb trafnidiaeth, cymudo, cerdded, gwasanaethau iechyd, a seilwaith. Hefyd taith gerdded, llogi beiciau dwy olwyn a thair olwyn wedi’u haddasu, ac achlysur cymdeithasol gyda gêm griced. Byddwn yn tynnu sylw aelodau rhwydwaith THINK at yr agenda lawn ar ôl ei lansio.

Rydym yn bwriadu cynnal rhai digwyddiadau rhwydweithio cymdeithasol wyneb yn wyneb hwyliog ar brynhawn yr 21ain Mehefin yng nghanol Caerdydd, gan orffen â thaith ddewisol i wylio un o weithgareddau hamdden enwocaf Prydain – gêm griced!
Cynhelir yr ail ddiwrnod llawn yng Ngerddi Soffia yng nghanol Caerdydd ar yr 22ain o Fehefin. Gallwch gyrraedd y lleoliad yn rhwydd ar droed, beic, trên neu fws (gan gynnwys cysylltiadau rhyngwladol o Lundain). I’r rhai sy’n teithio o bell, mae’r lleoliad hwn hefyd yn agos at lawer o lefydd i aros.
I wybod sut i gyrraedd y gynhadledd, ewch i’r wefan Gerddi Sophia | Criced Morgannwg
Bydd rhaglen gyfan y gynhadledd, gan gynnwys y sesiynau wyneb yn wyneb a sesiynau rhithwir amser real, yn cael ei recordio a bydd ar gael i bob cynrychiolydd sydd wedi’i gofrestru.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gael lle yn y gynhadledd, ewch i brif wefan y gynhadledd Cardiff, Wales: 21-22 June (tphlink.com).


Os ydych chi’n arbenigwr ar iechyd cyhoeddus, yn academydd trafnidiaeth, peiriannydd seilwaith, rheolwr ystâd, gweithiwr GIG, ymchwilydd trafnidiaeth ac iechyd, rhagnodwr cymdeithasol, lluniwr polisi trafnidiaeth neu iechyd, neu’n unrhyw un arall gyda diddordeb mewn mynd i’r afael â’r heriau a geir pan fydd trafnidiaeth ac iechyd yn croestorri, ymunwch ag un o’n gweithdai i ganfod datrysiadau i’r heriau hyn.
Yn y gweithdy hwn byddwn yn:
• Nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer trafnidiaeth ac iechyd
• Nodi rhwystrau i gyflawni blaenoriaethau trafnidiaeth ac iechyd
• Ystyried y ffordd orau i gefnogi’r rheini sy’n cydweithio mewn trafnidiaeth ac iechyd
• Datblygu agenda i symud ymlaen i fynd i’r afael â blaenoriaethau allweddol trafnidiaeth ac iechyd
Dydd Mawrth Mai 17 2022 CADWCH EICH LLE AM DDIM https://www.eventbrite.co.uk/e/328744703257
Dydd Iau Mai 26 2022 CADWCH EICH LLE AM DDIM https://www.eventbrite.co.uk/e/328824552087
Mae rhagor o ddyddiadau i’w cyhoeddi, felly e-bostiwch think@aber.ac.uk os hoffech ymuno â ni ond nad yw’r dyddiadau hyn yn gyfleus ichi.