Skip to content

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

Menu
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Tîm
  • Adnoddau Academi THINK
    • Blog Archwilio Trafnidiaeth ac Iechyd
    • Adnoddau Teithio Llesol
    • Adnoddau Gwahanu Cymunedau o boptu Ffyrdd
    • Adnoddau Diogelwch Defnyddwyr Ffyrdd
    • Adnoddau Llygredd Aer a Sŵn
    • Cyhoeddiadau THINK
    • Trafnidiaeth a dull gweithredu Iechyd Cyfunol
  • Newyddion
  • Cysylltu â ni
  • Cymryd rhan
  • CymraegCymraeg
    • EnglishEnglish
    • CymraegCymraeg
Menu

Amdanom ni

Sustainable city in a form of brain

Ariennir rhwydwaith THINK gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae’n cael ei arwain gan Charles Musselwhite, Athro mewn Seicoleg, Prifysgol Aberystwyth, a Dr Sarah Jones, Ymgynghorydd ym maes Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ffowndri THINK

Bydd Ffowndri THINK yn atgyfnerthu’r rhwydwaith â gwybodaeth newydd.  Bydd y ffowndri’n darparu:

  1. Cymorth i ymchwilwyr ac ymarferwyr gydweithio’n systematig i ddatblygu, cyflwyno a sicrhau cyllid newydd ar gyfer ymchwil
  2. Cymorth i ddefnyddio ymchwil mewn polisïau ac yn ymarferol drwy gynnal gweithdai gyda rhanddeiliaid allweddol â’r bwriad o sicrhau’r effaith fwyaf posibl
Academi THINK

Bydd Academi THINK yn cyfoethogi’r rhwydwaith drwy gynyddu gwybodaeth a sgiliau ym maes trafnidiaeth ac iechyd. Bydd yr academi yn darparu crynodebau o ganfyddiadau ymchwil a deunyddiau eraill i gefnogi gwybodaeth a thwf rhwydwaith THINK, gwefan, seminarau bob ychydig fisoedd a chynhadledd flynyddol. Bydd yn cefnogi hyfforddi gweithwyr proffesiynol sy’n newydd i faes trafnidiaeth ac iechyd, gan gynnwys:

  1. Gweithdy datblygiad proffesiynol parhaus blynyddol
  2. Cefnogaeth ar ffurf hyfforddiant pwrpasol
  3. Cynllun mentora systematig gydag ymchwilwyr profiadol.
  • Image: iStock.com/SolStock
Ymwneud â THINK

Bydd elfen Ymwneud â THINK yn datblygu dealltwriaeth gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd o’r berthynas rhwng trafnidiaeth ac iechyd.

Bydd Ymwneud yn meithrin cydweithio drwy gefnogi cyfleoedd am secondiadau ymchwil byr i bobl o fyd ymchwil ym maes polisi neu mewn gwaith ymarferol. Bydd Ymwneud yn darparu’r un cyfleoedd i bobl o fyd polisi a gwaith ymarferol gael profiad mewn lleoliadau academaidd.

Bydd Ymwneud yn cynnwys y cyhoedd drwy gyfrwng sioeau teithiol rhyngweithiol, ymchwil a chrynodebau polisi hygyrch, a dulliau cyfranogol a allai gynnwys adrodd straeon, ffilm, ffotograffiaeth, cyfweliadau ar leoliad, neu fonitro llygredd aer neu ddiogelwch ar y ffyrdd, er enghraifft.

Bydd dull cyfranogol rhwydwaith THINK yn helpu i flaenoriaethu materion allweddol a chynnwys pobl wrth ddatblygu’r polisïau a fydd yn effeithio ar ddyfodol eu cymuned, eu hiechyd, eu lles a’u symudedd. 

Ariennir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru – Ymchwil Heddiw; Gofal Yfory

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n darparu seilwaith i gefnogi a chynyddu gallu ym maes ymchwil a datblygu, yn rhedeg cynlluniau ariannu ymatebol ac yn darparu cyllid i GIG Cymru i gefnogi gwaith datblygu a chyflawni ymchwil er budd cleifion a’r cyhoedd.

Mae ein seilwaith arloesol a’n portffolio o raglenni a ariennir yn cydgrynhoi, yn diweddaru ac yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi’i greu a’i gyflawni hyd yma, gan osod Cymru yn y rheng flaen yn rhyngwladol ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae ein seilwaith yn caniatáu ffocws mwy eglur ar feysydd rhagoriaeth presennol Cymru a rhai sy’n dod i’r fei, ac yn sicrhau dull o weithredu integredig, rhyngddisgyblaethol, rhyngasiantaethol, Cymru-gyfan, yn amrywio o ddatblygu ymchwil i newidiadau mewn arfer yn seiliedig ar dystiolaeth ymchwil.

Mae pobl Cymru’n ganolog i’r seilwaith a’r rhaglenni sy’n arwain at enillion mawr o ran iechyd a llesiant, o ran effeithiolrwydd gwasanaethau ac o ran cynhyrchu cyfoeth cenedlaethol.

  • Hysbysebu yng Nghymru a’r DU: yr angen i integreiddio trafnidiaeth ac iechyd er mwyn creu lleoedd iachach
THINK - the Transport and Health Integrated research NetworK
Prifysgol Aberystwyth University
Health and Care Research Wales
NHS Wales - Public Health Wales
Tweets by TransportHealth
©2022 Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) | Built using WordPress and Responsive Blogily theme by Superb