Skip to content

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

Menu
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Tîm
  • Blog Archwilio Trafnidiaeth ac Iechyd
  • Podlediad y THINK
  • Adnoddau Academi THINK
    • 20mya ac iechyd
    • Adnoddau Teithio Llesol
    • Adnoddau Gwahanu Cymunedau o boptu Ffyrdd
    • Adnoddau Diogelwch Defnyddwyr Ffyrdd
    • Adnoddau Llygredd Aer a Sŵn
    • Cyhoeddiadau THINK
    • Trafnidiaeth a dull gweithredu Iechyd Cyfunol
  • Prosiectau rhwydwaith THINK
    • Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd
      • Derbynwyr y Gwobrau 2023
    • Bws Rhywedd+Cymru: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad treisgar yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru
  • Newyddion
  • Cysylltu â ni
  • Cymryd rhan
  • CymraegCymraeg
    • EnglishEnglish
    • CymraegCymraeg
Menu

Cwrdd â’r Tîm

Dr Sarah Jones yw Cyd-Gyfarwyddwr THINK ac mae’n Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae gan Sarah ddiddordeb ers tro mewn anafiadau traffig ffordd ac anghydraddoldebau.

Roedd ei PhD yn astudio anafiadau i blant oedd yn gerddwyr ac amddifadedd ac mae wedi bod yn eiriol dros gyflwyno Trwyddedu Gyrwyr Graddedig ers blynyddoedd lawer.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ei diddordeb wedi datblygu’n ehangach i gwmpasu’r cysylltiadau rhwng trafnidiaeth ac iechyd, gan gynnwys gwaith ar gyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mph yng Nghymru.

Mae Charles Musselwhite yn Athro Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n Gyd-Gyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK). Mae ei ymchwil yn cynnwys cymhwyso seicoleg i ddeall a gwella symudedd pobl gan gynnwys perthnasoedd rhwng yr amgylchedd adeiledig a thrafnidiaeth ac iechyd a llesiant. Yn benodol, mae ganddo arbenigedd mewn gerontoleg amgylcheddol, archwilio perthnasoedd rhwng yr amgylchedd ac iechyd mewn cyfnodau bywyd hwyrach, gan gynnwys diogelwch pobl hŷn wrth ddefnyddio ffyrdd, rhoi’r gorau i yrru, lleihau ynysu ac unigrwydd a chreu cymdogaethau a chymunedau sy’n addas ar gyfer pob oed.

Mae wedi gweithio ar o ddeutu 40 prosiect fel Prif Ymchwilydd neu Gyd-Ymchwilydd gyda chyfanswm o dros £25m o incwm ymchwil. Ar hyn o bryd mae’n gyd-Gyfarwyddwr prosiect y Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia (CADR) a gyllidir gan Lywodraeth Cymru i ddod ag ymchwil i heneiddio a pholisi ac ymarfer at ei gilydd yng Nghymru. Mae ganddo dros 65 o gyhoeddiadau ymchwil, gan gynnwys awduro 5 cyfrol. Mae’n Brif Olygydd y Journal of Transport & Health Elsevier ac mae ar fwrdd golygyddol EnvisAGE Age Cymru a Research in Transportation Business & Management Elsevier.

Ceir rhagor o wybodaeth am ei waith yma: www.drcharliemuss.com

Mae Dr Lucy Baker yn Gydymaith Ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg, Prifysgol Aberystwyth. Bydd Lucy yn cefnogi gweithgareddau ymchwil THINK, gan gasglu ymchwil a thystiolaeth at ei gilydd a’u rhannu, ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid, datblygu ceisiadau am gyllid a phortffolio o ymchwil a gweithgareddau yn y dyfodol i THINK.

Diddordeb Lucy yw datblygu ymchwil sy’n archwilio sut y caiff anghydraddoldebau iechyd eu strwythuro, beth sydd gan drafnidiaeth a chynllunio trefol i’w wneud â gwahaniaethau o ran iechyd, llesiant a gofal, a beth y gallwn ni ei wneud i leihau anghydraddoldebau iechyd i alluogi ansawdd bywyd gwell i bawb.

Mae ymchwil blaenorol Lucy wedi archwilio llafur platfform digidol yn India a sut mae’n croestorri â thechnolegau arian newydd gyda golwg ar gynyddu ecwiti cymdeithasol arloesiadau, gwaith yn y dyfodol a’r defnydd o ddata mawr. Roedd ei doethuriaeth yn edrych ar drosglwyddo ymyriadau symudedd seiclo i wledydd datblygol gyda gwaith maes yn Namibia.

Amy Nicholass yw’r Prif Swyddog Prosiect a’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau i’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd – THINK.

Mae gan Amy radd Meistr mewn Gwyddor Amgylcheddol a chyn hyn bu’n rheoli prosiectau ymchwil yn ymwneud â heriau amgylcheddol ac iechyd pan fu’n gweithio yn Sefydliad Arweinyddiaeth Cynaladwyedd Prifysgol Caergrawnt ac yn rhan o dîm polisi Eunomia Research and Consulting. Mae Amy wedi rheoli dau rwydwaith o’r blaen – ClimateWise a Go Green, gan weithio gyda channoedd o fusnesau i hwyluso rhannu eu gwybodaeth a’u profiad. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn edrych ar drafnidiaeth ac iechyd o safbwynt systemau rhyng-gysylltiedig. Mae gan Amy hefyd lawer o brofiad o drefnu digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb gydag ymarferwyr a’r cyhoedd.

Mae Amy wrth ei bodd yn hwyluso digwyddiadau i randdeiliaid ac mae’n mwynhau seiclo a cherdded a bod yng nghanol natur, yn enwedig y môr. 

  • THINK – mae’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn chwilio am uwch reolwyr cwmnïau bysiau i gymryd rhan yn ein hymchwil. 
  • Offer i’w defnyddio i leihau effaith rwystrol ffyrdd prysur ar gerddwyr  
  • Agor y Strydoedd i Chwarae
  • E-seiclo: cyfleoedd i alluogi cynhwysiant mewn teithio gweithredol
  • Adroddiad Gweithdai Gosod Agenda THINK
THINK - the Transport and Health Integrated research NetworK
Prifysgol Aberystwyth University
Health and Care Research Wales
NHS Wales - Public Health Wales
Tweets by TransportHealth
©2023 Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) | Built using WordPress and Responsive Blogily theme by Superb