Mae sawl ffordd o ymwneud â rhwydwaith THINK
- Ymaelodi â THINK – gallwch gofrestru’n hawdd trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein
- Ymuno â’n Cymuned Ymarfer – gallwch ddysgu am y themâu penodol ac ymuno ag un neu fwy ohonynt
- Dilyn negeseuon THINK ar y cyfryngau cymdeithasol @TransportHealth
- Ymuno â grŵp LinkedIn THINK: Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd – THINK | Groups | LinkedIn (Cynnwys allanol)
- Cyfrannu blog gwadd – anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan ddefnyddio’r llinell destun: Syniad Blog.
- Gwneud cais am grant ymchwil bach. Gweler y dudalen hon i weld y cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd. Fel arall, anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan ddefnyddio’r llinell destun: Gweithgaredd Ymchwil
- Gwneud gais am grant secondiad i roi cymorth pellach i gefnogi ymchwil ar drafnidiaeth ac iechyd. Defnyddir hyn i gynnal academydd mewn lleoliad polisi ac ymarfer, neu unigolyn o gefndir polisi ac ymarfer sy’n gweithio mewn lleoliad academaidd mewn prifysgol. I gael mwy o wybodaeth e-bostiwch think@aber.ac.uk gan ddefnyddio’r llinell destun: Secondiad
- Mynd i weithdy THINK neu gynnal gweithdy. Os oes gennych syniad am thema gweithdy, anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan ddefnyddio’r llinell destun: Syniad am weithdy
- Mynd i ddigwyddiad THINK trwy ymuno â rhwydwaith THINK yn gyntaf er mwyn cael gwybodaeth trwy e-bost.
- Mynd i gynhadledd THINK.
- Os ydych yn aelod o’r cyhoedd ac heb wneud hynny eisoes, cofrestru â Chymuned Cynnwys y Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a byddwn yn defnyddio’r llwyfan hwn i hysbysebu cyfleoedd ymchwil lle gellir cynnwys y cyhoedd: Cofrestru i gymryd rhan | Ymchwil Gofal Iechyd Cymru (healthandcareresearchwales.org)
- Cyfrannu at adnoddau i’w darparu ar wefan THINK. E-bostiwch think@aber.ac.uk gan ddefnyddio’r llinell destun: Adnoddau
Mae tîm THINK yn edrych ymlaen at eich cyfarfod yn fuan!