Skip to content

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

Menu
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Tîm
  • Blog Archwilio Trafnidiaeth ac Iechyd
  • Podlediad y THINK
  • Adnoddau Academi THINK
    • 20mya ac iechyd
    • Adnoddau Teithio Llesol
    • Adnoddau Gwahanu Cymunedau o boptu Ffyrdd
    • Adnoddau Diogelwch Defnyddwyr Ffyrdd
    • Adnoddau Llygredd Aer a Sŵn
    • Cyhoeddiadau THINK
    • Trafnidiaeth a dull gweithredu Iechyd Cyfunol
  • Prosiectau rhwydwaith THINK
    • Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd
      • Derbynwyr y Gwobrau 2023
    • Bws Rhywedd+Cymru: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad treisgar yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru
  • Newyddion
  • Cysylltu â ni
  • Cymryd rhan
  • CymraegCymraeg
    • EnglishEnglish
    • CymraegCymraeg
Menu

Cymryd rhan

Aerial view of crowd connected by lines

Cyfleoedd i Gymryd Rhan

Mae sawl ffordd o gymryd rhan yn rhwydwaith THINK

1. Dilynwch, hoffwch a rhannwch

negeseuon gwefannau cymdeithasol THINK gyda’ch rhwydweithiau presennol chi.

2. Ymunwch â dalen LinkedIn THINK

darllenwch y cod ymddygiad, a chytuno i gydymffurfio ag ef.

3. Ewch ati i ysgrifennu cyfraniad gwadd ar gyfer blog y rhwydwaith

Er mwyn trafod eich syniad ac i gael copi o ganllaw ysgrifennu blog THINK anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r canlynol fel Pwnc: Syniad ar gyfer y blog.

4. Oes gennych syniad am ddatblygiad ymchwil?

Byddwn yn hysbysebu cyfleoedd am gyllid grantiau bach ar gyfer ymchwil a chyllid effaith ymchwil wrth i’r cyfleoedd hynny godi. Cadwch olwg ar ein tudalen newyddion i gael manylion. Neu, os oes gennych syniad am ddatblygiad ymchwil neu brosiect sy’n rhoi ymchwil ar waith, dewch i drafod â ni ynglŷn â sut gallwn gefnogi eich syniad. Anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r geiriau canlynol fel Pwnc: Gwaith Ymchwil.

5. Rhowch gynnig ar fynd ar secondiad THINK neu gynnig secondiad.

Gallwn helpu i hwyluso secondiadau a chynnig grantiau bach er mwyn hybu ymchwil i drafnidiaeth ac iechyd. Gall hyn gynnwys cynnig secondiad i academydd ym meysydd polisi ac ymarfer, neu roi cyfle i rywun o faes polisi ac ymarfer i weithio  mewn sefyllfa academaidd mewn prifysgol am gyfnod byr. I gael gwybod mwy o wybodaeth am hyn anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r canlynol fel Pwnc: Secondiad

6. Cymryd rhan mewn trafodaeth ar-lein neu weithdy i gasglu gwybodaeth.

Os oes gennych syniad am weithdy ar thema trafnidiaeth ac iechyd anfonwch e-bost at think@ber.ac.uk gan roi’r canlynol fel Pwnc: Syniad am weithdy.

7. Cymryd rhan mewn seminar ar-lein i rannu gwybodaeth

Os hoffech gael gwybod am ddigwyddiadau anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r canlynol fel Pwnc: Hoffwn gael fy ychwanegu at eich rhestr ebostio am ddigwyddiadau. Cyn i chi wneud hyn darllenwch yr  Hysbysiad Preifatrwydd er mwyn i chi ddeall sut rydym yn defnyddio a chadw eich manylion personol, fel eich cyfeiriad e-bost.

8. Cynnal panel trafod mewn cynhadledd neu gymryd rhan mewn un ar ran rhwydwaith THINK

i hybu’r drafodaeth ynglŷn â Thrafnidiaeth ac Iechyd . Os hoffech wneud hyn anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r geiriau canlynol fel Pwnc: Posibiliadau panel cynhadledd.

9. Ewch i’r gynhadledd haf flynyddol

(manylion y trefniadau heb eu cadarnhau eto). Er mwyn cael gwybod pan gadarnheir y trefniadau, anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r canlynol fel Pwnc: Cais am gael manylion y gynhadledd.

10. Ffurfiwch bartneriaeth â sefydliad arall yn y rhwydwaith i wneud ymchwil

Efallai y gallwn ddod o hyd i sefydliadau neu bobl sydd â diddordebau tebyg. Rhowch wybod am eich cynlluniau a gallwn ddod o hyd i’r sefydliadau neu’r bobl addas. Anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r canlynol fel Pwnc: Cydweithio ar ymchwil.

11. Cyfrannwch i ymchwil ar ran THINK neu ymunwch â ni mewn partneriaeth o fewn rhwydwaith THINK

Os aelod o’r cyhoedd ydych chi, gallwch gofrestru yma, os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, i fod yn rhan o’r gymuned YIGC Cynnwys y Cyhoedd  . Gallwch wneud cynnig i gymryd rhan a gweld hysbysebion am gyfleoedd. Os aelod o grŵp cymunedol ydych chi, neu fusnes, awdurdod lleol, lluniwr polisi neu academydd anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r canlynol fel Pwnc: Ymchwanegwch fi at y rhestr ebostio newyddion ymchwil. Cyn i chi wneud hynny darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd sy’n cofnodi sut rydym ni’n cadw a defnyddio eich manylion personol fel eich cyfeiriad e-bost.

12. Ewch ati i gyd-ysgrifennu deunydd addysgiadol ac adnoddau ar gyfer  rhwydwaith THINK ac ar gyfer myfyrwyr

Rydym yn awyddus i’r gwahanol rannau o rwydwaith THINK ddeall safbwyntiau ei gilydd, gan gynnwys: helpu ein gilydd i ddeall y gwahanol derminoleg a ddefnyddir ar draws y rhwydwaith, y gwahanol ffyrdd o gasglu tystiolaeth ac o ddefnyddio canlyniadau ymchwil i wneud penderfyniadau, sut mae’r ymddygiad a’r strwythurau grym sydd eisoes yn bodoli mewn rhai rhannau o’r rhwydwaith yn cael effaith ar rannau eraill o’r rhwydwaith yn nes ymlaen. Os hoffech gyfrannu at yr adnoddau hyn anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r gair canlynol fel Pwnc: Adnoddau.

Mae tîm THINK yn edrych ymlaen at gwrdd â chi yn fuan!

  • THINK – mae’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn chwilio am uwch reolwyr cwmnïau bysiau i gymryd rhan yn ein hymchwil. 
  • Offer i’w defnyddio i leihau effaith rwystrol ffyrdd prysur ar gerddwyr  
  • Agor y Strydoedd i Chwarae
  • E-seiclo: cyfleoedd i alluogi cynhwysiant mewn teithio gweithredol
  • Adroddiad Gweithdai Gosod Agenda THINK
THINK - the Transport and Health Integrated research NetworK
Prifysgol Aberystwyth University
Health and Care Research Wales
NHS Wales - Public Health Wales
Tweets by TransportHealth
©2023 Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) | Built using WordPress and Responsive Blogily theme by Superb