Ariennir rhwydwaith THINK gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae’n cael ei arwain gan Charles Musselwhite, Athro mewn Seicoleg, Prifysgol Aberystwyth, a Dr Sarah Jones, Ymgynghorydd ym maes Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ffowndri THINK
Bydd Ffowndri THINK yn atgyfnerthu’r rhwydwaith â gwybodaeth newydd. Bydd y ffowndri’n darparu:
- Cymorth i ymchwilwyr ac ymarferwyr gydweithio’n systematig i ddatblygu, cyflwyno a sicrhau cyllid newydd ar gyfer ymchwil
- Cymorth i ddefnyddio ymchwil mewn polisïau ac yn ymarferol drwy gynnal gweithdai gyda rhanddeiliaid allweddol â’r bwriad o sicrhau’r effaith fwyaf posibl
Academi THINK
Bydd Academi THINK yn cyfoethogi’r rhwydwaith drwy gynyddu gwybodaeth a sgiliau ym maes trafnidiaeth ac iechyd. Bydd yr academi yn darparu crynodebau o ganfyddiadau ymchwil a deunyddiau eraill i gefnogi gwybodaeth a thwf rhwydwaith THINK, gwefan, seminarau bob ychydig fisoedd a chynhadledd flynyddol. Bydd yn cefnogi hyfforddi gweithwyr proffesiynol sy’n newydd i faes trafnidiaeth ac iechyd, gan gynnwys:
- Gweithdy datblygiad proffesiynol parhaus blynyddol
- Cefnogaeth ar ffurf hyfforddiant pwrpasol
- Cynllun mentora systematig gydag ymchwilwyr profiadol.
Image: iStock.com/SolStock
Ymwneud â THINK
Bydd elfen Ymwneud â THINK yn datblygu dealltwriaeth gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd o’r berthynas rhwng trafnidiaeth ac iechyd.
Bydd Ymwneud yn meithrin cydweithio drwy gefnogi cyfleoedd am secondiadau ymchwil byr i bobl o fyd ymchwil ym maes polisi neu mewn gwaith ymarferol. Bydd Ymwneud yn darparu’r un cyfleoedd i bobl o fyd polisi a gwaith ymarferol gael profiad mewn lleoliadau academaidd.
Bydd Ymwneud yn cynnwys y cyhoedd drwy gyfrwng sioeau teithiol rhyngweithiol, ymchwil a chrynodebau polisi hygyrch, a dulliau cyfranogol a allai gynnwys adrodd straeon, ffilm, ffotograffiaeth, cyfweliadau ar leoliad, neu fonitro llygredd aer neu ddiogelwch ar y ffyrdd, er enghraifft.
Bydd dull cyfranogol rhwydwaith THINK yn helpu i flaenoriaethu materion allweddol a chynnwys pobl wrth ddatblygu’r polisïau a fydd yn effeithio ar ddyfodol eu cymuned, eu hiechyd, eu lles a’u symudedd.
Ariennir gan Ymchwil lechyd a Gofal Cymru – Ymchwil Heddiw; Gofal Yfory
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n darparu seilwaith i gefnogi a chynyddu gallu ym maes ymchwil a datblygu, yn rhedeg cynlluniau ariannu ymatebol ac yn darparu cyllid i GIG Cymru i gefnogi gwaith datblygu a chyflawni ymchwil er budd cleifion a’r cyhoedd.
Mae ein seilwaith arloesol a’n portffolio o raglenni a ariennir yn cydgrynhoi, yn diweddaru ac yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi’i greu a’i gyflawni hyd yma, gan osod Cymru yn y rheng flaen yn rhyngwladol ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae ein seilwaith yn caniatáu ffocws mwy eglur ar feysydd rhagoriaeth presennol Cymru a rhai sy’n dod i’r fei, ac yn sicrhau dull o weithredu integredig, rhyngddisgyblaethol, rhyngasiantaethol, Cymru-gyfan, yn amrywio o ddatblygu ymchwil i newidiadau mewn arfer yn seiliedig ar dystiolaeth ymchwil.
Mae pobl Cymru’n ganolog i’r seilwaith a’r rhaglenni sy’n arwain at enillion mawr o ran iechyd a llesiant, o ran effeithiolrwydd gwasanaethau ac o ran cynhyrchu cyfoeth cenedlaethol.