Skip to content

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

Menu
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Tîm
  • Blog Archwilio Trafnidiaeth ac Iechyd
  • Podlediad y THINK
  • Ffowndri THINK
  • Adnoddau Academi THINK
    • 20mya ac iechyd
    • Adnoddau Teithio Llesol
    • Adnoddau Gwahanu Cymunedau o boptu Ffyrdd
    • Adnoddau Diogelwch Defnyddwyr Ffyrdd
    • Adnoddau Llygredd Aer a Sŵn
    • Cyhoeddiadau THINK
    • Trafnidiaeth a dull gweithredu Iechyd Cyfunol
  • Prosiectau rhwydwaith THINK
    • Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd
      • Derbynwyr y Gwobrau 2023
    • Bws Rhywedd+Cymru: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad treisgar yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru
  • Newyddion
    • Cynhadledd Aeaf y Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) 2023
  • Cymraeg
    • English
    • Cymraeg
Menu

Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth mewn Cymunedau Gwledig – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd

Yn sgil llwyddiant ein Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned – gallwch weld manylion ein henillwyr yma – mae’n bleser gennym ni yn y Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd gyhoeddi ein Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth mewn Cymunedau Gwledig.

Rydym yn eich gwahodd i gyflwyno cynnig sy’n ymwneud â’r rhan y mae trafnidiaeth yn ei chwarae wrth greu cymunedau gwledig iach. Rydym yn croesawu prosiectau arbrofol gan dimau rhyngddisgyblaethol/o sawl cefndir, ac rydym yn chwilio am gynnig sy’n dod â phobl o wahanol gefndiroedd ynghyd mewn partneriaethau (e.e. cymunedau, elusennau a’r trydydd sector, academyddion, byrddau iechyd, awdurdodau lleol) i gydweithio i gynorthwyo “cymuned wledig sydd mewn angen” â “mater penodol sy’n ymwneud â thrafnidiaeth yng nghefn gwlad”.

Gellir diffinio cymuned wledig mewn angen fel unrhyw gymuned mewn ardal wledig sydd â phroblem sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth, neu iechyd a lles, neu’r ddau.

Beth yw cymuned wledig mewn angen?

Er enghraifft, gallai fod

  • yn gymuned ddaearyddol megis tref fach, pentref neu stryd,
  • a/neu’n gymuned a ddiffinnir gan ddemograffeg gymdeithasol neu gefndir, er enghraifft pobl hŷn, plant, y gymuned LHDT+ mewn ardaloedd gwledig,
  • a/neu’n gymuned a ddiffinnir yn ôl eu dulliau teithio (seiclwyr, cerddwyr ac ati) i gyrraedd ardal wledig.

Gellir diffinio’r mater yn ymwneud â thrafnidiaeth gan ddefnyddio un o’r disgrifiadau isod neu gyfuniad ohonynt.

Gellir diffinio’r mater penodol sy’n ymwneud â thrafnidiaeth fel un sy’n effeithio ar iechyd gan gynnwys

  • anafiadau/marwolaethau (a achosir gan wrthdrawiadau),
  • llygredd aer/sŵn,
  • gwella teithio llesol,
  • cymunedau sydd wedi’u gwahanu a lles, neu gyfuniad o’r materion hyn.

Gellir diffinio’r broblem fel rhywbeth megis ceisio gostwng terfynau cyflymder neu gysylltu cymunedau â llwybrau cerdded/beicio oddi ar y ffyrdd.

Dylid defnyddio’r grant fel cam tuag at gyflawni rhagor o ymchwil

Dylid defnyddio’r grant fel cam tuag at gyflawni rhagor o ymchwil er mwyn cael dealltwriaeth bellach am y mater neu’r broblem sy’n ymwneud â thrafnidiaeth, i’w ddiffinio’n fanylach a dechrau creu strategaethau neu ymyriadau sy’n gweithio tuag at liniaru neu leihau’r broblem.

Mae grant gwerth hyd at £2000 ar gael fesul prosiect i gefnogi’r gweithgarwch. Byddwn yn dewis hyd at 4 prosiect i’w hariannu.

Gellir defnyddio’r arian yn y prosiect tuag at gostau cynnal digwyddiadau, gweithdai neu gasglu gwybodaeth er mwyn ceisio cyrraedd y nod.

Gofynion

Rhaid llunio adroddiad terfynol byr am y gweithgareddau a gynhaliwyd, sydd hefyd yn nodi’r camau nesaf sydd eu hangen a sut yr eir ati i gymryd y camau hynny. Disgwylir y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu’r prosiect fel y bydd yn haws i’r gymuned wneud cais am ragor o arian ar gyfer camau nesaf y prosiect. Ar ben y grant gwerth hyd at £2000, fe gewch gymorth y Rhwydwaith i hyrwyddo eich gwaith a byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i ffynonellau cyllid pellach ac i wneud ceisiadau amdanynt fel y bo’n briodol.

Asesu Ceisiadau

Bydd y prosiectau’n cael eu hasesu gan dîm prosiect y Rhwydwaith yn ogystal ag adolygwr arbenigol o Ganolfan Dyfodol Gwledig Prifysgol Aberystwyth, drwy bwyso a mesur y materion isod:

  • Yr Effaith ar y Gymuned ac ar Drafnidiaeth: I ba raddau y byddai’r prosiect arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned wledig dan sylw o safbwynt eu mater yn ymwneud â thrafnidiaeth
  • Yr Effaith ar Iechyd: I ba raddau y byddai’r prosiect yn gwella iechyd y gymuned wledig
  • Uchelgeisiol, ond eto’n Realistig ac yn Ymarferol: Pa mor realistig yw hi y bydd y prosiect yn cyrraedd y nod hwnnw, ac a yw’n cynnig gwerth am arian.
  • Arwain at Ragor o Waith Ymchwil: I ba raddau y gallai’r ymchwil arfaethedig fod yn sail i waith ymchwil pellach.

Cyflwyno

Dyddiad cau 15 Gorffenaf 2023

Llenwch y ffurflen isod a’i hanfon yn ôl at think@aber.ac.uk cyn y dyddiad cau, sef 15 Gorffennaf 2023. Os hoffech drafod unrhyw syniadau sydd gennych am brosiectau, neu os hoffech gael mwy o fanylion, cysylltwch â’r Athro Charles Musselwhite chm93@aber.ac.uk

Os oes arnoch angen fersiwn o’r ffurflen y gallwch ei golygu, ar ffurf Word, neu PDF er mwyn cyflwyno, gofynnwch drwy anfon ebost at think@aber.ac.uk

Mae taflen i’w lawrlwytho ar gael. Os oes arnoch angen fersiwn Word y gallwch ei golygu er mwyn ei chyflwyno, yn hytrach na’r ffurflen ar-lein, anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk ac fe anfonir un atoch.

Cronfa-Prosiectau-Bach-ar-gyfer-Materion-Trafnidiaeth-mewn-Cymunedau-Gwledig-1-1

Cwestiynau Cyffredin

C: A allwn ni gyflwyno ein cais yn Gymraeg?

A: Gallwch, gallwch gyflwyno’ch ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg gan mai Prifysgol Aberystwyth yw’r sefydliad sy’n prosesu’r gronfa a’i phrif ieithoedd yw Cymraeg a Saesneg.

C: A yw’r gronfa’n ystyried costau cyfalaf a refeniw?

A: Ydw

C: A all y gymuned neu’r ymgeiswyr fod wedi’u lleoli y tu allan i Gymru?

A: Gallant

C. Pryd fydd prosiectau’n derbyn yr arian?

A: Byddwn yn cyhoeddi’r prosiectau buddugol o fewn 3-4 wythnos i’r dyddiad cau. Bydd angen i sefydliadau arweiniol anfon anfoneb atom ar amser y cytunwyd arno ar sail prosiect wrth brosiect, gan ddibynnu ar y prosiect ac angen y sefydliad. Rydym eisiau gwneud hyn mor hyblyg â phosibl, ond mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol bod angen i ni gydlynu’r taliad i ddilyn prosesau timau cyllid unrhyw sefydliadau dan sylw.

THINK Podcast