Dyma fersiwn byr o’r hyn gafodd ei rannu gyda ni gan aelodau’r cyhoedd a gymerodd ran yn y gweithdai. Roedd yna gyfanswm o 7 yn cymryd rhan, 4 dyn a 3 menyw o ddinasoedd ac o ardaloedd mwy gwledig Cymru a Lloegr.
a) Blaenoriaethau (heb fod mewn unrhyw drefn benodol)
- Lleihau cost cludiant cyhoeddus gymaint â phosibl
- Sicrhau mwy o wasanaethau cludiant cyhoeddus mewn ardaloedd lle nad oes ond ychydig o wasanaethau
- Lonydd beicio gwell a mwy ar wahân
- Creu mwy o ardaloedd didraffig yng nghanol dinasoedd
- Monitro a gorfodi ar gyfer rhannu lle yn ddiogel
- Hygyrchedd i bawb
b) Heriau (heb fod mewn unrhyw drefn benodol)
- Tywydd
- Cludiant cyhoeddus: mynediad at fysiau a threnau
- Problem llygredd Rhannu lle
- Diffyg gwybodaeth
- Delwedd negyddol o fysiau
- Perchnogaeth ceir preifat
Mae enghreifftiau da eisoes o bethau cadarnhaol yn digwydd mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig ac mewn gwledydd eraill sy’n ei gwneud yn rhatach, yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy apelgar i gerdded, beicio neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus, sef enghreifftiau y dylid eu defnyddio fel ysbrydoliaeth i ledaenu’r syniadau hyn.
Mae set amrywiol o syniadau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol wedi dod i’r amlwg, i fynd i’r afael â’r heriau a restrir, o ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i asesu effeithiau cludiant cyhoeddus am ddim a’r manteision/anfanteision i’r boblogaeth drwy feicio er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae llawer o gyfleoedd i ymarferwyr sy’n gweithio ym maes trafnidiaeth ac iechyd i wella’u dulliau cyfathrebu â’r cyhoedd trwy ddysgu o brofiadau’r cyhoedd drwy gyfrwng arolygon mewn apiau cynllunio trafnidiaeth, a chysylltiadau rheolaidd, parchus, rhagweithiol â’r cyhoedd gan roi cyfleoedd iddyn nhw gyfrannu at syniadau, ynghyd â negeseuon trwy ddramâu ar y teledu a phodlediadau.