Dr Sarah Jones yw Cyd-Gyfarwyddwr THINK ac mae’n Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae gan Sarah ddiddordeb ers tro mewn anafiadau traffig ffordd ac anghydraddoldebau.
Roedd ei PhD yn astudio anafiadau i blant oedd yn gerddwyr ac amddifadedd ac mae wedi bod yn eiriol dros gyflwyno Trwyddedu Gyrwyr Graddedig ers blynyddoedd lawer.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ei diddordeb wedi datblygu’n ehangach i gwmpasu’r cysylltiadau rhwng trafnidiaeth ac iechyd, gan gynnwys gwaith ar gyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mph yng Nghymru.
Mae Charles Musselwhite yn Athro Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n Gyd-Gyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK). Mae ei ymchwil yn cynnwys cymhwyso seicoleg i ddeall a gwella symudedd pobl gan gynnwys perthnasoedd rhwng yr amgylchedd adeiledig a thrafnidiaeth ac iechyd a llesiant. Yn benodol, mae ganddo arbenigedd mewn gerontoleg amgylcheddol, archwilio perthnasoedd rhwng yr amgylchedd ac iechyd mewn cyfnodau bywyd hwyrach, gan gynnwys diogelwch pobl hŷn wrth ddefnyddio ffyrdd, rhoi’r gorau i yrru, lleihau ynysu ac unigrwydd a chreu cymdogaethau a chymunedau sy’n addas ar gyfer pob oed.
Mae wedi gweithio ar o ddeutu 40 prosiect fel Prif Ymchwilydd neu Gyd-Ymchwilydd gyda chyfanswm o dros £25m o incwm ymchwil. Ar hyn o bryd mae’n gyd-Gyfarwyddwr prosiect y Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia (CADR) a gyllidir gan Lywodraeth Cymru i ddod ag ymchwil i heneiddio a pholisi ac ymarfer at ei gilydd yng Nghymru. Mae ganddo dros 65 o gyhoeddiadau ymchwil, gan gynnwys awduro 5 cyfrol. Mae’n Brif Olygydd y Journal of Transport & Health Elsevier ac mae ar fwrdd golygyddol EnvisAGE Age Cymru a Research in Transportation Business & Management Elsevier.
Ceir rhagor o wybodaeth am ei waith yma: www.drcharliemuss.com
Mae Dr Lucy Baker yn Gydymaith Ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg, Prifysgol Aberystwyth. Bydd Lucy yn cefnogi gweithgareddau ymchwil THINK, gan gasglu ymchwil a thystiolaeth at ei gilydd a’u rhannu, ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid, datblygu ceisiadau am gyllid a phortffolio o ymchwil a gweithgareddau yn y dyfodol i THINK.
Diddordeb Lucy yw datblygu ymchwil sy’n archwilio sut y caiff anghydraddoldebau iechyd eu strwythuro, beth sydd gan drafnidiaeth a chynllunio trefol i’w wneud â gwahaniaethau o ran iechyd, llesiant a gofal, a beth y gallwn ni ei wneud i leihau anghydraddoldebau iechyd i alluogi ansawdd bywyd gwell i bawb.
Mae ymchwil blaenorol Lucy wedi archwilio llafur platfform digidol yn India a sut mae’n croestorri â thechnolegau arian newydd gyda golwg ar gynyddu ecwiti cymdeithasol arloesiadau, gwaith yn y dyfodol a’r defnydd o ddata mawr. Roedd ei doethuriaeth yn edrych ar drosglwyddo ymyriadau symudedd seiclo i wledydd datblygol gyda gwaith maes yn Namibia.
Amy Nicholass yw’r Prif Swyddog Prosiect a’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau i’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd – THINK.
Mae gan Amy radd Meistr mewn Gwyddor Amgylcheddol a chyn hyn bu’n rheoli prosiectau ymchwil yn ymwneud â heriau amgylcheddol ac iechyd pan fu’n gweithio yn Sefydliad Arweinyddiaeth Cynaladwyedd Prifysgol Caergrawnt ac yn rhan o dîm polisi Eunomia Research and Consulting. Mae Amy wedi rheoli dau rwydwaith o’r blaen – ClimateWise a Go Green, gan weithio gyda channoedd o fusnesau i hwyluso rhannu eu gwybodaeth a’u profiad. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn edrych ar drafnidiaeth ac iechyd o safbwynt systemau rhyng-gysylltiedig. Mae gan Amy hefyd lawer o brofiad o drefnu digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb gydag ymarferwyr a’r cyhoedd.
Mae Amy wrth ei bodd yn hwyluso digwyddiadau i randdeiliaid ac mae’n mwynhau seiclo a cherdded a bod yng nghanol natur, yn enwedig y môr.
Mae Dr Burcu Tekeş yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Başkent, Twrci. Ar hyn o bryd mae hi hefyd yn gweithio gyda ni fel ymchwilydd cyswllt ôl-ddoethurol ar brosiect THINK.
Mae gan Burcu ddoethuriaeth mewn Seicoleg Traffig a Thrafnidiaeth ac MSc mewn seicoleg gymdeithasol. Mae ganddi brofiad gyda phrosiect diogelwch ar y ffyrdd Vision Zero yn Nhwrci fel yr uwch arbenigwr ar ymddygiad pobl. Mae ymchwil Burcu yn canolbwyntio’n bennaf ar seicoleg gymhwysol yn enwedig ym maes traffig a thrafnidiaeth, yr amgylchedd ac iechyd. Mae ganddi dros 30 o gyhoeddiadau ymchwil, gan gynnwys llyfr ar Seicoleg Traffig.
Gallwch ddarganfod mwy am waith Burcu yn y fan hyn: https://www.researchgate.net/profile/Burcu-Tekes