Skip to content

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

Menu
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Tîm
  • Blog Archwilio Trafnidiaeth ac Iechyd
  • Podlediad y THINK
  • Ffowndri THINK
  • Adnoddau Academi THINK
    • 20mya ac iechyd
    • Adnoddau Teithio Llesol
    • Adnoddau Gwahanu Cymunedau o boptu Ffyrdd
    • Adnoddau Diogelwch Defnyddwyr Ffyrdd
    • Adnoddau Llygredd Aer a Sŵn
    • Cyhoeddiadau THINK
    • Trafnidiaeth a dull gweithredu Iechyd Cyfunol
  • Prosiectau rhwydwaith THINK
    • Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd
      • Derbynwyr y Gwobrau 2023
    • Bws Rhywedd+Cymru: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad treisgar yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru
  • Newyddion
    • Cynhadledd Aeaf y Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) 2023
  • Cymraeg
    • English
    • Cymraeg
Menu

Cynhadledd Aeaf y Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) 2023

Diolch yn fawr iawn i holl gyfranwyr y gynhadledd, ein siaradwyr, y rhai a ofynnodd gwestiynau gwych yn ogystal â’r tîm technoleg, lleoliad ac arlwyo yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Roedd yn ddigwyddiad hyfryd i’r tîm THINK ac awgrymodd adborth dienw gan rai cyfranogwyr bod y rhai a fynychodd wedi mwynhau’r digwyddiad hefyd….

“The venue was beautiful, catering excellent and the whole day was really useful. Thank you.”

“Thank you for a really stimulating and well-designed event. Really liked the content of the earlier sessions combined with the more impact-focused workshops.”

“Well organised conference, with lots of interesting presentations.”

“Thought the research displayed was of really high quality and more so than a recent event I attended where speakers were only given 5 mins each. Quality over quantity is paramount. Very good keynote speakers and event well ran”.

“I enjoyed listening to the research outcomes and also the ‘real life’ experiences.”

“Thanks for convening an insightful and inspiring event.”

Recordiadau a sleidiau

Os gwnaethoch chi fethu’r digwyddiad gallwch wylio rhai o’r sgyrsiau trwy ein Rhestr chwarae YouTube .

Gallwch gael mynediad i’r sleidiau oll yn yr un lle https://think.aber.ac.uk/think-winter-conference-slides/(Yn agor mewn tab newydd)

Pwyntiau allweddol

Dyma sampl o’r pwyntiau allweddol o’r digwyddiad y rhannodd ein cyfranogwyr â ni:

  • Gwybodaeth
  • Cysylltedd o ran llawer o waith da i ddatgarboneiddio teithio ledled y wlad
  • Mae gwir awydd am gydweithio ar draws sectorau i ganfod datrysiadau trafnidiaeth gwell ac iachach ac mae angen rhwydweithiau fel y rhain arnom i wneud hyn.
  • Gwnaeth y prif siaradwyr rai pwyntiau gwych, y prif bwynt – nid yw’n hawdd.
  • Mae’r meddylfryd yn y DU yn canolbwyntio ar geir p’un a yw pobl yn yrwyr ai peidio.
  • Mae angen i gynllunio symud i ffwrdd o fotonormadoledd – mae wedi’i gynnwys o fewn y gyfraith felly mae angen ei ymarfer!
  • Gall potiau bach o arian ysgogi effaith ardderchog!
  • Mae ein diwylliant/amgylchedd yn ein harwain at yrru ceir fel y norm cymdeithasol
  • Mae gwaith i’w wneud o hyd!
  • Mae gan anghydraddoldebau trafnidiaeth oblygiadau eang.
  • Mae trafnidiaeth a’r gallu i deithio yn ffactor pwysig i les pobl.
  • Ecwiti ein polisïau a graddfa’r dasg o herio motonormadoledd.
  • Pwysigrwydd cydweithio cynhwysol da ar brosiectau.
  • Dysgu am fodolaeth y Rhwydwaith Datgarboneiddio Teithio Hamdden.

Lleoliad ac archebu

Archebwch eich tocyn, sydd wedi’i ariannu’n llawn, i fynychu’r gynhadledd wyneb yn wyneb neu ar-lein trwy Eventbrite:

Lleoliad wyneb yn wyneb Sut i ddod o hyd i ni | Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (rwcmd.ac.uk)

Agenda

Bydd y digwyddiad yn agor gyda lluniaeth am 09:30, er mwyn dechrau am 10:00, ac yn gorffen tua 15:45. Darperir cinio poeth yn ystod yr awr ginio.

Cyhoeddi’r siaradwyr

Mae enw’r Prif Siaradwr wedi’i gyhoeddi:

Yr Athro Judith Green

Mae Judith Green yn Athro Cymdeithaseg a Chyfarwyddwr Canolfan Wellcome ar gyfer Diwylliannau ac Amgylcheddau Iechyd ym Mhrifysgol Caerwysg. Mae hi wedi ymchwilio a chyhoeddi’n eang ar drafnidiaeth ac iechyd, gan gynnwys astudiaethau o anghydraddoldebau o ran anafiadau, a gwaith yn cloriannu ymyriadau polisi fel teithio ar fysiau yn rhad ac am ddim i bobl ifanc, parthau 20mya, a lleihau goleuadau stryd. 

Tegwch o ran trafnidiaeth, diwylliant a ‘rhyfeloedd diwylliannol’

Mae systemau trafnidiaeth, yn eu hanfod, yn anfanteisiol i’r bobl hynny sydd ar gyrion eithaf cymdeithas, gan mai hwy sy’n gallu manteisio leiaf ar adnoddau teithio, a hwy sy’n wynebu risgiau uwch o ran llygredd ac anafiadau ar y ffyrdd. Eto i gyd, nid yw’r ymdrechion polisi diweddaraf i liniaru’r anghydraddoldebau hyn yn y DU – cymdogaethau traffig isel neu barthau 20mya cenedlaethol yng Nghymru – wedi cael eu croesawu’n gyffredinol.  Er efallai fod y gwrthwynebiad yn strategol (trwy greu sefyllfa o ‘ryfel diwylliannol’), mae hefyd yn rhybudd i beidio ag anwybyddu ffactorau cymdeithasol a diwylliannol wrth gynllunio i gael tegwch o ran trafnidiaeth.   Mae cael seilwaith da i drafnidiaeth yn amod angenrheidiol, ond nid yn ddigonol, i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.   Mae angen i ni hefyd gael ymwybyddiaeth o groestoriadedd wrth feithrin tegwch o ran trafnidiaeth: sut mae’r cysylltiadau rhwng elfennau megis byw mewn ardaloedd gwledig, oedran, ethnigrwydd, rhywedd a dosbarth cymdeithasol yn effeithio ar sut y defnyddir seilwaith newydd. Ac mae angen i ni ystyried arwyddocâd diwylliannol y dulliau o symudedd ar draws y croestoriadau hyn. Bydd y cyflwyniad hwn yn defnyddio astudiaethau a wnaed o ddefnyddwyr gwahanol ddulliau o drafnidiaeth i ddangos sut mae diwylliannau symudedd yn ffurfio ymateb pobl wrth iddynt ymdrin â seilwaith sy’n newid, a sut y gellir ystyried hyn wrth gynllunio.  Er y gallai’r rhai hynny sydd a’u bryd ar danseilio barhau i annog ‘rhyfeloedd diwylliannol’ yn yr ymdrech i wella systemau trafnidiaeth, rydym yn fwy tebygol o gael cefnogaeth eang wrth edrych o ddifri ar y diwylliant o’r cychwyn cyntaf.

Motonormadoledd: Goruchafiaeth ceir yn ein cymdeithas.

Yr Athro Ian Walker, Pennaeth Seicoleg, Prifysgol Abertawe.

Crynodeb

Motonormadoledd yw’r syniad ein bod yn derbyn gwahanol safonau o fywyd cyhoeddus yn achos ceir a gyrru nag yr ydym gydag agweddau eraill ar symudedd a hyd yn oed agweddau eraill ar fywyd. Gall hyn gymylu ein barn ynglŷn â derbynioldeb y niwed y mae cerbydau preifat yn ei achosi i gymdeithas ac i unigolion, gan normaleiddio’r niwed y maent yn ei wneud fel rhywbeth derbyniol. Bydd y cyflwyniad hwn yn tynnu sylw at ble y gallwn weld motonormadoledd ar waith, sut mae’n cymylu ein barn ynglŷn â symudedd, yn achos y cyhoedd yn ogystal â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, ynghyd â thystiolaeth ac ymchwil sy’n dangos bod hyn yn digwydd. Bydd yn gorffen trwy ystyried beth y gallai fod angen i ni ei wneud i newid y ffordd rydyn ni’n meddwl am geir. 

Bywgraffiad

Yr Athro Ian Walker yw Pennaeth yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n seicolegydd amgylcheddol sy’n arbenigo mewn seicoleg ac ymddygiad ym meysydd trafnidiaeth, ynni a dŵr. Mae hefyd yn arbenigo mewn cymhwyso anghenion defnyddwyr i brosiectau amlddisgyblaethol gyda pheirianwyr a phenseiri. Mae wedi gweithio’n helaeth ar gynllunio rhyngwynebau ar gyfer dangosyddion ynni a dŵr yn y cartref, sy’n ystyried dealltwriaeth y defnyddwyr. Mae ganddo hefyd ddiddordeb hirsefydlog mewn dewisiadau ac ymddygiadau’n ymwneud â theithio llesol cynaliadwy.

Cyflwyniadau/trafodaethau:

1. Dr Richard Weston, University of Central Lancashire School of Business. Visiting the countryside – impacts and opportunities for transport and health .

Sefydlwyd y Rhwydwaith Datgarboneiddio Teithio Hamdden i rannu gwybodaeth ac arfer da â sefydliadau sy’n ymwneud ag ymchwil, darpariaeth neu bolisi teithio, a datblygu a hyrwyddo teithio hamdden cynaliadwy.

Mae ymweld â Pharciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ac ardaloedd twristiaeth gwledig eraill yn ddibynnol ar geir i raddau helaeth, yn rhannol oherwydd cyfyngiadau hygyrchedd ond hefyd oherwydd arferion ymweld sy’n datblygu wrth i berchnogaeth ceir yn y DU barhau i dyfu. Nid yw problemau tagfeydd, parcio anghyfreithlon, sŵn ac ymyrraeth weledol sy’n digwydd ar gyrion Parciau Cenedlaethol erioed wedi’u datrys. Yn hytrach, maent wedi cynyddu o ran maint gyda’r her ychwanegol o leihau allyriadau carbon.

Bydd y cyflwyniad hwn yn rhoi trosolwg o faterion allweddol sy’n ymwneud â phatrymau ymweld gwledig y DU sydd wedi’u hadnabod trwy waith y Rhwydwaith. Rydym yn dadansoddi goblygiadau iechyd y materion hyn ac yn gwahodd trafodaeth ynghylch y gorgyffwrdd rhwng y galw am deithio hamdden ac iechyd.

2. Michelle Symes, Swyddog Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Gwledig Cymru. Teithiau Cerdded Lles

Cynhaliwyd y fenter Teithiau Cerdded Lles gan Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (RHCW), mae’n cysylltu â’r agenda ataliol ac mae’n hyrwyddo effeithiau cadarnhaol cerdded yn yr awyr agored ar iechyd a lles, gyda chysylltiad iechyd traddodiadol trwy ddechrau pob taith o safle iechyd cydnabyddedig (meddygfeydd teulu / ysbyty). Bwriad y fenter yw hyrwyddo manteision cadarnhaol cerdded yn yr awyr agored ym myd natur ar iechyd corfforol a lles. O ganlyniad, cafodd cyfres o deithiau cerdded eu mapio allan ar daflenni, a oedd hefyd yn nodi mannau o ddiddordeb o ran bywyd gwyllt, diwylliant a hanes ar y teithiau cerdded, gan restru hefyd yr effaith gadarnhaol y mae cerdded yn ei chael ar iechyd a lles.

Hwn fydd cyflwyniad agoriadol y cyflwyniad ar daith gerdded a recordiwyd yng Nghynhadledd THINK.

Cyflwyniadau byr a sesiwn holi ac ateb

  1. Bus Buddies and beyond! a gyflwynir gan Emma Bingham o Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol Cymru. Pa wersi allwn ni eu dysgu o’r prosiect bydis bws arloesol yn Sir Benfro a fydd yn ein galluogi i greu hyfforddiant teithio pwrpasol sy’n gynhwysol a chefnogol ac sy’n caniatáu i bawb yn ein cymunedau gael mynediad at gludiant cymunedol a chyhoeddus sy’n diwallu eu hanghenion.
  2. Ceredigion Bus Action Day gyda Elly Foster.
  3. Yr wybodaeth ddiweddaraf am ddyfarniadau’r gronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth mewn Cymunedau: Increasing Mobility of Young Girls by Giving Scooties a gyflwynir o bell gan Shahla Tabassum o Brifysgol Menywod Fatima Jinnah, Pacistan. Age Connects Morgannwg: Transport Research cyflwyniad gan Rachel Rowlands, Prif Swyddog Gweithredol Age Connects Morgannwg.
  4. Pontio teg neu bontio a dim mwy?Cyd-ddychmygu i sicrhau ein bod yn creu dyfodol carbon isel teg gyda Andy Hyde. Wrth ddylunio ar gyfer datgarboneiddio trafnidiaeth heb ystyried sut y bydd pobl yn teithio yn y dyfodol byddwn yn parhau â’r rhwystrau teithio presennol ac o bosibl yn creu mwy. Mae hyn eisoes yn digwydd ond mae gennym amser o hyd i stopio, ehangu ein golwg, cymryd agwedd fwy systemig a chynhwysol ac adeiladu gweledigaethau o’r hyn yr ydym am ei weld a’i deimlo o ran teithio yn y dyfodol. Bydd y cyflwyniad byr hwn yn tynnu sylw at sut y gellid gwella ein dull presennol o ymdrin â theithio cynhwysol a bydd yn cynnig fframwaith ac adnodd newydd. Gan ddefnyddio’r rhain, gallwn, gydag ymdrech dinasyddion, ddatblygu gweledigaethau ar y cyd o deithiau carbon isel mwy cynhwysol a llunio cynllun gweithredu i fynd i’r afael ag allgáu a datgarboneiddio ar yr un pryd.

Gweithdai

Collaborative working – the future of leadership gyda Ken Perry

Amcanion

Yn ein gweithdy byddwn yn gweithio drwy bedwar cwestiwn strategol allweddol:

1. Beth yw arweinyddiaeth a’r gwahaniaeth rhwng rheolaeth ac arweinyddiaeth

2. Sut beth yw arwain y tu hwnt i’ch sefydliad

3. Sut mae adeiladu cynulliadau i fynd i’r afael â heriau strategol tymor hir

4. Sut mae adnabod gwahanol fathau o rym a chrynhoi adnoddau i gael canlyniadau

Ken Perry

Sefydlodd Ken yr ymarfer arweinyddiaeth, Do-Well, yn 2014, sy’n gweithio i alluogi pobl, lleoedd a sefydliadau i ddod o hyd i’w pwrpas, gwneud yn dda a llwyddo.  Mae ganddo dros 40 mlynedd o brofiad yn gweithio ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, o’r lefel isaf i fod yn Brif Weithredwr am 14 mlynedd.  Mae Ken yn darparu cefnogaeth un i un i arweinwyr, yn ogystal â gweithio gyda thimau gweithredol, Byrddau, mudiadau cymdeithasol a chymunedau i’w cefnogi i saernïo a chyflawni eu pwrpas a’u nodau, gan weithio gyda nhw i weithredu ac, yn hollbwysig, mewn llawer o achosion, aros gyda nhw trwy hynt a helynt bywyd arweinyddol.   Yn ei rolau eraill, mae’n Gymrawd Diwydiannol Gwadd ym Mhrifysgol Wrecsam, yn un o sylfaenwyr Mudiad 2025 yng Ngogledd Cymru ac yn Is-gadeirydd Elusen a Gwasanaethau Gwirfoddol Lerpwl. Mae ganddo MBA o Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored, mae’n Gymrawd yr RSA ac yn aelod o’r Sefydliad Tai Siartredig drwy arholiad. Yn 2021 cwblhaodd Ken y rhaglen arweinyddiaeth, trefnu a gweithredu yn Ysgol Harvard Kennedy.

3 simple practices for better communication gyda Mike Corcoran

Mike Corcoran

Prifysgol Wrecsam /Lab Cyd-gynhyrchu Cymru, Ymchwilydd /YmgynghoryddGwadd.

Mae Mike yn ymchwilydd annibynnol ac ymgynghorydd sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru, ac mae’n arbenigo mewn cydgynhyrchu, cyfathrebu ac ymgysylltu. Yn ogystal â’i waith annibynnol, mae Mike yn Ymchwilydd Gwadd ym Mhrifysgol Wrecsam ac yn Ymgynghorydd gyda Lab Cyd-gynhyrchu Cymru. Mae Mike wedi gweithio’n helaeth fel siaradwr cyhoeddus a hyfforddwr i’r rhai sy’n siarad yn gyhoeddus eu hunain, ac yn arwain cyrsiau byr ‘Cyflwyniad i Siarad yn Gyhoeddus’ Prifysgol Wrecsam.

A mwy….

Posteri, bwyd poeth, cerddoriaeth fyw a chyfle i gwrdd â chymysgedd o unigolion o’r un anian o’r byd academaidd, meysydd polisi, ymarfer a’r trydydd sector sy’n gweithio’n galed i integreiddio trafnidiaeth ac iechyd.

Hygyrchedd y lleoliad a’r ddarpariaeth ar-lein

THINK-Winter-Conference-Accessibilty-Statement-1

Stondinau a Phosteri

Os hoffech archebu lle ar gyfer stondin neu boster yn y gynhadledd wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd, anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk

Agenda Cynhadledd Aeaf THINK

THINK - the Transport and Health Integrated research NetworK
  • Cynllun Ceir Cymunedol Sir Fynwy: Prosiect Ymchwil – Dirnadaeth ac Argymhellion
  • Mae ein canllaw newydd ar gyfer hyfforddwyr ac ymgyrchwyr gwyliedyddion bellach ar gael i’w lawrlwytho
  • Trosiant Teg?
  • Y mapiau cyffyrddol trawsnewidiol wedi’u creu ar gyfer pobl ag amhariad ar y golwg
  • Methodoleg Q fel dull defnyddiol o ymchwilio i drafnidiaeth

THINK Podcast

Transport and Health Integrated research NetworK – THINK Podcast
Transport and Health Integrated research NetworK – THINK Podcast

THINK is a collaboration between the psychology department of Aberystwyth University and Public Health Wales, and is funded by Health and Care Research Wales to improve health outcomes for all, in relation to transport. The network is made up of individuals working in academic, practitioner, policy or charity roles across different areas of transport and health. THINK facilitates research, training and seminars to develop knowledge and provide opportunities to work collaboratively across four different themes – air and noise pollution; injuries and deaths stemming from vehicle crashes; the impact of active travel (walking and cycling) on health; and the impact of vehicles dividing communities. You can sign up as a member of THINK for free on the website https://think.aber.ac.uk/sign-up/ or follow us @TransportHealth

THINK podcast – falling in love with the buses
byThe Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK

THINK presents a variety of perspectives on how we can fall in love with the buses again across Wales and the UK. 

Hear from campaigners working hard to save their bus routes, retired bus drivers who reflect on how things used to be and what can be done to improve the current situation, a bus and coach industry representative and academics who provide tips on getting more passengers by making bus provision feel safer for more people, and how to get the message out to a wider audience about the benefits of bus travel. 

The recording was made in various locations including outside and online so the sound quality varies slightly. 

Amy Nicholass and Charles Musselwhite from THINK wish to thank to Elly Foster, David Marshall, Rosemary Corcoran, Dr Lucy Baker, Katherine Parsons, Aaron Hill and Roger French for giving their time for free to take part in the recording. 

THINK podcast – falling in love with the buses
THINK podcast – falling in love with the buses
24 Gorffennaf 2024
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
THINK Podcast – community car share clubs
23 Gorffennaf 2024
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
Access to Healthcare with Community Transport
13 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
More Than Just a Journey – Community Transport
8 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
Search Results placeholder

Drop down menu in the centre from the podcast player will play the other podcast episodes

Latest recordings of THINK event if you missed it!
Prifysgol Aberystwyth University
Health and Care Research Wales
NHS Wales - Public Health Wales
©2025 Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) | Built using WordPress and Responsive Blogily theme by Superb