Skip to content

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

Menu
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Tîm
  • Blog Archwilio Trafnidiaeth ac Iechyd
  • Podlediad y THINK
  • Ffowndri THINK
  • Adnoddau Academi THINK
    • 20mya ac iechyd
    • Adnoddau Teithio Llesol
    • Adnoddau Gwahanu Cymunedau o boptu Ffyrdd
    • Adnoddau Diogelwch Defnyddwyr Ffyrdd
    • Adnoddau Llygredd Aer a Sŵn
    • Cyhoeddiadau THINK
    • Trafnidiaeth a dull gweithredu Iechyd Cyfunol
  • Prosiectau rhwydwaith THINK
    • Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd
      • Derbynwyr y Gwobrau 2023
    • Bws Rhywedd+Cymru: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad treisgar yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru
  • Newyddion
    • Cynhadledd Aeaf y Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) 2023
  • Cymraeg
    • English
    • Cymraeg
Menu

Cynllun Ceir Cymunedol Sir Fynwy: Prosiect Ymchwil – Dirnadaeth ac Argymhellion

Posted on 30 Medi 202430 Medi 2024 by amynicholass

Rhagarweiniad

Gall gwirfoddoli fod yn hynod werth chweil, gan roi cyfle i unigolion roi rhywbeth yn ôl i’w cymuned, gwneud cysylltiadau newydd, a chadw’n weithgar. Mae Cynllun Ceir Cymunedol Sir Fynwy yn enghraifft o’r ysbryd hwn, lle mae’r gyrwyr gwirfoddol yn cynnig gwasanaethau cludo hanfodol i’r rhai mewn angen. Fe aeth prosiect ymchwil diweddar ati i geisio deall cymhellion, profiadau a’r heriau sy’n wynebu’r gwirfoddolwyr hyn, gan ddarparu dealltwriaeth werthfawr ac argymhellion y gellir eu rhoi ar waith i wella’r cynllun.

Wedi’i ariannu gan Gronfa Prosiectau Bach am Faterion Trafnidiaeth mewn Cymunedau Gwledig (TIRC) – THINK, caniataodd y gronfa fach o gyllid i ni astudio agwedd fach o’n prosiect yn unig. Er ein bod yn ddiolchgar am y cyllid presennol, mae’n amlwg bod angen cronfeydd cyllido ychwanegol a mwy o faint er mwyn gwireddu potensial prosiectau o’r fath yn llawn. Byddai cyllid mwy cynhwysfawr yn ein galluogi i estyn allan at ddarpar wirfoddolwyr posibl, ystyried cymwysiadau ymarferol ein hymchwil, a rhoi’r canfyddiadau ar waith yn effeithiol. O ystyried bod ein cydlynwyr presennol yn gweithio hyd eithaf eu capasiti, bydd eu gallu i weithredu’r argymhellion yn gofyn am waith ychwanegol ar ben llwyth gwaith prysur. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod gwerth cefnogi ein gwirfoddolwyr a byddwn yn buddsoddi amser ac ymdrech i helpu i greu cynllun cynaliadwy ac effeithiol sydd o fudd i bawb.

A man and two ladies standing at the side of a blue car
A gallery of three photos one with a man and three ladies standing beside a car, one with a lady helping somone else into a car and one with a man andlady sat in the front seats of a car
rpt

Arolygon a Methodoleg

Roedd y dull ymchwil ar gyfer cloriannu Cynllun Ceir Cymunedol Sir Fynwy yn cynnwys cynnal arolwg cynhwysfawr yn targedu gyrwyr a chyn yrwyr gwirfoddol. Cafodd yr arolwg, a ddrafftiwyd ac a dreialwyd yn ofalus i sicrhau ei fod yn glir ac yn effeithiol, ymatebion gan bron i 100% o’r gyrwyr presennol a 10% o’r cyn-yrwyr. Gan ddefnyddio dull dadansoddi thematig, craffwyd ar ymatebion yr arolwg i nodi themâu a geiriau allweddol a oedd yn codi’n gyson, categoreiddio’r mewnwelediadau yn brif themâu a nodi unrhyw ymatebion unigryw nad oeddent yn ffitio’n daclus i’r categorïau hyn. Roedd y dull trylwyr hwn yn sicrhau dealltwriaeth drylwyr o gymhellion, heriau a phrofiadau’r gyrwyr gwirfoddol.

Canfyddiadau’r Ymchwil

Dyma drosolwg cynhwysfawr o’r canfyddiadau:

Cymhellion y Gwirfoddolwyr a Chanlyniadau Cadarnhaol

  • Allgaredd ac Ysbryd Cymunedol:

Ysgogir gwirfoddolwyr yn bennaf gan awydd i helpu eraill a chyfrannu i’w cymuned. Mae llawer yn teimlo ymdeimlad cryf o bwrpas a chyflawniad o gymryd rhan. Dywedodd un gwirfoddolwr, “Mae cwrdd â gwahanol bobl a sylweddoli faint o fudd y mae llawer ohonynt yn ei gael o’r peth yn hynod foddhaus.” Rhannodd eraill straeon personol, er enghraifft am y ffordd y’u hysbrydolwyd gan y cymorth a gafodd aelodau o’u teulu gan wasanaethau tebyg.

  • Cadw’n Weithgar a Chymryd rhan:

Mae cyfran sylweddol o’r gwirfoddolwyr yn bobl sydd wedi ymddeol, sy’n awyddus i gadw’n weithgar a chymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon. Mae natur hyblyg y cynllun ceir yn golygu bod modd iddynt gydbwyso gwirfoddoli ag ymrwymiadau eraill. Fel y dywedodd un gwirfoddolwr, “Roeddwn i wedi ymddeol ac roedd gen i ychydig o amser sbâr, ac awgrymodd ffrind hyn i mi.”

  • Cyswllt Cymdeithasol a Chyflawniad Personol:

Mae gwirfoddoli’n cynnig cyfleoedd gwerthfawr am ryngweithio cymdeithasol a thwf personol. Mae gwirfoddolwyr yn aml yn gwneud ffrindiau newydd ac yn cael safbwyntiau newydd ar fywyd. Dywedodd un gwirfoddolwr, “Rwyf wedi cwrdd â phobl hyfryd ac yn cael boddhad o wybod fy mod wedi helpu pobl i gyrraedd apwyntiadau y gallent ei chael hi’n anodd mynd iddynt fel arall.”

Heriau a Wynebir gan Wirfoddolwyr

Er bod eu gwaith yn foddhaus, mae gwirfoddolwyr yn wynebu sawl her a all effeithio ar eu parodrwydd i barhau.

  • Materion Logistaidd:

Roedd dod o hyd i leoliadau anghyfarwydd a delio â pharcio, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig neu mewn ysbytai prysur, yn broblemau cyffredin. Awgrymodd un gwirfoddolwr y byddai’n syniad defnyddio What3Words i liniaru’r anawsterau hyn.

  • Cydlynu Teithwyr:

Mae gofalu am anghenion teithwyr, yn enwedig y rhai sydd â phroblemau symudedd neu gyflyrau iechyd penodol, yn gallu bod yn gymhleth. Nododd y gwirfoddolwyr yr angen am broffiliau teithwyr mwy manwl fel bod modd iddynt baratoi’n well ar gyfer eu teithiau.

  • Cyfyngiadau Personol:

Mae cydbwyso gwirfoddoli ag ymrwymiadau personol a materion iechyd yn her sylweddol. Soniodd rhai gwirfoddolwyr y gallai galwadau ychwanegol gan eu teuluoedd eu hunain gyfyngu ar eu gallu i wirfoddoli.

Awgrymiadau am Welliannau

Yn seiliedig ar yr adborth, gwnaed sawl argymhelliad i wella profiad y gwirfoddolwyr ac i fynd i’r afael â’r heriau a nodwyd.

  • Hyfforddiant a Chefnogaeth Cynhwysfawr:

Gall rhaglenni hyfforddi a mentora gwell i yrwyr newydd feithrin eu hyder a’u sgiliau. Gall cyswllt a mewnbwn rheolaidd gan reolwyr y cynllun ddarparu cefnogaeth barhaus a hybu morâl.

  • Gwell Offer Cyfathrebu:

Gall defnyddio offer digidol fel negeseuon testun i atgoffa ac apiau amserlennu leihau camgymeriadau a gwella’r cydlynu. Gall proffiliau teithwyr manwl helpu gyrwyr i ddeall a diwallu anghenion teithwyr yn well.

  • Atebion Logistaidd:

Gall darparu bathodynnau glas a chardiau adnabod yn ôl yr angen helpu i ddatrys problemau parcio. Gall hyfforddiant i ddefnyddio adnoddau fel Google Maps a What3Words ei gwneud hi’n haws dod o hyd i leoliadau.

  • Amserlennu Hyblyg ac Addasol:

Gall cynnig opsiynau amserlennu hyblyg a chydnabod gwirfoddolwyr trwy raglenni gwerthfawrogi helpu i reoli cyfyngiadau personol a lleihau gorweitho. Dylai gwirfoddolwyr sydd eisiau ymwneud mwy ag eraill gael cyfleoedd i gymryd teithiau ychwanegol.

Casgliad

Mae Cynllun Ceir Cymunedol Sir Fynwy yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi’r rhai sydd ei angen fwyaf. Trwy fynd i’r afael â’r heriau a wynebir gan yrwyr gwirfoddol a gweithredu’r gwelliannau a argymhellir, bydd y cynllun yn gwella profiad y gwirfoddolwyr, yn sicrhau cynaliadwyedd, ac yn parhau i ddarparu gwasanaethau amhrisiadwy i’r gymuned. Rydym yn deall bod gwirfoddolwyr yn dod â gwerth aruthrol trwy eu hymroddiad a’u caredigrwydd, ac rydym bellach yn teimlo ein bod wedi’n grymuso i gynnig y gefnogaeth sydd ei hangen, gan wneud y mwyaf o’u cyfraniadau er budd pawb.

I’r rhai sy’n ystyried dod yn yrrwr gwirfoddol, mae Cynllun Ceir Cymunedol Sir Fynwy nid yn unig yn cynnig cyfle i roi rhywbeth yn ôl, ond hefyd i gael boddhad personol a gwneud cysylltiadau ystyrlon o fewn y gymuned.

Reports available to downloaod from English version.

THINK Podcast