Awdur Gwadd: Jack Kinder, myfyriwr MSc graddedig, Prifysgol Caerdydd
(Darperir crynodeb o’r blog isod)
Yn 2021, ariannodd Llywodraeth Cymru gynllun benthyca e-feiciau, E-Move, oedd yn rhoi cyfle i gyfranogwyr o nifer o gymunedau gwledig a lled-wledig yng Nghymru, sef y Drenewydd, Aberystwyth, y Rhyl a’r Barri fenthyca e-feic ac ategolion am ddim am fis. Mae’r darn hwn yn ceisio crynhoi ymchwil a gynhaliwyd y llynedd ar arferion e-feicio cyfranogwyr y cynllun peilot, E-Move.
Roedd yr ymchwil yn edrych ar gymhellion allweddol, rhwystrau i ddefnyddio’r beiciau, a rhyngweithiadau ag arferion dyddiol eraill a brofwyd gan gyfranogwyr E-Move, oedd yn bobl ar wahanol gyfnodau bywyd, o wahanol oedrannau a rhywiau. Ail nod oedd ystyried rhan arferion e-feicio yn y posibilrwydd o sbarduno symudiad i arferion trafnidiaeth mwy cynaliadwy y tu hwnt i gynllun E-Move.
Roedd yr ymchwil yn cynnwys cyfweliadau lled-strwythuredig a gynhaliwyd ar ôl i gyfranogwyr orffen eu cyfnod o fenthyca e-feic ac roedd gofyn iddynt lenwi arolwg cyn ac ar ôl y cynllun E-Move. Cafwyd cyfweliadau gyda 30 o’r cyfranogwyr (15 gwryw, 15 benyw), a llenwodd 24 ohonynt arolygon cyn ac ar ôl benthyca’r beiciau.
Mae safle damcaniaethol ymarfer cymdeithasol yr ymchwil wedi cyfrannu at ystyried deunyddiau e-feicio a sut mae’r rhain yn cynnig cymwyseddau a chyfyngiadau i wahanol unigolion sy’n hwyluso neu’n cyfyngu ar y beicio/e-feicio. Yn yr ystyr hwn mae’r Awdur yn trafod rôl yr e-feic a’i ategolion i ‘ail-saernïo’ beicio ac arferion eraill cysylltiedig (Shove et al., 2012). Mae’r astudiaeth yn ystyried sut mae perfformiadau unigol a’r arfer o feicio/e-feicio yn ffitio’n ehangach wrth drosglwyddo o system geir i ddewis arall mwy cynaliadwy (Watson, 2012).
Ychwanegu cymorth trydanol newidiol; potensial trawsnewidiol
Roedd ail-saernïo beicio trwy ychwanegu cymorth trydanol yn golygu bod bron bob un o’r cyfranogwr wedi goresgyn rhwystrau blaenorol oedd yn bodoli oherwydd tirwedd, gan ostwng yn sylweddol yr ymdrech gorfforol a’r cymhwysedd sy’n angenrheidiol i oresgyn gelltydd mwy serth a thrwy hyn, newid yr ystyron a briodolir i arferion e-feicio. Yn unol â’r llenyddiaeth, nododd sawl cyfranogwr eu bod yn gallu teithio’n bellach heb flino, a beicio’n amlach o’r herwydd (Castro et al., 2019; Fyhri a Fearnley, 2015; Popovich et al., 2014), neu ddilyn llwybrau hamdden newydd nad oedd yn bosib o’r blaen ar feic confensiynol (Jones et al., 2022).
I’r rhai oedd wedi beicio’n rheolaidd, roedd cymorth trydanol yn cael ei ystyried yn opsiwn wrth gefn pan fyddent wedi blino’n gorfforol, a disgrifiwyd hynny’n ‘galonogol’ yn aml, ond ni wnaeth fawr ddim i newid eu barn ar eu cymhwysedd eu hunain i feicio, na’r ystyron cadarnhaol sydd eisoes wedi’u priodoli i feicio. Fodd bynnag, i lawer o’r cyfranogwyr nad oeddent wedi bod yn feicwyr rheolaidd cyn hyn ac oedd â llai o hyder yn eu gallu eu hunain i feicio ar sail ffitrwydd, neu salwch corfforol neu feddyliol parhaus, roedd ychwanegu cymorth trydanol yn gwneud beicio at ddibenion hamdden ac ymarfer corff yn fwy hylaw, pleserus a chyffrous, ac felly’n newid yn ddramatig yr ystyron a briodolir i’r arfer o feicio. Mewn rhai achosion, roedd llwyddiant a mwynhad wrth ddefnyddio’r e-feic wedi sbarduno newidiadau cyfannol i agwedd ac ymddygiad y cyfranogwyr, gan gynnwys cynyddu hunaneffeithiolrwydd, mwy o annibyniaeth a llai o ddibyniaeth ar eraill i ateb eu hanghenion symudedd, a’r gallu i osgoi unigedd.
I lawer o’r rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig heb gar, o bob oedran a rhyw, cafodd y newid o feic confensiynol i feic â chymorth trydanol effaith ddramatig ar addasu eu hagwedd tuag at deithio a’r ystyr a briodolwyd iddo, gyda’r e-feic yn rhoi rhyddhad a rhyddid trwy hwyluso teithiau nad oeddent yn bosib cyn y cynllun. Cafodd hyn, yn ei dro, effeithiau rhinweddol pellach ar lefelau ynni’r cyfranogwyr a’u hysgogiad personol i weld a gwneud pethau eraill. Nododd sawl cyfranogwr yn benodol fod hyn wedi arwain at welliannau diriaethol i’w lles corfforol a/neu feddyliol. Roedd hyn yn arbennig o amlwg ymhlith y saith cyfranogwr a oedd wedi nodi heriau diweddar ac enbyd o ran eu hiechyd corfforol a meddyliol, ac wedi mynegi diffyg hyder yn eu gallu eu hunain i feicio cyn y cynllun.
Soniodd llawer o’r cyfranogwyr a oedd eisoes yn beicio bod eu cymhelliad i barhau i feicio yn lleihau cyn y cynllun, gyda rhwystrau cysylltiedig â’r dirwedd yn dod yn fwyfwy amlwg ac, mewn rhai achosion, roedd deunyddiau eu beic confensiynol yn methu â chefnogi parhad yr arfer hwn. Ynghyd â’r ffaith nad oedd gan lawer o feicwyr newydd na’r rhai oedd yn dychwelyd i feicio hyder yn eu gallu eu hunain i oresgyn rhwystrau presennol i feicio confensiynol, mae hyn yn awgrymu bod y ffiniau recriwtio i feicio confensiynol yn gul, a bod llawer yn ei ystyried yn arfer i’r ifanc yn unig, neu i’r rhai sydd â lefelau uchel o ffitrwydd a hyder yn eu gallu eu hunain. Felly mae ail-saernïo beicio trwy ddeunyddiau’r e-feic, ac ehangu ffiniau recriwtio er mwyn annog mwy o bobl ac amrywiaeth o bobl i gymryd rhan yn awgrymu bod cyfleoedd sylweddol i gynnal a lledaenu arferion beicio/e-feicio mewn lleoliadau gwledig a mannau lle mae’r dirwedd yn heriol. Mae’r canfyddiadau hyn yn arwyddocaol yng nghyd-destun trefi a’u cymunedau gwledig ehangach fel y Drenewydd, Aberystwyth, a’r Rhyl, lle mae darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus heb ei datblygu na’i hariannu’n ddigonol, Mae ffynonellau hanfodol seilwaith cymdeithasol y trefi hyn yn aml wedi eu gwasgaru dros ardaloedd ehangach, tu hwnt i bellteroedd cerdded rhesymol.
E-feicio fel dewis amgen cymhellol yn lle’r car ar gyfer teithiau byr
Roedd cynnwys ‘bwndeli arferion’ o fewn ffocws yr astudiaeth yn rhoi dealltwriaeth ehangach a dyfnach o’r rheswm fod rhai arferion e-feicio’n cael eu rhwystro neu eu cefnogi, gan dynnu sylw at gysylltiadau gwrthdrawiadol neu symbiotig rhwng arferion trafnidiaeth ac arferion nad ydynt yn gysylltiedig â thrafnidiaeth (Scheurenbrand et al., 2018). Roedd amrywiol gymhellion y cyfranogwyr yn golygu amrywiol ‘fwndeli arferion’ e-feicio, gan gynnwys defnyddio’r e-feic i deithio i’r gwaith, i siopa ac i gludo plant.
Canfuwyd llwyddiant arbennig gyda bwndelu e-feicio a theithiau siopa oherwydd y deunyddiau ychwanegol sydd ar gael trwy’r e-feic megis cymorth trydanol, gwydnwch ychwanegol, a panniers sy’n lleihau’r ymdrech gorfforol a chynyddu cymhwysedd a hyder pobl wrth feicio gyda llwythi trymach. Arweiniodd hyn at ddatblygiad yn yr ystyron sy’n gysylltiedig â bwndelu beicio a siopa o gael eu hystyried yn anghyraeddadwy i fod yn bosib. Mae hyn yn cyferbynnu â chanfyddiadau Ravensbergen et al. (2020) ar fwndelu teithiau siopa gyda beiciau confensiynol oedd yn dangos bod cludo llwythi trymach yn dal i fod yn heriol i lawer, menywod yn enwedig.
Roedd awydd sawl cyfranogwr i ddefnyddio’r beic yn lle’r car ar gyfer teithiau byrrach cyn y cynllun hyd yn oed yn ymwneud ag iechyd, cyfrifoldeb amgylcheddol a chymesuredd, ynghyd â chefnlen ehangach y llu o bwysau cymdeithasol-technegol gan gynnwys prisiau tanwydd cynyddol a chwyddiant prisiau. Mae hyn yn tynnu sylw at natur gyd-esblygol deinameg arferion e-feicio a gyrru (Watson, 2012), gydag e-feicio’n cystadlu’n weithredol am yr un cydrannau elfennol â’r car neu’r beic confensiynol. Mae hyn yn cynnwys y gallu i fodloni’r normau cymdeithasol dymunol ynghylch cyfleustra neu effaith amgylcheddol, a chost teithio a thanwydd (Scheurenbrand et al., 2018).
Dywedodd y cyfranogwyr fod eu profiadau o ddefnyddio’r e-feic ar gyfer teithiau siopa wedi arwain at addasu eu hamserlen wythnosol nodweddiadol. Yma, roedd deunyddiau’r e-feic, cymorth trydanol yn enwedig, wedi golygu bod modd i’r cyfranogwyr roi’r gorau i ddibynnu ar y car ar gyfer teithiau siopa, a’u bod wedi datblygu patrymau byw mwy cynaliadwy yn y tymor byr. Mae’r canlyniadau’n awgrymu adliniad posib rhwng arferion gyrru ac e-feicio o ran y syniad o gyfleustra ar gyfer teithiau byrrach, gan dynnu sylw at y ffaith bod y cynllun peilot wedi rhoi cyfle i ailnegodi’r arferion blaenaf ac eilradd o yrru a beicio/e-feicio (Scheurenbrand et al., 2018; Watson, 2012). Fel y dadleuwyd drwy ddull systemau ymarfer, mae’r ddeinameg newidiol hon rhwng arferion cystadleuol yn cyflwyno pwyntiau lle gallai ffiniau recriwtio ac encilio rhwng y ddau ddull trafnidiaeth newid. Mae hyn yn rhoi cyfle amserol i waith dylunio trefol neu ymyriadau polisi roi momentwm pellach i sefydlogi neu ymestyn arferion e-feicio.
Pwysau fel rhwystr, a chyfaddawdau materol
Cododd y cyfranogwyr bwysau a maint ychwanegol llawer o’r e-feiciau, yn enwedig y Tern HSD a GSD fel anfantais. I lawer, roedd problemau’n codi wrth geisio perfformio’r mân arferion o gario’r e-feic allan o’r storfa, neu wrth wthio’r e-feic ar ôl dod oddi arno (Shove et al., 2012). Codwyd y ddau fater yn amlach gan fenywod a chyfranogwyr hŷn E-Move fel problem sylweddol ac roedd pwysau a maint ychwanegol yr e-feic yn gostwng cymhelliad i’w ddefnyddio (Thomas, 2022). Fodd bynnag, codwyd pwysau’r e-feic fel problem gan gyfranogwyr iau a dynion y sampl hefyd. Esboniodd y cyfranogwyr bod pwysau a maint yr e-feic wedi golygu bod tripiau cysylltiedig â thaith yn y car yn amhosibl, megis teithiau hamdden ymhellach i ffwrdd, neu gymudo un ffordd i’r gwaith neu oddi yno. Er na soniodd y cyfranogwyr am hyn yn ystod yr astudiaeth, byddai pwysau ychwanegol yr e-feic hefyd yn debygol o effeithio ar eu gallu i wneud tripiau cadwyn gyda chludiant rheilffyrdd heb anhawster.
Daeth yn amlwg bod cyfaddawd rhwng gwahanol gydrannau’r e-feic, gyda gwahanol fodelau yn taro cydbwysedd gwahanol rhwng milltiredd y batri, pwysau a gwydnwch, gyda phob cyfranogwr yn rhoi gwerth gwahanol ar y cydrannau. Dywedodd un cyfranogwr ei bod yn gweld y Tern HSD a fenthycodd yn drwm. Roedd yn cydnabod bod hyn oherwydd y batri mwy, ac y byddai model gyda batri llai wedi bod yn ddigon ar gyfer ei hanghenion teithio ac wedi lleihau baich y pwysau. Mae gan y model hwn hefyd resel pannier gref, ffrâm gref ar gyfer cludo llwyth a physt y gellir eu haddasu ar gyfer yr handlen a’r sêt, sy’n ychwanegu at ei bwysau. Mae nodweddion materol ei gynllun y bwriedir iddo fod yn ddewis uwchraddol compact yn lle car, a fyddai’n addas ar gyfer amrywiaeth o deithiau gwahanol aelodau o’r teulu, yn cyfyngu ar ei ddefnydd gan bobl sy’n gorfod mynd i fyny un neu fwy o risiau, a chan y rhai nad ydynt mor gryf â’r dyn abl cyffredin. Eglurodd eraill eu bod, ar deithiau hamdden hirach, bron a defnyddio batri cyfan yr e-feic, ac o ystyried y tir y mae angen iddynt ei lywio, byddai wedi bod yn well ganddynt gael model gyda batri sy’n eu galluogi i fynd yn bellach. Mae pwysau rhai e-feiciau yn cymhlethu’r broblem o reidio ar dir bryniog pan fydd y batri’n darfod.
Parhad ymyleiddiad beicio ar y ffordd
Mae’n bwysig cydnabod bod rhwystrau yn y system drafnidiaeth ehangach o hyd sy’n cyfyngu ar sefydlogi ac ymestyn yr arfer o e-feicio ar hyn o bryd. Y tu hwnt i’r gost gychwynnol uchel o brynu e-feic, nododd nifer o gyfranogwyr bod diffyg llwybrau beicio wedi’u gwahanu oddi wrth draffig yn rhwystr mawr i feicio cyn cymryd rhan yng nghynllun E-Move. Roedd eu cyflymder arafach yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn agored i niwed, ac yn niwsans i draffig oedd yn symud yn gyflymach.
Er i un cyfranogwr nodi bod potensial cyflymu cynyddol yr e-feic, yn enwedig ar allt, yn golygu ei fod yn ‘teimlo’n fwy hyderus’ yn reidio gyda’r traffig, mynegodd sawl un a oedd wedi nodi pryderon diogelwch ar briffyrdd fel rhwystr mawr cyn y cynllun, bod y pryder wedi parhau yn ystod y cyfnod prawf wrth ddefnyddio eu e-feic. Ymhlith menywod yn benodol, roedd diffyg lonydd beicio dynodedig, yn ogystal ag ymddygiad ymosodol ac ymddygiad nad oes modd ei ragweld gan yrwyr tuag at feicwyr, yn cyfyngu ar eu e-feicio, er gwaethaf gwahaniaethau materol yr e-feic a drafodwyd yn flaenorol. Mae hyn yn cyd-fynd â’r canfyddiadau ar feicio confensiynol, diogelwch, a grwpiau demograffig heb gynrychiolaeth ddigonol mewn perthynas â goddefgarwch o reidio ar yr un lôn â’r traffig ac ofn perygl ar y ffyrdd (Garrard et al., 2008). Mae’n tynnu sylw at risg y dull ‘busnes-fel-arfer’ o ddarparu seilwaith i hyrwyddo arferion e-feicio cynhwysol a theg ar sail oedran a rhyw.
Parhaodd y teimladau o ansicrwydd ynghylch perthyn ar y ffyrdd i lawer er gwaethaf y gwahaniaethau materol o’u cymharu â beiciau safonol, gan awgrymu bod yr arfer o (e-) feicio yn parhau i fod yn ymylol i raddau helaeth ac yn eilradd i arferion gyrru ar brif ffyrdd. Mae hyn yn ymwneud ag arferion cyd-ddibynnol megis cynllunio trafnidiaeth, datblygu seilwaith, a chynllunio ffyrdd a’r ffaith bod yr elfennau hyn yn aml yn cyflyru ac yn cyd-fynd â hunan-ehangiad ac uchafiaeth arferion gyrru, ac ar yr un pryd yn rhoi grymoedd ymyleiddio ar waith yn gyfochrol ar arferion trafnidiaeth eilradd gan gynnwys e-feicio (Urry, 2004; Shove et al., 2012; Watson, 2012).
E-feicio fel endid: heriau a chyfleoedd
Mae’r uchod wedi tynnu sylw at y ffordd mae ystyron a briodolir i’r arfer o e-feicio wedi newid yn sylweddol yn ystod y cyfnod prawf i lawer o’r cyfranogwyr, a hynny o ganlyniad i ddeunyddiau newydd hygyrch, a mwy o gymhwysedd ymddangosiadol a gwirioneddol yn cynorthwyo i ail-saernïo arferion e-feicio.
Fodd bynnag, mae’r ffaith bod sawl cyfranogwr wedi synnu at ba mor hawdd y gallent feicio gyda’u e-feic, neu fwndelu arferion e-feicio gydag arferion eraill, fel siopa, yn tynnu sylw at y ffaith, mewn cyd-destunau lle nad oes llawer o feicio’n digwydd, nad oedd gan lawer ohonynt wybodaeth flaenorol am yr e-feic a’i wahanol elfennau cyfansoddol. Mae hyn yn awgrymu nad oedd delweddau parhaus o e-feicio, fel ‘endid’ a gwybodaeth ddealledig am hynny ar gael yn rhwydd i gyfranogwyr cyn y cynllun.
Yn yr un modd â beicio confensiynol, mewn cyd-destunau lle nad oes llawer o feicio’n digwydd, roedd angen i ddarpar feicwyr wneud mwy o waith er mwyn caffael y wybodaeth, y cymwyseddau a’r deunyddiau gofynnol i e-feicio at wahanol ddibenion teithio, o’u cymharu â mannau lle’r oedd diwylliant beicio mwy sefydledig lle’r oedd sgiliau a gwybodaeth yn fwy hygyrch, ac yn aml yn cael eu rhannu’n gyffredin, neu’n ddealledig (Aldred a Jungknickel, 2014). Mae mwy o arwyddocâd i hyn yn achos e-feiciau, lle mae ei ddeunyddiau’n fwy cymhleth, ac mae llai yn hysbys amdanynt, o ystyried ymddangosiad cymharol ddiweddar yr e-feic fel technoleg ac arfer.
Fel yr amlinellir yn y llenyddiaeth, mae’r arfer o (e-)feicio fel endid yn rhoi’r sylfaen a’r adnoddau i gefnogi amrywiaeth fawr o berfformiadau beicio unigol, sydd eu hunain yn ‘llenwi’ yr arfer trwy ‘lu o weithredoedd unigryw’ (Reckwitz, 2002: 250). Mae’r datblygiad o ail-saernïo beicio/e-feicio a sbardunwyd trwy gyflwyno deunyddiau penodol yr e-feic, a’r ystod amrywiol o berfformiadau e-feicio o ganlyniad i’r cynllun, yn tynnu sylw at y ffaith y gall y ddelwedd drechol hon fod yn ddeinamig ac arloesol dros ben, a rhoi sylfaen ac adnoddau i amrywiol arferion e-feicio yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar amlygrwydd parhaus, a normaleiddiad perfformiadau o’r fath, sydd ynddo’i hun yn dibynnu ar gadw a recriwtio ymarferwyr yn barhaus. O ystyried bod enghreifftiau o feicio ac e-feicio yn llai cyffredin mewn cyd-destunau lle nad oes llawer o feicio’n digwydd, gall perfformiadau unigol fod yn ‘dra-gweladwy’. Os nad yw’r perfformiadau e-feicio unigol hyn yn dangos bwndelu ag arferion eraill megis cario neges, neu blant, neu os mai dim ond rhai grwpiau oedran neu rywiau sy’n cael eu gweld, gall hyn arwain at greu delweddau cul, parhaus o e-feicio (wedi’u creu o’r cyfuniad o berfformiadau unigol hyn), gyda dim ond rhai cymwyseddau ac ystyron yn para dros amser.
Ymyriadau Posib
Fel yr awgrymwyd eisoes, mae ymyriadau mewn polisi neu newidiadau i’r amgylchedd adeiledig yn rhoi cyfle i roi mwy o fomentwm i sefydlogi neu ymestyn arferion e-feicio. Gofynnwyd i’r cyfranogwyr sut y gellid annog e-feicio yn eu barn hwy.
- Y prif bryder i lawer oedd fforddiadwyedd, gydag awgrymiadau am ostyngiadau wedi eu hariannu gan y llywodraeth, cynlluniau i roi benthyciadau di-log fel y cynigir ar gyfer ceir ar hyn o bryd. Awgrymwyd hefyd barhad ac estyniad y cynllun E-Move mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gwael yng Nghymru, a rhanbarthau eraill y Deyrnas Unedig. Mae’n werth nodi bod Sustrans a Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’n ddiweddar y bydd cynllun E-Move yn cael ei ymestyn hyd at 2024.
- Awgrymodd y cyfranogwyr fod angen cyflwyno seilwaith ar y ffyrdd i gefnogi beicwyr/e-feicwyr, gyda rhai yn awgrymu y byddai darparu lonydd beicio pwrpasol yn addasu agweddau gyrwyr tuag at (e-)feicwyr. Fodd bynnag, er bod ailbennu lle ar y ffyrdd i arferion eilradd yn debygol o fod yn angenrheidiol, mae’n bosib na fydd hyn ar ei ben ei hun yn annog beicio. Byddai ymchwil ansoddol pellach ar seilwaith beicio/e-feicio yn ddefnyddiol a dylai ganolbwyntio ar gasglu safbwyntiau grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a’r rhai nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd.
- Mae gwahanol brofiadau cyfranogwyr E-Move wrth iddynt geisio cyfaddawdau rhwng deunyddiau’r e-feic, gan gynnwys pwysau, maint, gwydnwch ac ystod batri yn tynnu sylw at y ffaith bod angen i ddetholiad amrywiol o fodelau o e-feiciau fod ar gael yn ystod gweddill cynllun E-Move ac ar y farchnad i’w prynu. Nodir bod cynnig modelau ysgafnach yn arbennig o bwysig er mwyn annog amrywiaeth o bobl o bob rhyw i feicio, o ystyried bod pwysau mwy’r beic wedi cynyddu’r heriau a’r cyfyngiadau ar arferion e-feicio cyfranogwyr benywaidd E-Move. Mae hyn yn gymhleth, fodd bynnag, yn yr ystyr bod symudedd i ddiben gofal, sy’n aml yn gysylltiedig ag arferion rhyweddol rolau atgenhedlu cymdeithasol menywod, yn gofyn cludo deunyddiau trwm. Er enghraifft, cario plant a neges, yn aml gyda’i gilydd. Mae lle’n cael ei neilltuo ar gyfer parcio ceir ar strydoedd, ond ychydig iawn o le sydd ar gael i storio e-feiciau’n ddiogel. Mae hyn yn cymhlethu problemau pwysau a maint beiciau ar gyfer y rhai sy’n rhoi gofal, yn enwedig os oes rhaid defnyddio stepiau neu risiau wrth gadw e-feic gartref.
- Yn olaf, roedd sawl cyfranogwr yn dadlau y dylai Sustrans gynnal ymgyrch ddwys yn hysbysebu a rhannu gwybodaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o ddeunyddiau penodol yr e-feic. Fodd bynnag, er mwyn osgoi magl y strategaethau newid ymddygiad blaenorol, mae’r Awdur yn awgrymu y byddai ymgyrchoedd sy’n seiliedig ar weithredu a gwelededd yn fwy effeithiol wrth ddatblygu ffurfiau dealledig o wybodaeth a sgiliau, gan gynnwys diwrnodau arddangos, teithiau beic wedi eu tywys trwy aneddiadau gwledig mawr, yn ogystal ag ymestyn cynllun E-Move ei hun.
Crynodeb
Roedd ychwanegu cymorth trydanol yn golygu bod y cyfranogwr i gyd bron wedi goresgyn rhwystrau blaenorol oedd yn ymwneud â ffitrwydd corfforol, gallu a chymhelliant.
Mae e-feiciau yn galluogi mwy o bobl ac amrywiaeth o bobl ac yn darparu cyfleoedd i gynnal a lledaenu arferion beicio/e-feicio mewn amgylcheddau gwledig ac ardaloedd sydd â thirwedd heriol.
Mae’n bosib bwndelu e-feicio a thripiau i siopa oherwydd yr amrywiaeth o panniers a bagiau cludo sydd ar gael yn ogystal â chymorth trydanol yr e-feic. Mae hyn yn gostwng yr ymdrech gorfforol sy’n angenrheidiol ac yn cynyddu cymhwysedd a hyder pobl sy’n beicio gyda phwysau llwyth trymach.
Mae e-feiciau’n galluogi menywod i feicio gyda’r buddion uchod, fodd bynnag, cyfaddawdir ar bwysau’r e-feiciau oherwydd y buddion hynny. Oherwydd pwysau’r beic mae’n anos i bobl hŷn, menywod a phobl anabl yn enwedig, eu trin. Gall pwysau’r beic ddod yn broblem os caiff y beiciwr ei ddal heb ddigon o bŵer batri i gwblhau ei drip, yn enwedig ar deithiau bryniog.
Mewn gwledydd lle nad oes llawer o feicio, mae’n dal yn arfer ymylol ac mae pobl yn dal i deimlo’n agored i niwed wrth ddefnyddio’r seilwaith presennol y mae gofyn ei rannu gyda cherbydau. I’r perwyl hwn, nid yw’r wybodaeth a’r hyder y mae eu hangen i ddechrau e-feicio heb gefnogaeth ychwanegol gan lawer o bobl (yn enwedig menywod). Gweler argymhellion uchod ar sut i gefnogi beicio/e-feicio.
Cyfeirnodau
Aldred, R. and Jungnickel, K. (2014) Why culture matters for transport policy: the case of cycling in the UK. Journal of Transport Geography, 34, pp.78-87.
Castro, A., et al. (2019) Physical activity of electric bicycle users compared to conventional bicycle users and non-cyclists: Insights based on health and transport data from an online survey in seven European cities. Transportation Research Rnterdisciplinary Perspectives, 1, p.100017.
Fyhri, A. and Fearnley, N. (2015) Effects of e-bikes on bicycle use and mode share. Transportation Research Part D: Transport and Environment, 36, pp.45-52.
Garrard, J., Rose, G. and Lo, S.K. (2008) Promoting transportation cycling for women: the role of bicycle infrastructure. Preventive medicine, 46(1), pp.55-59.
Popovich, N., E. Gordon, Z. Shao, Y. Xing, Y. Wang, and S. Handy. (2014) “Experiences of Electric Bicycle Users in the Sacramento, California Area.” Travel Behaviour and Society 1 (2): 37–44.
Ravensbergen, L., Buliung, R. and Sersli, S. (2020) Vélomobilities of care in a low-cycling city. Transportation Research Part A: Policy and Practice, 134, pp.336-347.
Reckwitz, A. (2002) Toward a theory of social practices: A development in culturalist theorizing. European journal of social theory, 5(2), pp.243-263.
Scheurenbrand, K., Parsons, E., Cappellini, B. and Patterson, A. (2018) Cycling into headwinds: Analyzing practices that inhibit sustainability. Journal of public policy & marketing, 37(2), pp.227-244.
Shove E, Pantzar M and Watson M. (2012) The dynamics of social practice: everyday life and how it
changes. London: Sage.
Thomas, A. (2022) Electric bicycles and cargo bikes—Tools for parents to keep on biking in auto-centric communities? Findings from a US metropolitan area. International Journal of Sustainable Transportation, 16(7), pp.637-646.
Urry, J. (2004) The ‘system’of automobility. Theory, culture & society, 21(4-5), pp.25-39.
Watson M. (2012) How theories of practice can inform transition to a decarbonised transport
system. Journal of Transport Geography, 24: 488-496.