Bydd Ffowndri THINK yn atgyfnerthu’r rhwydwaith â gwybodaeth newydd. Bydd y ffowndri’n darparu:
- Cymorth i ymchwilwyr ac ymarferwyr gydweithio’n systematig i ddatblygu, cyflwyno a sicrhau cyllid newydd ar gyfer ymchwil
- Cymorth i ddefnyddio ymchwil mewn polisïau ac yn ymarferol drwy gynnal gweithdai gyda rhanddeiliaid allweddol â’r bwriad o sicrhau’r effaith fwyaf posibl
Archwiliadau Parhaus y Ffowndri Ymchwil
- Rôl dysgu peirianyddol, synwyryddion a thechnoleg arall megis arwyddion y gellir eu haddasu wrth rymuso diogelwch cerddwyr, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig sydd heb balmentydd. Ar hyn o bryd archwiliad cydweithredol yw hwn rhwng Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth ac Ysgol Fusnes Aberystwyth gyda’r bwriad o ddefnyddio dull dylunio sy’n canolbwyntio ar gyd-gynhyrchu/y defnyddiwr. Rydym yn croesawu cydweithwyr eraill o’r byd academaidd a thu hwnt.
- Rôl beiciau pedal sy’n cario llwyth ac e-feiciau sy’n cario llwyth wrth fynd i’r afael â heriau trefniadaeth darparwyr gofal iechyd (e.e. casglu gwastraff, symud post a ffeiliau, symud samplau, symud staff ar draws safleoedd/ rhwng meddygfeydd ac ati). Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar Hereford Pedicabs a Hereford Pedicargo fel astudiaeth achos a chroesawn astudiaethau eraill o’r DU ac yn rhyngwladol i gymryd rhan mewn ymchwil ac i rannu arfer da.
- Pa mor wydn yw seilwaith trafnidiaeth y DU (gan gynnwys teithio llesol) yng ngwyneb digwyddiadau tywydd eithafol yn sgil newid yn yr hinsawdd? Ar hyn o bryd rydym yn edrych am enghreifftiau o ymchwil yn y maes hwn er mwyn anfon gwahoddiad i gymryd rhan mewn seminar ar y pwnc.
- Gwella safonau cerdded yn y DU o ran datblygiadau tai newydd a hefyd aneddiadau presennol. Mae’r gwaith hwn yn edrych ar safoni sut mae cynghorau ledled y DU yn asesu datblygiadau tai newydd (a’r aneddiadau presennol) a pha mor hawdd yw hi i gerddwyr/rhai ar olwynion gyrraedd cyfleusterau allweddol megis siopau lleol, meddygfeydd, banciau ac ati. Ar hyn o bryd rydym yn archwilio gydag aelodau gweithgor THINK ar y pwnc hwn ond rydym yn croesawu cyfraniadau newydd ac aelodau newydd. Gellir dod o hyd i ddeunydd ar yr archwiliad hwn mewn mannau eraill ar ein gwefan https://think.aber.ac.uk/resources/active-travel-resources/
- Sut y gall defnyddio cyfrifiadur i fapio pa mor rhwydd yw hi i gyrraedd adnoddau a ddefnyddir o ddydd i ddydd ac adnoddau hamdden trwy ddefnyddio amrywiol fathau o drafnidiaeth helpu comisiynwyr seilwaith trafnidiaeth wneud penderfyniadau cynllunio a gwario gwell? Ar hyn o bryd mae’r archwiliad hwn yn digwydd yn y Gymuned Ymarfer ar ‘Ymchwil, casglu data a dulliau ar gyfer gwneud penderfyniadau’. Rydym yn croesawu cyfranogwyr newydd i ymuno â’r Gymuned Ymarfer.
- Rôl teledu a ffilmiau wrth barhau’r diwylliant ceir a sut y gall y cyfleoedd hyn i feithrin cyswllt â’r cyhoedd fod o help i gefnogi diwylliant cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus? Archwiliad yw hwn ar hyn o bryd gydag Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth ond rydym yn croesawu cyfranogwyr newydd, yn enwedig os ydych chi’n comisiynu gwaith theatr, teledu, ffilm neu radio.
- Gweithdy ysgrifennu barddoniaeth i’r cyhoedd am straeon trafnidiaeth. Ar hyn o bryd mewn cydweithrediad â Matthew Jarvis o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rydym yn croesawu cydweithwyr eraill i drafod y syniad hwn.
- Cefnogaeth grŵp llywio i awduron rhanbarth y Siarter Teithio Iach. Ar hyn o bryd archwiliad yw hwn gyda Y Ganolfan Ddeialog a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.