Yn ddiweddar, cynhaliodd Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) gyfres o weithdai lle bu ymarferwyr trafnidiaeth ac iechyd, ymchwilwyr a llunwyr polisi yn trafod yr heriau a’r posibilrwydd ar gyfer cynnydd o ran gwella iechyd y cyhoedd drwy ymyriadau a pholisi trafnidiaeth, tra’n gweithio tuag at nodau cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach ar yr un pryd.
Un o’r themâu allweddol a ddeilliodd o’r trafodaethau oedd cydweithio. Un o’r awgrymiadau oedd mwy o gydweithio ar draws disgyblaethau i gyflawni pethau “ar lawr gwlad”, gwerthfawrogi’r mewnbwn gan wahanol ddisgyblaethau, gweithio mewn dull llai ynysig a gwella cyfathrebu rhwng ymarferwyr trafnidiaeth ac iechyd, ac academyddion a rhanddeiliaid eraill. Roedd y rhwystrau a ddaeth i’r amlwg yn cynnwys bylchau rhwng tystiolaeth a gweithredu, diffyg priodoldeb cyd-destunol i ddatrysiadau a gwahaniaethau yn yr hyn sy’n cael ei gyfrif yn dystiolaeth ddilys.
Yn hanesyddol, mae cynllunio trafnidiaeth fel disgyblaeth wedi dibynnu ar fodelu effaith bosibl ymyriadau gwahanol i ddatrys problemau cymhleth neu i ddeall a rhagweld ymddygiadau teithio pobl. Er bod angen deall patrymau, ymddygiadau ac anghenion cyffredinol, mae modelu ar gyfer yr unigolyn cyffredin wedi golygu bod llawer o bobl yn cael eu heithrio o wasanaethau a lleoedd sy’n rhan o hawliau pob un ohonom. Yn draddodiadol, mae ymchwil iechyd y cyhoedd wedi defnyddio dulliau meintiol epidemiolegol i ddeall achos cyflyrau iechyd ar draws poblogaethau neu effeithiolrwydd ymyriadau drwy ‘dreialon hapsamplu rheolyddedig’. Ac eto, mae senarios yn y byd go iawn yn parhau i gyflwyno heriau yn sgil cymhlethdodau amrywiol. Er enghraifft, mae heriau i newid ymddygiad yn codi oherwydd ffactorau amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd. Bellach, mae dulliau ansoddol a chyfranogol yn llywio disgyblaethau cynllunio, peirianneg ac iechyd y cyhoedd, ac yn aml yn eu hategu i archwilio ymddygiadau a normau, ac effaith ymyriadau, polisïau a thrawsnewidiadau eraill yn eu cyd-destun. Ac eto, mae dulliau ontolegol a methodolegol gwahanol yn perthyn i ddisgyblaethau gwahanol, a hyd yn oed o fewn disgyblaethau, maen nhw’n parhau’n gaeth i setiau o normau technegol a diwylliannol.
Archwilio’r posibiliadau ar gyfer cydweithio gyda data mawr a thrwchus
Mae’r cynnydd mewn dadansoddi cyfrifiadurol uwch, megis dysgu peirianyddol, yn gofyn am ddata craff sy’n gallu helpu i fireinio, graddnodi, cyd-destunoli neu ddehongli data mawr sy’n cael ei gasglu’n rheolaidd. Ar yr un pryd, mae angen i ni gydnabod gallu dadansoddeg data mawr i raddio, ymestyn, dilysu a chyffredinoli’r ddealltwriaeth sy’n deillio o ‘ddata trwchus’ ansoddol – arsylwadau ethnograffig, cyfweliadau a naratifau. Er enghraifft, mae gwaith ymchwil newydd[i] yn cael ei ddefnyddio i gyfuno data emosiwn – gan gynnwys data synhwyrydd y corff a data GPS – gyda naratifau a lluniadau cyfranogwyr sy’n cyfoethogi ein gwybodaeth am brofiadau pobl o’u cymdogaethau. Mae hyn yn galluogi pobl i rannu manylion yr hyn roedden nhw’n ei deimlo a pham, gan ymgorffori dealltwriaeth o ddata synwyryddion ar lawr gwlad i gasglu manylion am broblemau symudedd yr oedd pobl yn eu hwynebu. Gall dull o’r fath ein helpu i wella dyluniad a diogelwch lleoliadau a sut rydyn ni’n teimlo wrth ryngweithio mewn gwahanol leoliadau.
Wrth weithio ar PEAK Urban, prosiect a ariannwyd gan Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang UKRI, fe wnaeth fy nghydweithwyr a minnau ganfod diddordeb cyffredin mewn ystyried sut i oresgyn ffiniau hanesyddol, ontolegol, disgyblaethol a methodolegol. Roedden ni’n cydnabod y gall bod yn gaeth i ddisgyblaeth olygu ein bod ni’n ymgyfarwyddo â rhai ffyrdd penodol o edrych ar broblemau, eu deall a mynd i’r afael â nhw. O allu dysgu derbyn ein gwahaniaethau, roedden ni’n sylweddoli y byddai hynny’n rhoi gwell siawns i ni lwyddo gyda’n hymdrechion cydweithredol. Nodwyd angen i ni fod yn fwy ymwybodol o gyfraniadau pob un ohonom at brosiect neu ddatrysiad. O ganlyniad, cynhaliwyd arbrawf disgyrsiol i weld sut bydden ni’n mynd i’r afael â gwrthdrawiadau traffig drwy gyfuniad o’n safbwyntiau dadansoddol. Mae mynediad agored i’r erthygl yn y Journal of Urban Affairs[ii] ac mae’n crynhoi cryfderau a gwendidau dadansoddi data mawr a thrwchus, manteision defnyddio’r ddau gyda’i gilydd, a’r technegau cydweithredol diweddaraf sy’n cael eu defnyddio mewn cynllunio trefol.
Cysoni dulliau yn ymarferol: diogelwch ar y ffyrdd a gwrthdrawiadau traffig yn Ninas Mecsico
Roedd ein harbrawf cydweithredol yn ystyried achos damcaniaethol o ddiogelwch ar y ffyrdd ym Mecsico i daflu syniadau ynghylch sut i ddefnyddio data mawr a thrwchus i ddatblygu gwybodaeth er mwyn llywio polisi ac ymyriadau i leihau gwrthdrawiadau traffig. Mae’r gwahanol ddulliau a drafodwyd, a’u defnydd mewn dull cydweithredol o ymdrin â diogelwch ar y ffyrdd, wedi’u nodi yn y tabl isod:
Yn ein tîm ni, bu arbenigwyr ym maes dadansoddi data mawr yn amlinellu manteision y technegau a ellid eu defnyddio i nodi patrymau gwrthdrawiadau mewn mannau penodol o’r ddinas ar wahanol adegau o’r dydd a’r wythnos. Roedden nhw’n disgrifio’r mathau o ddata synwyryddion amser real sydd bellach ar waith i archwilio ymddygiad gyrwyr ac efallai i’w newid mewn amser real. Fodd bynnag, roedden nhw o’r farn bod bylchau yn ein dealltwriaeth o agweddau gyrwyr a’r ysgogiad gwleidyddol a chymdeithasol ar gyfer gweithredu o ran diogelwch traffig a newid ymddygiad. Roedd ein harbenigwyr astudiaethau ethnograffig a hanesyddol yn tynnu sylw at natur gyd-destunol problem diogelwch ar y ffyrdd.
Roedden ni i gyd yn derbyn bod dadansoddiadau data mawr yn gallu anwybyddu’r llwybrau hanesyddol sy’n arwain at agweddau gyrwyr; llwybrau sydd wedi’u gwreiddio mewn cyd-destunau penodol sydd, dros amser, yn arwain at ymddangosiad normau cymdeithasol sefydledig o fewn gwahanol garfanau demograffig neu leoliadau. Er enghraifft, mae sgyrsiau gyda gyrwyr yn gallu datgelu ffyrdd o normaleiddio gyrru’n gyflym yn ôl rhyw, a sut mae’r normau hyn, yn eu tro, yn ymgorffori ac yn mynegi hunaniaethau sy’n cael eu dwysáu o dan ddylanwad alcohol neu sefyllfaoedd cymdeithasol penodol. Mae agweddau’n gallu newid yn dibynnu ar oedran gyrrwr, gan adlewyrchu nid yn unig lefel eu profiad ond hefyd y gwahanol ffyrdd y mae hunaniaethau’n cael eu hymgorffori drwy arferion gyrru.
Fel yn y gweithdai THINK, roedd y mecanweithiau gwleidyddol sy’n gallu pennu’r defnydd o ymyriad yn cael eu crybwyll fel rhwystr i wneud y ddinas yn fwy diogel. Yn ystod etholiadau Dinas Mecsico 2018, roedd nifer o ymgeiswyr gwleidyddol yn sefyll ar faniffesto yn canolbwyntio ar gerbydau er mwyn denu cefnogaeth etholwyr drwy addo dileu system awtomataidd y ddinas a oedd yn dirwyo gyrwyr a oedd yn torri terfynau cyflymder. Penderfynodd llywodraeth newydd 2018 ddileu’r system ddirwyo, a gyflwynwyd yn 2015, gan ddadlau ei bod yn cael effaith economaidd niweidiol ar deuluoedd, ei bod yn gostus i’w gweithredu ac wedi’i chynllunio’n wael. Fodd bynnag, datgelodd y dadansoddiad bod y tebygolrwydd o oryrru a derbyn dirwy yn cynyddu gyda lefel incwm, a oedd yn golygu bod o leiaf un o’r rhesymau hynny yn annhebygol. Mae datblygu dealltwriaeth wedi’i mireinio o gyd-destun gwleidyddol ac economaidd dinas – gan gynnwys tarddiad hanesyddol rhwydweithiau gwleidyddol a grwpiau buddiant, a’u perthynas ag ymyriadau – yn rhan angenrheidiol o ymgorffori dulliau sy’n cael eu gyrru gan ddata mawr yn y gwaith o lywodraethu dinasoedd.
Cydweithio ar wahanol gamau prosiectau ymchwil ac ymyriadau
Un o gyfraniadau mwyaf arwyddocaol mabwysiadu dull mwy integredig yw’r gallu i gynhyrchu dealltwriaeth a dulliau newydd sy’n ymestyn ar draws pob cam o’r broses ymchwil. Mae dealltwriaeth o ddadansoddiadau data mawr a thrwchus yn gallu ategu a chyd-gyfrannu fel rhan o broses ailadroddol a chylchol ehangach o ddylunio ymchwil. Er enghraifft, mae data mawr yn ddefnyddiol o ran nodi lle mae problemau ar eu mwyaf arwyddocaol, ac i bwy. Mae ymchwil ethnograffig yn gallu helpu i nodi rhanddeiliaid perthnasol ac i benderfynu sut dylen nhw fod yn rhan o’r broses ymchwil. Mae modd defnyddio data mawr i nodi is-grwpiau i’w targedu ar gyfer ymchwiliad ethnograffig pellach, lle gellir archwilio ymddygiadau ac anghenion penodol yn fanwl. At hynny, mae cydweithio’n creu cyfleoedd i rannu tystiolaeth a chyfathrebu â gwahanol gynulleidfaoedd i sicrhau bod rhanddeiliaid perthnasol yn cymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau, a allai fod yn ddefnyddiol wrth sefydlu proses ddemocrataidd a chynhwysol hirdymor o wneud penderfyniadau.
Ac eto, mae diffyg cydweithio o hyd, efallai am ei fod yn heriol a bod diffyg dealltwriaeth ohono. Er enghraifft, cododd un rhwystr i ni fel ymchwilwyr wrth gyhoeddi ein gwaith. Cyflwynwyd y gwaith gyntaf i gyfnodolyn rhyngddisgyblaethol, gyda phob un o’r pedwar adolygydd yn gofyn am astudiaeth ymchwil a allai ddangos y dull hybrid mewn senario byd go iawn. Roedd adolygiad yr ail gyfnodolyn o’r farn bod ein trafodaethau archwiliadol yn ddata dilys. Amlygodd hwnnw sut mae normau sy’n ymwneud â dilysrwydd gwybodaeth yn rhan annatod o gyhoeddi ymchwil ac adolygu gan gymheiriaid. Mae angen i ni allu cyhoeddi canfyddiadau ymchwil gydweithredol heb rwystrau ychwanegol. Er enghraifft, mae cyfnodolion rhyngddisgyblaethol yn gallu defnyddio golygyddion sy’n ymwneud â gwahanol ddulliau a defnyddio adolygwyr o wahanol ddisgyblaethau methodolegol i adolygu pob papur. Byddai hyn yn cydbwyso normau a safbwyntiau ynghylch dulliau sy’n cael eu defnyddio mewn ymchwil. Fodd bynnag, mae’r broblem o ddod o hyd i ddigon o adolygwyr yn cyfyngu ar y posibilrwydd o brosesau adolygu niwtral a chydweithredol.
Argymhelliad arall, nad yw bob amser yn bosibl, yw amser. Roedd angen amynedd i wrando, dysgu a llunio ein dull gweithredu hyd yn oed yn ddamcaniaethol heb heriau ymchwil y byd go iawn i’w goresgyn. Mae’n bosibl nad yw llawer o brosiectau cydweithredol yn cael digon o amser o ran cyllid i ymgysylltu’n llawn â’r prosesau ailadroddol a ddisgrifiwyd gennym, i ddysgu’n gydgynhyrchiol, neu i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth a chydweithio llawn. Yn ogystal, mae’n cymryd mwy o amser i ysgrifennu cynigion cydweithredol ac allbynnau ymchwil. Mae angen mwy o waith ymchwil ac adnoddau hefyd i gydweithio’n llwyddiannus. Efallai nad dyma’r allbwn effaith mwyaf tebygol i ymddangos ar gynigion prosiect, ac anaml y bydd yn hawlio’r prif sylw mewn cyhoeddiadau, ond os gallwn ni sicrhau cydweithio cadarn, mae hynny ynddo’i hun yn effaith.
Gyda diolch i’r ymchwilwyr a gyfrannodd, Andy Hong, James Duminy, Raphael Prieto Curiel, Bhawani Buswala, ChengHe Ghan a Divya Ravindranath.
Mae prosiect PEAK Urban wedi dwyn ynghyd ymchwilwyr trefol gyrfa-gynnar o bum gwlad (y Deyrnas Unedig, India, Tsieina, Colombia a De Affrica) i ddatblygu ffyrdd arloesol a rhyngddisgyblaethol o ddelio â phroblemau trefol cymhleth. [iii]
[i] Willis, K.S. a Nold, C., 2022. Sense and the city: An Emotion Data Framework for smart city governance. Journal of Urban Management.
[ii] Hong, A., Baker, L., Prieto Curiel, R., Duminy, J., Buswala, B., Guan, C. a Ravindranath, D., 2022. Reconciling big data and thick data to advance the new urban science and smart city governance. Journal of Urban Affairs, t.1-25.
[iii] Keith, M., O’Clery, N., Parnell, S. a Revi, A., 2020. The future of the future city? The new urban sciences and a PEAK Urban interdisciplinary disposition. Cities, 105, t.102820.