Skip to content

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

Menu
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Tîm
  • Blog Archwilio Trafnidiaeth ac Iechyd
  • Podlediad y THINK
  • Ffowndri THINK
  • Adnoddau Academi THINK
    • 20mya ac iechyd
    • Adnoddau Teithio Llesol
    • Adnoddau Gwahanu Cymunedau o boptu Ffyrdd
    • Adnoddau Diogelwch Defnyddwyr Ffyrdd
    • Adnoddau Llygredd Aer a Sŵn
    • Cyhoeddiadau THINK
    • Trafnidiaeth a dull gweithredu Iechyd Cyfunol
  • Prosiectau rhwydwaith THINK
    • Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd
      • Derbynwyr y Gwobrau 2023
    • Bws Rhywedd+Cymru: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad treisgar yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru
  • Newyddion
    • Cynhadledd Aeaf y Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) 2023
  • Cymraeg
    • English
    • Cymraeg
Menu

Hysbysebu yng Nghymru a’r DU: yr angen i integreiddio trafnidiaeth ac iechyd er mwyn creu lleoedd iachach

Posted on 4 Mai 20228 Mehefin 2022 by amynicholass

Awdur: Dr Lucy Baker, Prifysgol Aberystwyth

Llanishen, Caerdydd. Ffoto: Lucy Baker

Ffyrdd newydd o fynd i’r afael â gordewdra mewn polisi trafnidiaeth a threfol

Yn debyg i ffigurau’r DU, mae o ddeutu 60% o oedolion[i] a 26.9% o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew[ii].

Mae ymchwil yn awgrymu bod cael eu hamlygu i hysbysebion am fwyd afiach yn cyfrannu at fwyta afiach, magu pwysau a gordewdra [iii]. Amcangyfrifir bod pobl 2.6% yn llai tebygol o fod yn ordew os ydynt yn byw mewn mannau lle nad yw bwyd yn cael ei hysbysebu na’r rheini sy’n byw mewn mannau lle mae 30% o hysbysebion awyr agored yn gyffredinol ar gyfer bwyd[iv].

Caiff pobl eu hamlygu i hysbysebion ar gysgodfannau bws, biniau, bythau ffôn neu Wi-Fi, arwyddion ffordd a hysbysfyrddau, gyda llawer yn cael eu cyfrif yn afiach. Ar draws dinasoedd gogledd Lloegr, canfuwyd bod traean o’r holl hysbysebion awyr agored yn hyrwyddo McDonalds, brand sydd hefyd i’w weld yn dominyddu cynnwys hysbysebion bwyd mewn cysgodfannau bws[v]. Yn yr Alban, roedd 22% o hysbysebion cysgodfannau bws yn marchnata melysion a chynhyrchion bwyd cyflym[vi].

Er gwaethaf dylanwad niweidiol hysbysebion am gynhyrchion braster, siwgr neu halen uchel (HFSS) ar iechyd pobl, mae awdurdodau lleol yn cynhyrchu incwm drwy drefniadau gyda chwmnïau marchnata sy’n broceru gofod hysbysebu i gynhyrchwyr ac allfeydd bwyd a diod. Mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r strategaeth hon yn gyffredin i gael a chynnal cysgodfannau bws.

Hysbysebion afiach ac anghydraddoldebau iechyd

Ceir gwahaniaeth sylweddol rhwng ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig y DU o ran pa mor gyffredin yw bod dros bwysau.

Nid yw tystiolaeth gyfredol yn awgrymu cyswllt achosol rhwng gosodiad hysbysebu bwyd HFSS a’i effaith ar anghydraddoldebau iechyd, ond mae’n awgrymu bod rhai pobl yn cael eu hamlygu i fwy o hysbysebion afiach nag eraill am eu bod yn byw mewn lleoliadau trefol canolog.

Mae hyn am fod buddiannau’r farchnad yn llywio cwmnïau hysbysebu i osod hysbysebion mewn mannau trefol poblog lle mae mwy o bobl yn cerdded drwyddynt. Mewn rhai achosion, mae cymunedau Du a Lleiafrifol Ethnig a’r cymunedau mwyaf difreintiedig yn cael eu hamlygu mwy i hysbysebion afiach na chymunedau mwy llewyrchus a Gwyn [vii].

Mae diwydiant hysbysebu’r DU yn hunan-reoleiddio

Yr ASA, a sefydlwyd gan y diwydiant hysbysebu, sy’n gyfrifol am reoleiddio cynnwys a gosodiad hysbysebion yng nghyfryngau darlledu a chyfryngau eraill y DU. Mae Pwyllgor yr ASA ar Arferion Hysbysebu (CAP) yn ysgrifennu ac yn cynnal cod ar gyfer hysbysebu na chaiff ei ddarlledu (cod CAP). Y CAP a’r ASA sy’n gyfrifol am asesu cydymffurfiaeth hysbysebion yn dilyn cwynion unigol.

Mae’r unig reoliad sydd ar waith ar hysbysebu cynhyrchion HFSS mewn man cyhoeddus ac ar drafnidiaeth gyhoeddus i’w weld dan god CAP 15.18. Dywed na ddylid cyfeirio hysbysebion am fwyd a diod HFSS at bobl dan 16 oed drwy ddethol y cyfryngau neu’r cyd-destun lle maent yn ymddangos ac na ddylid defnyddio unrhyw gyfrwng sydd â chynulleidfa â thros 25% o bobl dan 16 oed i hysbysebu cynhyrchion HFSS [viii].

Mae’r cod wedi’i ddefnyddio gan gwmnïau hysbysebu i gyfyngu gosod hysbysebion statig am fwyd a diod HFSS o fewn 100 metr i ysgolion. Nid yw’r hysbysebion hyn wedi’u cyfyngu mewn unrhyw fannau eraill lle mae plant a phobl ifanc yn bresennol yn fwy na’r cyfartaledd, neu lle mae teuluoedd yn tueddu i fynd ar wyliau, ac nid ydynt chwaith wedi’u cyfyngu ger canolfannau hamdden, sinemâu nac ardaloedd manwerthu.

Rhan o’r rheswm pam nad yw hyn wedi arwain at gynnwys hysbysebu iachach yn y mannau hyn yw anhawster i ddangos bod dros 25% o gynulleidfa hysbyseb dan 16 oed. Dangosodd elusen Sustain[ix] sut y pennodd yr ASA bod hysbyseb afiach ar fws yn dderbyniol am ei fod yn debygol o basio drwy leoliadau sy’n gynrychioliadol o’r boblogaeth gyffredinol. Y gyfran o bobl dan 16 oed yn y DU yw 17.8% o’r boblogaeth, ac mae hyn yn gostwng[x].

Fodd bynnag, ceir llawer o ardaloedd preswyl ac amgylchiadau lle mae’r gyfran o bobl dan 16 oed yn 25% ac uwch. Mae data’r cyfrifiad diweddaraf yn dangos bod gan 5 Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol yng Nghaerdydd boblogaeth o 25% neu fwy dan 16 oed. Dyma rai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y ddinas. Os ydych chi’n ystyried pobl dan 18 (sef y diffiniad cyfreithiol o blentyn), mae gan 11 o’r 49 Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol yng Nghaerdydd boblogaeth plant sydd dros 25%. 

Mae’n bosibl caffael data ar oed teithwyr bws pan fydd cynulleidfaoedd sy’n gweld hysbysebion mewn arosfannau bws yn cael eu hystyried, ac mewn rhai achosion, gall cwmnïau hysbysebu gynhyrchu data am niferoedd. Fodd bynnag, mae asesu’r union amrywiad o blant a phobl ifanc sy’n pasio heibio i arosfan bws ar unrhyw adeg, mewn car, bws, ar droed neu fel arall, ar lwybr penodol yn anoddach.

Nid yw’r CAP wedi datblygu dull safonol i asesu cynulleidfa hysbysebion mewn man cyhoeddus. Nid yw chwaith yn darparu unrhyw gyfiawnhad yn gyhoeddus sy’n dangos yn union a sut y caiff y gyfran o 25% o gynulleidfa ei hystyried fel y trothwy mwyaf addas ar gyfer diogelu plant (dan 16 oed) pan gaiff ei groesi. Ar y llaw arall, mewn darlledu, ceir dulliau cadarn ar gyfer asesu niferoedd cynulleidfa rhaglenni teledu gan ddefnyddio gwybodaeth fanwl am ddemograffeg cynulleidfaoedd i reoli cynnwys hysbysebion[xi].

Mae lle i gael hysbysebu mwy dynamig a allai reoli cynnwys hysbysebion mewn mannau perthnasol ar amrywiol adegau o’r dydd, yr wythnos a’r flwyddyn, i warchod plant a phobl ifanc rhag hysbysebion afiach. Yn yr un modd, byddai ymagwedd o’r fath yn gallu lleihau amlygiad anwastad cynulleidfaoedd o oedolion i hysbysebion mewn dinasoedd. Byddai angen data digonol a dadansoddeg gryfach ar gyfer yr ymagwedd hon fodd bynnag.

Symud at gyfyngiadau tynnach ar hysbysebion cyhoeddus niweidiol

MaeTransport for London (TfL) wedi gwahardd hysbysebion am gynhyrchion HFSS ar draws ei ystâd[xii]. Mae Cyngor Sir Bryste, ac awdurdodau lleol Haringey, Southwark a Merton wedi gwneud yr un peth gyda rhai amrywiadau yn eu polisïau o ran gofod hysbysebu a reolir gan y cyngor. Mae’r polisïau hyn yn ceisio diogelu oedolion yn ogystal â phlant, sy’n berthnasol o ystyried bod y nifer o oedolion sydd dros bwysau lawer yn uwch.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig gwaharddiad ar hysbysebu cynhyrchion HFSS yn gyhoeddus erbyn 2030. Mae hyn yn cynnwys mewn gorsafoedd bws a thrên, digwyddiadau chwaraeon, atyniadau teuluol, mewn ysgolion, ysbytai a chanolfannau chwaraeon, ac yn agos iddynt.

Yn eu cynllun 2022-2024 i fynd i’r afael â gordewdra, mae Llywodraeth Cymru’n datgan na chaiff cynhyrchion HFSS eu hysbysebu i blant a phobl ifanc (er nad yw’n cynnwys manylion sut y byddai’n gorfodi hyn)[xiii]. Caiff opsiynau bwyd iachach eu hyrwyddo mewn cymunedau lleol ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dechrau ymgynghori gyda rhanddeiliaid ar sut i wneud hyn.

I weld yr erthygl lawn wreiddiol ‘Advertising in Wales and the UK: a need for transport and health integration to create healthier places’, gan gynnwys heriau i gyfyngu hysbysebion ac awgrymiadau am ymchwil yn y dyfodol, dilynwch y ddolen hon: https://think.aber.ac.uk/think-academy-publications

Gallwch wneud cwyn am hysbyseb rydych chi wedi’i gweld yma:  https://www.asa.org.uk/make-a-complaint.html

Nodwch: nid yw cynnwys yr hysbyseb yn y ddelwedd uchod wedi’i asesu yn defnyddio Model Proffilio Maeth yr Adran Iechyd ac ni ellir ei ystyried yn gynnyrch bwyd HFSS.

Adnoddau

Food Action Cities. London, United Kingdom: a ban on unhealthy food advertising across the transport system. Available at: https://foodactioncities.org/app/uploads/2021/04/LCS2_London_Ban_On_Unhealthy_Food_Advertising.pdf

Sustain. Taking down junk food ads. Available at: https://www.sustainweb.org/publications/taking_down_junk_food_ads/

Yn ysbryd adolygu gan gymheiriaid academaidd, mae THINK yn croesawu blogiau wedi’u cyfeirnodi mewn ymateb er mwyn annog trafodaeth agored. Os hoffech ysgrifennu blog e-bostiwch think@aber.ac.uk gyda’r llinell pwnc 'Ymateb Blog’

References

[i] Public Health Wales. N.d. Child Measurement Programme for Wales. Available at: https://publichealthwales.nhs.wales/services-and-teams/child-measurement-programme/ [Accessed 21/04/2022]

[ii] NHS Wales (n.d.). Overweight and Obesity. Available at: https://phw.nhs.wales/topics/overweight-and-obesity/

[iii] Boyland, E. et al., (2016) ‘Advertising as a cue to consume: a systematic review and meta-analysis of the effects of acute exposure to unhealthy food and non-alcoholic beverage advertising on intake in children and adults’, American Journal of Clinical Nutrition, 103(2), p519-533.

[iv] Lesser, L. I., et al. 2013. Outdoor advertising, obesity, and soda consumption: a cross-sectional study. BMC Public Health, 13(1), p.20.

[v] Finlay, A., et al. 2022. An analysis of food and beverage advertising on bus shelters in a deprived area of Northern England. Public health nutrition, pp.1-31.

[vi] Olsen, JR, et al. 2021. Exposure to unhealthy product advertising: spatial proximity analysis to schools and socio-economic inequalities in daily exposure measured using Scottish Children’s individual-level GPS data. Health Place 68

[vii]  Adams, J, et al. 2011. Socio-economic differences in outdoor food advertising in a city in Northern England. Public Health Nutr. 14, 945–950.Adjoian, T. et al. 2019. Density of outdoor advertising of consumable products in NYC by neighborhood poverty level. BMC Public Health, 19(1), pp.1-9.

Cassady, D.L. et al. 2015. Disparities in obesity-related outdoor advertising by neighborhood income and race. J. of Urban Health, 92(5), pp.835-842.

Palmer, G., et al. 2021. A deep learning approach to identify unhealthy advertisements in street view images. Scientific reports, 11(1), pp.1-12.

Settle, P, et al. 2014. Socioeconomic differences in outdoor food advertising at public transit stops across Melbourne suburbs. Austr N Z J Public Health 38, 414–418.

[viii] Advertising Standards Agency. N.d. CAP Code 15: Food, food supplements and associated health or nutrition claims. https://www.asa.org.uk/type/non_broadcast/code_section/15.html

[ix] Sustain. 2020. Taking down junk food ads. Available at: https://www.sustainweb.org/publications/taking_down_junk_food_ads/

[x] Office for National Statistics. 2020. ONS.gov.uk

[xi] Advertising Standards Agency (ASA). N.D. Identifying TV programmes likely to appeal to children: Advertising Guidance (broadcast) *c1eaecc7-f805-468a-ac01683985dbe9e9.pdf (asa.org.uk)

[xii] Transport for London. 2019.TfL ad policy: approval guidance food and non-alcoholic drink advertising. London: Transport for London. Available at: http://content.tfl.gov.uk/policy-guidance-food-and-drink-advertising.pdf

[xiii] Welsh Government, 2022. Healthy Weight: Health Wales: moving ahead in 2022 – 2024. Welsh Government. https://gov.wales/healthy-weight-healthy-wales-2022-2024-delivery-plan

THINK - the Transport and Health Integrated research NetworK
  • Cynllun Ceir Cymunedol Sir Fynwy: Prosiect Ymchwil – Dirnadaeth ac Argymhellion
  • Mae ein canllaw newydd ar gyfer hyfforddwyr ac ymgyrchwyr gwyliedyddion bellach ar gael i’w lawrlwytho
  • Trosiant Teg?
  • Y mapiau cyffyrddol trawsnewidiol wedi’u creu ar gyfer pobl ag amhariad ar y golwg
  • Methodoleg Q fel dull defnyddiol o ymchwilio i drafnidiaeth

THINK Podcast

Transport and Health Integrated research NetworK – THINK Podcast
Transport and Health Integrated research NetworK – THINK Podcast

THINK is a collaboration between the psychology department of Aberystwyth University and Public Health Wales, and is funded by Health and Care Research Wales to improve health outcomes for all, in relation to transport. The network is made up of individuals working in academic, practitioner, policy or charity roles across different areas of transport and health. THINK facilitates research, training and seminars to develop knowledge and provide opportunities to work collaboratively across four different themes – air and noise pollution; injuries and deaths stemming from vehicle crashes; the impact of active travel (walking and cycling) on health; and the impact of vehicles dividing communities. You can sign up as a member of THINK for free on the website https://think.aber.ac.uk/sign-up/ or follow us @TransportHealth

THINK podcast – falling in love with the buses
byThe Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK

THINK presents a variety of perspectives on how we can fall in love with the buses again across Wales and the UK. 

Hear from campaigners working hard to save their bus routes, retired bus drivers who reflect on how things used to be and what can be done to improve the current situation, a bus and coach industry representative and academics who provide tips on getting more passengers by making bus provision feel safer for more people, and how to get the message out to a wider audience about the benefits of bus travel. 

The recording was made in various locations including outside and online so the sound quality varies slightly. 

Amy Nicholass and Charles Musselwhite from THINK wish to thank to Elly Foster, David Marshall, Rosemary Corcoran, Dr Lucy Baker, Katherine Parsons, Aaron Hill and Roger French for giving their time for free to take part in the recording. 

THINK podcast – falling in love with the buses
THINK podcast – falling in love with the buses
24 Gorffennaf 2024
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
THINK Podcast – community car share clubs
23 Gorffennaf 2024
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
Access to Healthcare with Community Transport
13 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
More Than Just a Journey – Community Transport
8 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
Search Results placeholder

Drop down menu in the centre from the podcast player will play the other podcast episodes

Latest recordings of THINK event if you missed it!
Prifysgol Aberystwyth University
Health and Care Research Wales
NHS Wales - Public Health Wales
©2025 Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) | Built using WordPress and Responsive Blogily theme by Superb