Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnig ffordd o leihau allyriadau carbon a, law yn llaw â theithiau llesol milltir gyntaf a milltir olaf, mae’n cyfrannu at sicrhau ein bod ni’n cael digon o ymarfer corff yn ein harferion dyddiol i gadw’n iach. Mae hefyd yn bwysig o ran iechyd, cydlyniant a lles cymunedol, yn enwedig i’r rhai sy’n dibynnu ar wasanaethau.
Er mor bwysig ydyw i lawer, a hynny’n fwy nawr nag erioed efallai, mae angen hwb i boblogrwydd trafnidiaeth gyhoeddus. Mae cyfnodau clo COVID-19 a chyfraddau uchel o ddefnyddio ceir wedi effeithio ar y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, ac nid yw niferoedd y teithwyr wedi codi yn ôl i’r lefel oedden nhw eto. Gallai newid i batrymau cymudo fod yn un o’r rhesymau am hynny. Rydyn ni’n treulio mwy o amser yn ein cartrefi, ac yn troi at dechnoleg i ddiwallu llawer o’n hanghenion. I’r rhai sydd fwyaf agored i niwed, mae’r risg o haint Covid yn dal i fod yn bresennol. Mae costau byw wedi codi i’r entrychion ac yn y cyfamser mae prisiau tocynnau wedi cynyddu. Ond faint ohonon ni sy’n ystyried yn rheolaidd bod defnyddio’r bws neu’r trên yn gallu bod yn brofiad cadarnhaol? Drwy ailgysylltu pobl â’r diwylliant sydd wedi’i wreiddio yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, ydy hi’n bosibl i ni newid y canfyddiadau am deithiau trenau a bysiau, am ddefnyddio gwasanaethau a hyd yn oed am y staff sy’n gyfrifol am wasanaethau trafnidiaeth?
Fel rhan o waith ymgysylltu THINK gyda’r cyhoedd, rydyn ni’n cynllunio prosiect creadigol i annog pobl i roi mwy o ystyriaeth i deithiau sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus nag y bydden nhw fel arfer. Rydyn ni’n ystyried llenyddiaeth – ffuglen, bywgraffiad a barddoniaeth, er enghraifft – ffotograffiaeth, cerddoriaeth a synau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus a’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau neu’n gweithio i, neu gyda’r gwasanaethau. Rydyn ni eisiau archwilio’r hyn y mae awduron yn ei ddweud am drafnidiaeth, pa fath o ddiwylliant sy’n gysylltiedig â’r maes a pha effaith y mae’n ei chael, neu y gallai ei chael, ar ein canfyddiadau ohono.
Os ydych chi’n ymwybodol o awdur, delwedd neu ddarn o gerddoriaeth sydd, yn eich tyb chi, yn berthnasol i drafnidiaeth neu deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, cysylltwch â ni drwy e-bostio THINK@Aber.ac.uk (pwnc ‘Lanes and Lines’) neu drydar neu anfon neges uniongyrchol i @transporthealth.
I wthio’r cwch i’r dŵr, mae ymchwilydd THINK Lucy Baker yn disgrifio cerdd o Gymru ac yn ymateb iddi’n bersonol.
Ydych chi’n aros am drên mewn gorsaf wledig anghysbell? Pwyllwch a mwynhewch eiliadau tawel bywyd, ond ddim am rhy hir!
Y gerdd rydw i wedi dewis ei rhannu yw ‘Dyfi Junctions Bywyd’ gan Geraint Løvgreen. Mae’r gerdd Gymraeg wreiddiol wedi cael ei chyfieithu i’r Saesneg gan y bardd ei hun. Rydw i wedi dewis hon oherwydd ei fod yn defnyddio’r trên a theithio (neu beidio) i athronyddu am fywyd a gwerth amseroedd di-nod a difflach bywyd sydd hefyd wedi’u gwreiddio mewn mannau cyfarwydd. Mae’r gerdd hefyd yn dweud rhywbeth am elfen eithaf perthnasol i ddiwylliant gwledig Cymru, sef platfform rheilffordd ynysig – yn yr achos hwn, Cyffordd Dyfi neu Dyfi Jyncshyn – yn debyg iawn i fy atgofion i am Gilgeti neu Glunderwen yn Sir Benfro.
Os yw “Bywyd mond yn daith” i rai, mae Dyfi Junctions Bywyd yn ymwneud â’r adegau rhwng y teithiau i eraill, neu’r adegau lle nad oes teithio; yr adegau pan nad ydyn ni’n symud i unman. Mae’r gerdd yn dechrau gyda’r llefarydd yn disgrifio lle nad yw eisiau bod mewn bywyd. Mae ei naws bron yn ddigalon,
“dwi ‘di bod yn Dyfi Junction lawer gwaith
yn aros yn obeithiol am drên a ddaw i’m nôl
a nghario ymlaen o fama, neu yn ôl.”
Mae’r gerdd yn cyffwrdd â theimlad o unigrwydd wrth ddisgrifio gorsaf ynysig Cyffordd Dyfi ar ôl i bawb fynd.
“mi gysgais ar y platfform, mi gollais drên neu dri
yn sydyn doedd ‘na neb ar ôl ond fi.”
Mae ymdeimlad o ddatgysylltu oddi wrth eraill yng ngeiriau’r llefarydd. Rwy’n dehongli hyn i olygu bod pobl wedi symud ymlaen yn eu bywydau. Awgrym o symud ymlaen, boed hynny o ran cyflawni mwy na’r llefarydd, neu ddim ond symud ymlaen yn ddaearyddol. Gallai hynny fod yn gysylltiedig â phobl yn symud ymlaen o fannau gwledig i fannau trefol, mannau lle mae modd tybio bod llawer mwy yn digwydd. Wrth dyfu i fyny mewn tref fach yng Nghymru, er ei fod yn lle da, roedd gen i deimlad fy mod i eisiau profi mannau eraill. Symudais ymlaen a gadael yr orsaf honno, fel petai.
Yn y pedwerydd pennill, mae’r llefarydd yn awgrymu’r gwahaniaeth rhwng gorsaf wledig dawel a gorsaf brysurach mewn dinas, fel rhywle mwy swnllyd a llygredig. Mae manteision i fyw yng nghefn gwlad, fel yr awyr iach a thawelwch, ond wrth i fi ddarllen, roedd fy meddwl i ar beth allai fod yn digwydd yn rhywle arall:
“ond mae ‘na lawer llai o sŵn ac mae ‘na lawer llai o fwg;
‘di Dyfi Junctions bywyd ddim yn ddrwg.”
Ond hyd yn oed os nad oes llawer o ddim byd yn digwydd, pryd bynnag neu lle bynnag, mae hynny’n gallu bod yn iawn. Yng ngeiriau’r llefarydd, “Dyfi Junctions bywyd sy’n ein cadw ar y rêls”. Mae hyn yn peri i mi feddwl am y drefn, y sefydlogrwydd a’r cysur y mae’n eu cynnig. Mae hynny’n gallu troi’n ddiflas, wrth gwrs, ac mae’n dda cael her neu newid, ond mae hefyd yn dda cael pethau mewn bywyd sydd, waeth beth sy’n digwydd, yn cynnig cysur a thawelwch meddwl am eu bod yn gyfarwydd ac yn ddigyfnewid. Mae hynny’n gallu bod yn lle, fel yn y gerdd, sy’n “fythgofiadwy”. Dyma yw Kop Wrecsam yn y gerdd, yr enw lleol am un o derasau stadiwm pêl-droed Wrecsam lle cafodd Geraint ei fagu a’i addysgu. Mae’r tywydd yn ychwanegu at y profiad bythgofiadwy,
“ond fanne den ni’n sefyll, yn ifanc ac yn hen
a rywsut byth yn llwyddo i ddal y trên.”
Mae unrhyw un sy’n gyfarwydd â Chymru yn gyfarwydd â glaw. Ond mae ennyd bleserus i’r llefarydd wrth sefyll yn y glaw ymhlith cefnogwyr selog eraill yn y stadiwm leol. Mae’r cefnogwyr yn hen ac yn ifanc – yn wahanol – ond mae cysylltiad rhyngddyn nhw, yno ar y cae pêl-droed lleol. Mae’n lle sy’n aros yr un fath, yn lle sy’n dod â chysur i’r rhai sy’n gyfarwydd ag ef – yn union fel Dyfi Junctions Bywyd.
Mae pennill olaf y gerdd yn ein hannog i arafu ac i fwynhau peidio â gorfod symud drwy’r amser. Ond mae hefyd yn ein rhybuddio i beidio ag aros cyhyd fel bod bywyd yn pasio heibio i ni, neu’n bod yn cael ein dal yn gaeth yn rhywle mae’n anodd dod ohono:
“yn Dyfi Junctions bywyd gei di ysbaid ar y daith
ond paid â cholli’r connection ola, chwaith.”
Mae modd ystyried hon fel neges amlwg. Mae’r gerdd gyfan yn swnio fel gair o gyngor doeth gan rywun hŷn, sydd hefyd yn gysur. Ond mae hefyd yn gysur darllen y gerdd wrth gofio am fod yn hwyr o hyd a gorfod rhuthro i ddal trên neu fws gartref. Rydw i wedi dysgu i ddim ond dal bws i lefydd a cherdded yn ôl, ers colli’r bws olaf adref o Dyndyrn i Drefynwy, gan olygu bod fy nhad wedi gorfod gyrru i nôl yr anturiaethwr diymgeledd. Yn aml mae yna wefr yn sgil y rhuthro – cyrraedd gorsaf y Drenewydd i fynd i Gaerdydd, gan wybod na fydd trên arall am ddwy awr, fel mae fy nhrên yn dod i stop. Amseru perffaith wir. Neu a yw’n gyfle i dreulio ennyd yn profi “ynysoedd o lonyddwch i dorri siwrne faith”?
Mae’r gerdd yn cynnig cysur. Mae’n symud o naws negyddol, naws o unigrwydd ac anobaith bron, i fod yn gerdd ddyrchafol ei natur. Mae’n dweud nad oes dim byd o’i le ar arafu a mwynhau’r adegau pan nad oes llawer yn digwydd, neu pan nad ydyn ni’n mynd i unman, neu i weld pleser mewn mannau sydd wedi mynd yn ddifflach. Nid yw’n wir i bawb, ond i rai, dyma yw “y lle brafia yn y byd”. Ond, er bod y gerdd yn dweud na allwn ni orfodi newid, mae rhybudd i beidio ag oedi cyhyd fel nad oes modd dianc. Mae’n bosibl mai’r adeg y byddwn ni’n gallu mwynhau’r adegau tawel fwyaf yw pan fydd cyfle am rywbeth mwy i ddod. Efallai na fyddwn ni’n gwybod hynny i sicrwydd, neu pryd y gallai hynny ddigwydd, ond (yn fy marn i) mae angen disgwyliad, neu obaith, am gyffro a rhywbeth mwy.
Os oes rhaid i mi grynhoi beth mae hyn yn ei olygu i mi wrth ystyried diwylliant trafnidiaeth gyhoeddus, fe fyddwn i’n dweud bod y gerdd hon yn dangos y gallwn ni gyda’n gilydd, a hyd yn oed yn genedlaethol, ymdeimlo â thrafnidiaeth a’r mannau a’r profiadau sydd ynghlwm wrtho. Oherwydd y cysylltiad cyffredin hwn, mae modd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fel trosiad i gyfleu neges am fywyd ac i rannu teimlad, ennyd neu le sydd naill ai’n gyfarwydd i ni i gyd, neu sy’n rhoi mwynhad neu sy’n peri dychryn. I mi, mae hynny (a’r gerdd) yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn rhywbeth arbennig i’w werthfawrogi, er ei fod yn ddi-fflach.
Cyhoeddir y cyfieithiad, Life’s Dovey Junctions gan Geraint Løvgreen, ym mlodeugerdd Bloodaxe Books dan olygyddiaeth Menna Elfyn a John Rowlands, The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry: 20th-century Welsh-language poetry in translation. 2003. Northumberland: Bloodaxe Books t.332-333.
Ganwyd Geraint Løvgreen (g.1955) yn Yr Orsedd, mynychodd yr ysgol yn Wrecsam a’r Drenewydd a bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.
Mae gorsaf reilffordd Cyffordd Dyfi ar Reilffordd y Cambrian, yng nghanol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi. Nid oes mynediad i gerbydau, a’r unig ffordd i’w chyrraedd yw drwy ddilyn llwybr troed o’r A487. Un platfform ar ffurf ynys sydd yn yr orsaf. Dyma’r gyffordd lle mae’r rheilffordd yn hollti rhwng y llinell i Aberystwyth a Rheilffordd Arfordir y Cambrian i Bwllheli, gydag un gwasanaeth yr awr yn ystod oriau brig ac un gwasanaeth bob dwy awr yn ystod cyfnodau tawelach.
Sut i gymryd rhan yn Lanes and Lines
Os oes gennych chi ddarn o lenyddiaeth, delwedd neu gân yr hoffech ei rhannu gyda ni ynghyd â rhywfaint o sylwadau, cysylltwch â ni drwy e-bostio THINK@Aber.ac.uk gyda’r testun ‘Lanes and Lines’. Gallwn helpu gyda’r gwaith o ysgrifennu eich dehongliad o gerdd, darn o gerddoriaeth neu ddelwedd o’ch eiddo chi neu rywun arall. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â ni. Gallwch hefyd drydar gyda delwedd neu awgrym o ddarn o gerddoriaeth i @transporthealth. Rydyn ni’n bwriadu cynnal arddangosfa fel rhan o’r prosiect sy’n arddangos amrywiaeth o ddarnau ar drafnidiaeth a theithio yn 2023.