Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth Gwyliedyddion eleni ar 13 Mawrth rydym yn rhyddhau canllaw newydd “Ymyrraeth gwyliedyddion yn erbyn aflonyddu ar sail rhywedd a thrais ar sail rhywedd mewn trafnidiaeth gyhoeddus: canllaw i hyfforddwyr ac ymgyrchwyr gwyliedyddion”.
Cynhyrchwyd y canllaw gan ymchwilydd THINK Dr Lucy Baker ac mae’n ganlyniad i’r prosiect Bws Rhywedd+, sy’n mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod ac aflonyddu rhywiol a brofir wrth i deithwyr gyrchu, aros am, a defnyddio bysiau. Mae’r prosiect yn cefnogi teithiau diogel a chynhwysol. Mae’r canllaw wedi’i ddatblygu o ymchwil ar brofiadau byw menywod ac ar ymyriadau diwydiant a ddefnyddir i sicrhau diogelwch teithwyr.
Mae hyfforddiant gwyliedyddion ar gyfer ymyrryd yn gyhoeddus yn tueddu i gael ei gyffredinoli i’w ddefnyddio mewn cyd-destunau amrywiol ac ar gyfer ymyrryd mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau. Gall hyn fod oherwydd ei fod yn cael ei gyflwyno mewn cyrsiau byr gydag adnoddau cyfyngedig, ac oherwydd y gall cynnwys gormod o gynnwys atal gwybodaeth rhag cael ei hamsugno. Felly mae rheswm da pam y gallai cyrsiau fod yn defnyddio cynnwys cyffredinol.
Fodd bynnag, mae’r ymchwil a wnaed yn y prosiect Bws Rhywedd+ yn canfod bod ymddygiadau penodol sy’n gyfystyr ag aflonyddu rhywiol yn digwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus a’r mannau lle mae pobl yn aros, yn ogystal â theithiau i ac oddi ar drafnidiaeth. Dynion gan amlaf sy’n gyfrifol am yr ymddygiad, a menywod gan amlaf sy’n cael eu targedu. Gall digwyddiadau gael eu cuddio gan symudiadau trafnidiaeth gyhoeddus a thyrfaoedd. Gall gwyliedyddion ar drafnidiaeth gyhoeddus fod yn ansicr a yw’r hyn y maent yn ei weld yn gyfystyr ag aflonyddu neu drais, neu os yw’n sefyllfa sy’n gofyn am eu hymyrraeth. Mae teithwyr yn poeni os ydyn nhw’n ymyrryd efallai y bydd angen iddyn nhw aros gyda dioddefwr neu ddod oddi ar y cludiant, a fyddai’n amharu ar eu taith. Mae’r pryder hwn yn gwaethygu o ganlyniad i wasanaethau anaml, arosiadau hir a’r diffyg gwybodaeth sydd ar gael i helpu pobl i ffeindio’u ffordd mewn mannau anghyfarwydd.
Efallai eu bod yn poeni am dynnu sylw atynt eu hunain mewn gofod lle na allant ddianc yn rhwydd. Yn y cyfamser nid yw staff bob amser wedi’u hyfforddi i gefnogi dioddefwyr neu wyliedyddion mewn achosion o aflonyddu, neu drais ar sail rhywedd. Mae gan gwmnïau trafnidiaeth ddyletswydd i gadw teithwyr a staff yn ddiogel, ond nid yw’r ddau gyfrifoldeb bob amser yn alinio, ac weithiau bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud gan staff trafnidiaeth sy’n gadael dioddefwyr a gwyliedyddion yn teimlo’n anniogel ac nad ydynt yn cael eu cefnogi. Mae teithwyr yn dweud eu bod yn teimlo’n ddi-rym pan fydd rhywun yn aflonyddu neu’n ymosod arnynt oherwydd bod pobl o gwmpas, ond na wnaethant ymyrryd. Mae hyn yn golygu bod y digwyddiad yn cael mwy o effaith negyddol ar y dioddefwr, ac fel arfer yn tanseilio eu hymddiriedaeth sydd eisoes yn gyfyngedig wrth roi gwybod i’r heddlu.
Mae ein hymchwil a’n canllaw yn annog y defnydd o brofiadau byw a rennir ar ffurf astudiaethau achos dienw. Gall y rhain fod yn benodol i’r cyd-destun oherwydd bod gwahanol sefyllfaoedd weithiau’n gofyn am dechnegau ymyrraeth gwahanol. Mae’r canllaw yn ymdrin â’r gwahanol ymddygiadau y gall teithwyr edrych allan amdanynt ac mae’n annog pobl i fod yn bresennol. Un peth allweddol am ofodau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn niwylliant ar-lein heddiw, yw bod llawer o bobl eisiau cau popeth allan a defnyddio eu ffôn. Rydym yn annog asesiad risg gan wyliedyddion sy’n berthnasol i sefyllfaoedd trafnidiaeth. Rydym yn amlinellu nifer o dechnegau a hyrwyddir gan randdeiliaid trafnidiaeth gyhoeddus a Heddlu Trafnidiaeth Prydain. Rydym hefyd yn disgrifio sut mae cyfeirio ac adrodd yn wahanol gan ddibynnu ar y digwyddiad, ond hefyd gan ddibynnu ar y gwahanol fannau trafnidiaeth lle digwyddodd yr achos penodol (rheilffordd/bws). Mae’r canllaw yn ymdrin â sut i ymateb i gais ‘Gofynnwch am Annie’ hefyd oherwydd gellir defnyddio hwn hefyd mewn mannau trafnidiaeth gyhoeddus, a’i gyfeirio naill ai at deithwyr neu staff.
Mae’r canllaw wedi’i gynllunio gyda hyfforddwyr gwyliedyddion dan sylw i gefnogi eu dysgu a chynnwys y cwrs. Mae hefyd yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n paratoi ymgyrch ymyrraeth gwyliedyddion. Gallai fod yn ddefnyddiol i staff trafnidiaeth gynyddu eu hymwybyddiaeth ac ystyried eu technegau ymyrraeth a chymorth. Mae’r canllaw yn gynhwysfawr, ond gall unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy ei defnyddio.
Mae gan y canllaw fynediad agored a gellir ei lawrlwytho trwy ddefnyddio’r ddolen hon: Ymyriad gwyliedyddion ar drafnidiaeth gyhoeddus – canllaw hyfforddwr (aber.ac.uk)