MANIFFESTO Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd 2024- gweledigaeth ar gyfer dyfodol trafnidiaeth ac iechyd yn y Deyrnas Unedig
Mae dros 200 aelod y Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd – THINK o’r byd academaidd, maes polisi, maes ymarfer a’r trydydd sector yn cyflwyno eu maniffesto ar gyfer sicrhau gwell canlyniadau iechyd i bawb trwy fynd i’r afael â heriau trafnidiaeth yn y Deyrnas Unedig.
“Dylid cydnabod bod pob holl ddefnyddwyr ffordd yn grwpiau ar wahân gyda’u hanghenion penodol eu hunain. Bydd y math o gerbyd a ddefnyddir (e.e. car, cerbyd nwyddau trwm, beic, cerbydau proffesiynol fel tacsis, ac ati) yn newid profiad yr unigolyn ac, o ganlyniad, y ffordd y maent yn defnyddio’r cerbyd hwnnw. Mae sefyllfa debyg yn berthnasol i wahanol ddosbarthiadau amgylcheddol (e.e. gwledig a threfol, neu ar/oddi ar gampws). Dylai pob astudiaeth sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch y ffyrdd gynnwys arferion penodol sy’n osgoi cyffredinoli cymaint â phosib.”
Dyma’r elfennau allweddol er mwyn sicrhau newidiadau parhaol ar raddfa fawr a all arwain at welliannau i iechyd y cyhoedd sy’n ystyried pawb:
- Dylid cydnabod ymagwedd at drafnidiaeth sy’n canolbwyntio ar bobl, gan nodi bod gan unigolion anghenion penodol y dylanwadir arnynt gan eu dull o deithio a’r amgylchedd cymdeithasol, adeiledig a chyfreithiol cyfagos.
- Gall y bobl a’r sefydliadau sy’n gweithio ym maes trafnidiaeth ac iechyd ddylanwadu ar yr amgylchedd er mwyn cefnogi pobl i ddefnyddio dulliau mwy iach o deithio a lleihau’r niwed cysylltiedig â defnyddio trafnidiaeth.
- Mae gan bobl anghenion gwahanol y mae’n rhaid darparu ar eu cyfer, gan ystyried yn aml bod angen i’r rhai sydd eisoes ar y cyrion gael eu cynrychioli’n llawer gwell yn y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â thrafnidiaeth er mwyn cefnogi eu hanghenion yn llawn.
- Sicrhau bod iechyd meddwl a lles yn ogystal ag iechyd corfforol yn cael eu hystyried wrth edrych ar y berthynas rhwng trafnidiaeth ac iechyd.
- Mae angen dull cydgysylltiedig a rennir er mwyn cynllunio, cyflwyno a rheoli ein system drafnidiaeth, gan roi blaenoriaeth, mor aml â phosib, i symud trwy ddulliau trafnidiaeth gyhoeddus a llesol (cerdded, olwyno a beicio), a lleihau’r angen am y car.
- “Mae hyn yn berthnasol agwedd, megis cynllun strydoedd, gwaith cynllunio trafnidiaeth, a sut mae trafnidiaeth yn cael ei threfnu a’i rheoli (llywodraethu).” Mae angen i awdurdodau, byrddau iechyd, byrddau addysg, gweithredwyr y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, darparwyr gwasanaethau’r sector preifat, gwasanaethau brys a chymunedau gael yr amser, yr arian a’r hyfforddiant i gydweithredu’n gyfartal er mwyn galluogi cynllunio trafnidiaeth sydd wedi’i integreiddio â chanolfannau cymdeithasol, addysg, gwaith ac iechyd. Byddai hyn yn arwain at brofiadau pleserus, cyfforddus i bawb wrth deithio sy’n sicrhau’r canlyniadau iechyd, addysg ac economaidd gorau posib, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
- Rhaid ail-gynllunio trafnidiaeth gyhoeddus i fod yn ddeniadol ac yn ddymunol i ddefnyddwyr, fel bod teithwyr yn teimlo fel dinasyddion uchel eu parch ac yn gyfartal i yrwyr ceir.
- Er enghraifft, rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus fod o ansawdd dda, yn ddiogel, yn lân, yn ddibynadwy, yn fforddiadwy, gwasanaethu llwybrau priodol a bod yn hawdd i’w defnyddio i’r rhai sydd ag apiau ffôn clyfar yn ogystal â’r rhai sydd heb. Rhai ei hysbysebu’n eang i bob grŵp defnyddwyr potensial.
- Rhaid integreiddio data fel bod modd cynllunio taith gyfan – i ddiben gwaith neu hamdden – yn rhwydd ar draws gwahanol ddulliau trafnidiaeth.
- Dylai pawb ddisgwyl cael mynediad at amryfal opsiynau teithio, gyda theithiau car i un person yn ddewis olaf.
- Mae gan bawb, gan gynnwys plant, yr hawl i deimlo’n ddiogel a bod croeso iddynt mewn mannau cyhoeddus ac mae hyn yn cynnwys ar drafnidiaeth, ar strydoedd, llwybrau beicio ac mewn gorsafoedd a safleoedd bysiau.
- Dylai mannau o’r fath gael eu cynllunio, eu rheoli a, lle bo’n bosib, eu staffio i gynyddu hyder pob defnyddiwr a’u hargraff o ddiogelwch i’r eithaf.
- Creu diwylliant lle mae pob ffurf ar drafnidiaeth a’r bobl sy’n eu defnyddio yn cael eu parchu’n gyfartal,
- Rhaid cyfathrebu, ymgynghori a chael chyfleoedd addysg sylweddol i’r cyhoedd pan fo dulliau newydd o deithio neu ymyriadau Newydd yn cael eu cynllunio.
- mae angen ymdrech ac adnoddau sylweddol i hysbysebu, hyrwyddo a gwella hygyrchedd ariannol teithiau nad ydynt yn deithiau car a pherchnogaeth beiciau neu feiciau trydan (gan gynnwys fersiynau hygyrch) er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r gwariant ar hysbysebu a hyrwyddo (gan gynnwys mynediad at gredyd rhad) perchnogaeth ceir.
- Mae angen rhoi’r un sylw a phwysigrwydd o leiaf i storio beiciau gartref, i drafnidiaeth gyhoeddus, yn y gweithle neu mewn mannau hamdden ag a roddir i le parcio ceir.
- Dylai pob datblygiad newydd, boed yn ddatblygiad tai, economaidd, addysg neu iechyd ymgorffori llwybrau teithio llesol diogel a mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus yn awtomatig fel blaenoriaeth yn hytrach na blaenoriaethu mannau parcio a ffyrdd.
- Lle bo’n bosib, dylid ôl-osod adnoddau ar gyfer aneddiadau tai presennol i sicrhau llwybrau diogel, pleserus y gellir eu cerdded neu olwyno o’r drws ffrynt i ddiwallu anghenion bob dydd. Byddai hyn yn cynnwys lleoli mwy o wasanaethau ac amwynderau yn nes at gartrefi fel nad oes rhaid i bobl deithio mor bell.
- Mae hapusrwydd ac iechyd pob teulu a phob bywyd yn werthfawr, felly rydym o’r farn na ddylid derbyn un farwolaeth nac anaf difrifol oherwydd gwrthdrawiadau ar unrhyw un o’n strydoedd.
- Er mwyn sicrhau hyn, dylid ystyried pob mesur i wneud y ffyrdd mor ddiogel â phosib, er enghraifft cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd adeiledig, palmentydd a llwybrau beicio ar wahân, a rhoi blaenoriaeth i’r defnyddwyr ffyrdd sydd fwyaf agored i niwed. Dylid hefyd darparu hyfforddiant diogelwch, codi ymwybyddiaeth a gorfodi safonau diogelwch ar bob defnyddiwr ffordd yn ogystal â chyflwyno trwyddedau gyrru graddedig i gefnogi’r mesurau hyn.
- Dylai’r holl bolisïau trafnidiaeth gynaliadwy a charbon isel gael eu cyflwyno o fewn dull Iechyd Cyfunol.
- Dylai’r holl bolisïau ac ymyriadau a weithredir er mwyn sicrhau trafnidiaeth gynaliadwy a charbon isel hefyd gynnwys canlyniadau cadarnhaol i iechyd pobl ac anifeiliaid.
- Dylai pob cynllun trafnidiaeth gynaliadwy a charbon isel sy’n cael ei ddatblygu o hyn ymlaen ymgorffori’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd, parodrwydd ar gyfer digwyddiadau tywydd eithafol a chynhwysiant i’r holl ddefnyddwyr er mwyn osgoi gwaith ôl-osod costus a gwrthdaro rhwng defnyddwyr yn y blynyddoedd i ddod.
- Mae angen cyllid hirdymor, hyblyg ar gyfer trafnidiaeth ac iechyd y cyhoedd er mwyn i awdurdodau lleol allu addasu i anghenion eu cymunedau ar adeg pan fo technoleg a phatrymau gwaith yn newid yn gyflym ac, ar brydiau, yn anodd eu rhagweld.
- Dylai’r holl ddata ar ddefnyddwyr ffyrdd a diogelwch ar y ffyrdd fod ar gael i’r cyhoedd ac yn hygyrch i bawb sy’n diddori.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r uchod, anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk a gweler gwefan THINK https://think.aber.ac.uk/cy/hafan/
Crëwyd rhwydwaith THINK i ddod â phobl sy’n gweithio ym maes trafnidiaeth ac iechyd ym myd polisi, yn ymarferol ac yn y byd academaidd at ei gilydd, gan ddatblygu sgiliau, profiad a gwybodaeth, creu ymchwil newydd sy’n canolbwyntio ar ymarfer, a rhoi ymchwil ar waith.
Mae THINK yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth rhwng:
Mae THINK yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru