Prif negeseuon
- Mae ffyrdd yn rhwystr i gerddwyr.
- Mae’r rhwystrau hyn yn gysylltiedig â llai o gerdded ac yn gwaethygu cyfalaf cymdeithasol, iechyd a lles.
- Gellir amcangyfrif effeithiau ehangach y rhwystrau mewn termau ariannol.
- Mae nifer o ymyriadau posibl i leihau’r effaith ond, hyd yn hyn, ychydig o offer oedd ar gael i gynorthwyo wrth asesu’r ymyriadau hyn.
- Bydd y blog hwn yn dangos offer newydd, wedi’i ddatblygu yn UCL.
- Gall y cyhoedd ddefnyddio rhywfaint o’r offer, gan gynorthwyo’r cyhoedd i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar gerddwyr.
1. Mae ceir yn broblem i gerddwyr
Mae ffyrdd yn gallu bod yn annymunol ac yn beryglus i gerddwyr, a hynny pan fydd llawer o draffig arnynt yn ogystal â phan nad oes llawer o draffig gan fod cerbydau’n symud ar gyflymder mawr. Gall hyn orfodi cerddwyr i ddargyfeirio i groesi’r ffordd mewn man diogel sydd â chyfleuster croesi. Pan fyddant yn cyrraedd y croesfannau, mae’n bosibl iawn y bydd yn rhaid iddynt aros am y signal gwyrdd neu fynd i fyny ac i lawr grisiau i ddefnyddio pont droed neu danffordd, a gall y rheiny fod yn dywyll, dan ddŵr, neu’n llawn sbwriel. Mae pobl sy’n wynebu’r problemau hyn bob dydd yn dechrau ystyried y ffordd fel rhwystr corfforol a seicolegol.
Yn UCL (Coleg Prifysgol Llundain), rydym wedi bod yn astudio’r broblem hon ers 2014, gan gydweithio ar draws disgyblaethau a gwledydd. Rydym wedi edrych ar sawl astudiaeth achos yn y Deyrnas Unedig lle mae ffyrdd wedi bod yn rhwystr i gerddwyr ers degawdau. Un achos enwog yw Finchley Road yng Ngogledd Llundain: mae ffordd 4 lôn yn torri trwy’r stryd fawr. Yn yr unig fannau lle gall cerddwyr groesi’n ddiogel, rhaid iddynt aros am hyd at 2 funud i’r signal droi’n wyrdd iddynt gael croesi hanner y ffordd. Os nad ydynt yn cerdded yn ddigon cyflym, mae’r signal yn troi’n goch ac yna mae’n rhaid iddynt aros 2 funud arall mewn man diogel i gerddwyr cyn croesi hanner arall y ffordd.
Mae’r broblem yn un eang. Er enghraifft, mewn dinasoedd fel Bogotá, Sao Paulo, a Santiago mae’r broblem nid yn unig yn gwaethygu ond mae hefyd yn effeithio’n anghymesur ar bobl dlotach. Mewn gwledydd sy’n datblygu, wrthi’n codi y mae’r broblem oherwydd uwchraddio seilwaith ffyrdd a chynnydd yn y defnydd o geir. Er enghraifft, yn Praia, prifddinas ynysoedd Cabo Verde, mewn rhai cymdogaethau, mae ffyrdd prysur yn amharu ar fwy na 70% o deithiau cerdded posibl i siopau lleol (Anciaes a Nascimento 2022).
2. Pam fod ots?
Mae ffyrdd prysur yn broblem oherwydd eu bod yn annog pobl i beidio â cherdded. Mewn astudiaeth genedlaethol, canfuom fod pobl sy’n byw ger ffyrdd ‘llai croesadwy’ yn tueddu i gerdded llai ar gyfer teithio a hamdden. Amcangyfrifir fod hyn yn arwain at golli 1 biliwn o deithiau lleol bob blwyddyn ym Mhrydain Fawr. Mae llai o gerdded wedyn yn gysylltiedig â llai o gysylltiadau cymdeithasol, ac iechyd a lles gwaeth (Anciaes et al. 2022).
Wrth edrych yn fanwl ar rai cymdogaethau (gan gynnwys Finchley Road), rydym hefyd wedi gweld po waethaf yw’r problemau cerdded sy’n gysylltiedig â thraffig, yr uchaf yw’r tebygolrwydd o fod ag iechyd gwael (Higgsmith et al. 2022) a llesiant sy’n is (Anciaes et al. 2019).
Er nad effeithiau economaidd yw’r effeithiau hyn ar gyfalaf cymdeithasol, iechyd a lles, eto gellir eu mynegi mewn termau ariannol drwy ddefnyddio prisiad economaidd. Ond mae effeithiau sy’n llwyr economaidd i’r broblem hefyd. Mae llai o gerdded yn golygu bod llai o arian yn cael ei wario ar siopau lleol: er bod pobl sy’n gyrru i siopau yn gwario mwy fesul taith, maent hefyd yn gwneud llai o deithiau. Dros gyfnod o flwyddyn, mae pobl sy’n cerdded yn gwario mwy. Amcangyfrifwyd mai gwerth yr holl effeithiau aneconomaidd ac economaidd hyn ym Mhrydain Fawr yw £631 y person ar gyfartaledd, neu 1.6% o’r Cynnyrch Domestig Gros (Anciaes et al. 2022).
3. Beth gellir ei wneud?
Y newyddion da yw bod gan nifer o lywodraethau ddiddordeb mewn lleihau’r broblem hon, gan fod hyn yn cyd-fynd â’u hagenda cynaliadwyedd a chreu dinasoedd i fyw ynddynt. Mae rhoi mwy o flaenoriaeth i ddulliau teithio egnïol, megis cerdded a beicio, yn lleihau sŵn, llygredd aer ac allyriadau byd-eang, ar yr un pryd hefyd â chynnig mwy o gyfleoedd i bobl fwynhau’r ddinas. Mae enghreifftiau o ymyriadau a ddefnyddiwyd mewn dinasoedd ledled y byd yn cynnwys:
- Rhagor o groesfannau a rhai gwell
- Dylunio ffyrdd mewn dull llai gelyniaethus, gan gael llai o lonydd, cael lleiniau canol sy’n lletach, dodrefn stryd gwell, a mwy o wyrddni
- Amgylchedd y ffyrdd i fod yn llai gelyniaethus, gan gael llai o draffig a therfyn cyflymder is
- Codi’r ffordd i fyny (trosffordd), mynd â hi i lawr (twnnel) neu i le arall (ffordd osgoi)
4. Pa offer y gallwn eu defnyddio i leihau effaith rwystrol ffyrdd?
Yn UCL, rydym wedi datblygu sawl casgliad o offer i gefnogi penderfyniadau i geisio gweithredu’r atebion a ddisgrifir uchod.
4.1 Offer i nodi effeithiau rhwystrol
Defnyddiwch nhw os: ydych chi’n ymarferydd mewn llywodraeth neu’n gwmni/cyrff anllywodraethol a bod gennych beth adnoddau i gasglu data
Mae’r Pecyn Cymorth Symudedd Stryd (Street Mobility Toolkit), sydd ar gael o wefan UCL, yn cynnwys canllawiau i ddefnyddio’r offer canlynol i nodi effeithiau rhwystrol ffyrdd ar gerddwyr.
4.2 Offer i gynhyrchu atebion ar gyfer effeithiau rhwystrol
Defnyddiwch y rhain os: ydych chi’n ymarferydd neu’n aelod o’r cyhoedd a’ch bod am wybod am atebion posibl i wella amodau cerdded ar ffordd brysur. Rydych chi’n ymwybodol y byddai rhai atebion yn effeithio ar ddefnyddwyr eraill y ffordd (e.e., ceir, bysiau, beiciau) ac rydych wedi meddwl pwy i roi blaenoriaeth iddynt.
Mewn prosiect a ariennir gan yr UE, rydym wedi datblygu offer i gynhyrchu atebion i wella ffyrdd prysur, gan gynnwys gwella amodau i gerddwyr. Mae’r offer ar gael o wefan Ffederasiwn Rhyngwladol y Cerddwyr.
Mae un o’r offer yn cynhyrchu atebion i reoleiddio, ailbennu, neu ailgynllunio gofod ffordd. Mae’r defnyddiwr yn rhoi manylion am ei amcanion (enghraifft: gwella amodau ar gyfer cerddwyr heb wneud defnyddwyr bysiau yn waeth eu byd). Mae’r offeryn wedyn yn dychwelyd atebion sydd wedi gweithio mewn mannau eraill. Yna gall y defnyddiwr weld gwybodaeth fanwl am bob datrysiad. Gweler yr enghraifft isod.
Mae offeryn arall yn llunio dyluniadau ffyrdd, mewn trawstoriad, sy’n bodloni’r meini prawf defnyddwyr (e.e. mwy o le i gerddwyr heb gael gwared ar le ar gyfer bysiau) ac sy’n ffitio i’r lled stryd sydd ar gael. Mae enghraifft o allbwn gan yr offeryn i’w weld isod.
4.3. Offer i asesu atebion i effeithiau rhwystrol ffyrdd
Defnyddiwch nhw os: ydych chi’n ymarferydd neu’n aelod o’r cyhoedd a’ch bod eisoes wedi meddwl am gasgliad o atebion posibl i wella ffordd brysur (neu wedi cynhyrchu atebion drwy ddefnyddio’r offer uchod). Rydych chi nawr eisiau rhagweld effeithiau’r atebion hynny a’u cymharu.
Rydym wedi datblygu offeryn (ar gael ar wefan UCL) i gymharu opsiynau i wella amodau cerdded ar ffyrdd prysur, er enghraifft, trwy leihau nifer y lonydd, lleihau maint y traffig neu ei gyflymder, neu newid nifer y cyfleusterau croesi, eu lleoliad a’u math. Isod mae enghraifft o’r rhyngwyneb yr offeryn. Mae’r offeryn yn mesur y gostyngiad yn yr effaith rwystrol o 0 i 100. Yna mae’n rhagweld nifer y teithiau cerdded ychwanegol a’r manteision i gerddwyr (mewn termau ariannol).
Mae gwerth ariannol yn ddefnyddiol oherwydd bod penderfyniadau am fuddsoddiadau trafnidiaeth yn aml yn dadansoddi cost a budd, h.y. meintioli effeithiau cadarnhaol a negyddol y prosiect yn ôl arian. Mae’r hyn sydd heb ei feintioli yn cael ei atodi i’r dadansoddiad a’i ddisgrifio gyda geiriau. Yn ymarferol, mae’r effeithiau anariannol hyn yn tueddu i fod yn “guddiedig”, gan mai’r brif neges yw’r gymhareb cost a budd. Mae ein hofferyn yn lleihau’r duedd hon, trwy fesur y manteision a’r costau i gerddwyr.
Astudiaethau achos
Mae croeso i chi ddefnyddio’r offer hyn. Cysylltwch â ni os hoffech gyngor ar sut i’w defnyddio neu i adrodd ar eich canlyniadau. Isod mae rhai enghreifftiau o astudiaethau achos sydd wedi defnyddio’r offer:
Tools to identify barrier effects – Application in Finchley Road, London: Mindell, J. S., Anciaes, P. R., Dhanani, A., Stockton, J., Jones, P., Haklay, M., Groce, N., Scholes, S., Vaughan, L. (2017) Using triangulation to assess a suite of tools to measure community severance. Journal of Transport Geography, 60, 119-129
Tools to generate solutions for barrier effects – Application in five European cities (London, Lisbon, Malmö, Budapest, and Constanta): MORE Project report
Tools to assess solutions for barrier effects – Tool development case study in Hereford and Hull: Anciaes, P., Jones, P. (2020) A comprehensive approach for the appraisal of the barrier effect of roads on pedestrians. Transportation Research Part A: Policy and Practice, 134, 227-250.
Other references
Anciaes, P. R., Stockton, J., Ortegon, A., Scholes, S. (2019) Perceptions of road traffic conditions along with their reported impacts on walking are associated with wellbeing. Travel Behaviour and Society, 15, 88-101.
Anciaes, P., Jones, P., Mindell, J., Scholes, S. (2022) The cost of the wider impacts of road traffic on local communities: 1.6% of Great Britain’s GDP. Transportation Research Part A: Policy and Practice, 163, 266-287.
Anciaes, P., Nascimento, J. (2022) Road traffic reduces pedestrian accessibility – quantifying the size and distribution of barrier effects in an African city. Journal of Transport and Health 27:101522
Higgsmith, M., Stockton, J., Anciaes, P., Scholes, S., Mindell, J S. (2022) Community severance and health: measuring community severance and examining its impact on the health of adults in Great Britain. Journal of Transport and Health, 25:101368
Yn ysbryd adolygu gan gymheiriaid academaidd, mae THINK yn croesawu blogiau wedi’u cyfeirnodi mewn ymateb er mwyn annog trafodaeth agored. Os hoffech ysgrifennu blog e-bostiwch think@aber.ac.uk gyda’r llinell pwnc 'Ymateb Blog’