Blog gwadd gan Bethan Shoemark-Spear, un o enillwyr Gwobr Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned y Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)
Fel elusen, mae Age Connect Morgannwg (ACM) yn ymfalchïo mewn gwrando ar bobl hŷn a sicrhau bod y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu yn rhai maen nhw eu heisiau ac yn rhai sy’n ateb eu hanghenion. Rydyn ni’n elusen ar gyfer pobl hŷn sy’n byw yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, a Merthyr Tudful. Ers 1977, rydyn ni wedi bod yn gweithio i sicrhau bod pobl hŷn yn cael y cymorth maen nhw ei eisiau, pan maen nhw ei eisiau. Rydyn ni’n cynnig pob math o wybodaeth, cyngor a gwasanaethau i gynorthwyo pobl hŷn i gadw’n annibynnol cyn hired â phosibl.
Mae’n amlwg bod ar bobl angen gwasanaeth cludiant dibynadwy a hirdymor yn ein hardal. Fodd bynnag, mae angen i ni ddarganfod a oes angen i hyn gynnwys cysylltiadau cymdeithasol a mwy o gymorth. Rydyn ni’n amau bod hyn yn wir; fel arall, byddai pobl yn archebu tacsis. Rydyn ni’n amau bod angen gyrwyr sydd wedi’u hyfforddi i gynorthwyo’r rhai sydd â dementia; y rhai sydd ag anabledd; y rhai sy’n profi unigrwydd ac yn teimlo’n ynysig. Ond dydy hi ddim yn ddigon i amau rhywbeth. Mae angen i ni ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach, gan bobl hŷn, o’r rhesymau pam maen nhw angen cymorth ychwanegol ym maes cludiant.
Rydyn ni’n gwybod, ar sail y rhai rydyn ni’n eu cynorthwyo, bod angen cymorth arnyn nhw gyda chludiant am nifer o resymau.
- Rydyn ni wedi cludo mwy nag 800 o bobl i gael eu brechiad Covid;
- Mae 10% o’n hatgyfeiriadau cymunedol yn gofyn i ni eu cynorthwyo gyda’u siopa a
- gofynnir i ni am gymorth cludiant munud olaf lle mae ambiwlans wedi methu â chyrraedd i fynd â rhywun i’w apwyntiad yn yr ysbyty.
Rydyn ni wedi gallu darparu’r cymorth o fewn yr amlenni cyllid presennol, ond mae’r arian hwn yn gyfyngedig o ran amser, ac mae ar bobl angen gwasanaeth hirdymor y gallant ddibynnu arno.
Yn y 5 mlynedd diwethaf, mae Age Connects Morgannwg wedi nodi ei fod wedi cynorthwyo 1,609 o bobl gyda chludiant. Mewn gwirionedd, rydyn ni’n amau bod y nifer yn llawer uwch ond, yn anffodus, dydyn ni ddim wedi cofnodi’r wybodaeth yn gywir ar ein systemau. Mae ein timau gweinyddu wedi dweud wrthym eu bod wedi derbyn o leiaf un cais y dydd am gymorth gyda chludiant nad oes gennym y cyllid na’r adnoddau i’w gefnogi.
I’r bobl hynny y gallwn eu cynorthwyo, rydyn ni’n gwybod ar gyfer beth y maen nhw angen ein cymorth; cludiant i apwyntiad meddygol, neu er mwyn mynd â nhw i siopa. Fodd bynnag, rydyn ni eisiau gwybod mwy am y ‘pam’. Ydy pobl yn gofyn i ni am gymorth oherwydd rhwystrau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus; ydy pobl yn unig; ydyn nhw’n ymddiried yn ACM yn fwy na darparwyr cludiant eraill?
Yn rhan allweddol o’n prosiect, a gyllidir gan THINK, aethom ati i gynnal arolwg y gallai pobl ei gwblhau ar-lein neu ar bapur i geisio ateb y cwestiynau a oedd gennym. Cwblhaodd 75 o bobl yr arolwg. O’r rheini,
- roedd gan 47% eu dull cludiant eu hunain;
- roedd 79% yn byw ar lwybr bws; ac
- roedd 48% yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rheolaidd.
O’r rhai nad oedden nhw’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, y rheswm mwyaf cyffredin oedd bod angen cymorth arnyn nhw i deithio. Dywedodd pobl wrthym fod tacsis wedi gwrthod eu cludo am fod ganddyn nhw gi tywys neu am nad oedd ganddyn nhw le ar gyfer eu cadair olwyn. Roedd 57% o’r ymatebwyr rhwng 60 a 79 oed, gyda 72% yn uniaethu fel menywod a 28% yn uniaethu fel dynion.
Wnaethom ni ddim cyfyngu ar ddosbarthiad yr arolwg i’n hardal ni – Rhanbarth Cwm Taf Morgannwg (RhCT, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful) – er mai dyma’r ardal y mae gennym ddiddordeb i ddysgu mwy amdani yn bennaf, fe benderfynom y gallem ddefnyddio canfyddiadau ehangach i dynnu sylw at unrhyw wahaniaethau rhanbarthol penodol. Fodd bynnag, roedd 97% o’r ymatebwyr yn byw yn ein hardal ni.
Roedd themâu allweddol o’r ymatebion i’r arolwg yn canolbwyntio ar y canlynol:
Mae pobl yn cael trafferth mynd yma ac acw neu fynd i apwyntiadau meddygol oherwydd hygyrchedd, amseroedd a chost cludiant.
I’r rheini a ddywedodd wrthym nad ydyn nhw’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rheolaidd, fe ddywedon nhw mai’r rheswm am hyn oedd:
- bod angen cymorth arnyn nhw i deithio;
- bod safleoedd bws/gorsafoedd trên yn rhy bell o’u cartref;
- nad oedd yr amseroedd yn gyfleus, a
- bod y gwasanaeth yn rhy annibynadwy.
Yn yr achosion hyn, dywedodd pobl wrthym eu bod yn dibynnu ar lifft gan ffrindiau neu aelodau’r teulu, ond roedden nhw’n aml yn teimlo’n euog am ofyn neu’n teimlo eu bod yn faich, ac nad oedden nhw’n hoffi teimlo fel hyn.
Mae pobl eisiau mynd allan, ac weithiau eisiau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn amlach nag y maen nhw, ond maen nhw’n profi rhwystrau i allu gwneud hyn.
Dywedodd yr ymatebwyr wrthym yn glir fod mynd allan yn bwysig iddyn nhw – nid yn unig i gyrraedd apwyntiad meddygol, ond hefyd i fynd allan o’r tŷ a chysylltu â’u cymunedau. Fe wnaethom ni ofyn iddyn nhw, “Pa fudd ydych chi’n ei gael o ddefnyddio cludiant fel hyn [gwasanaeth cludiant a ddarperir gan Age Connects Morgannwg yn defnyddio staff sydd wedi’u hyfforddi i gynorthwyo pobl hŷn]?”.
Mewn opsiwn amlddewis:
- atebodd 55% ‘I ’nghael i allan o’r tŷ’;
- atebodd 47% ‘I godi fy ysbryd’;
- atebodd 47% ‘I gymdeithasu’ ac
- atebodd 43% ‘I deimlo’n rhan o gymuned’.
Mae’r rhwystrau i drafnidiaeth gyhoeddus yn cynnwys amseroedd (naill ai ddim yn diwallu’r angen neu’n newid oherwydd oedi) a diffyg darpariaeth hygyrch i’r rhai sydd â phroblemau symudedd neu anabledd.
Dywedodd pobl wrthym nad yw trafnidiaeth gyhoeddus yn diwallu eu hanghenion yn aml am lu o resymau ond, yn aml, roedd y rhain yn canolbwyntio ar drafnidiaeth gyhoeddus a chludiant preifat megis tacsis yn methu â diwallu anghenion pobl â phroblemau symudedd neu anabledd.
- I rai pobl, maen nhw’n ei chael hi’n anodd sefyll y tu allan yn yr oerfel yn aros am fws;
- all rhai ddim cerdded i fyny allt gyda siopa o’r safle bws/orsaf drên;
- clywsom straeon am dacsis yn gwrthod cludo cŵn cymorth;
- dywedodd pobl wrthym eu bod yn aml yn cael trafferth am eu bod yn defnyddio cadair olwyn;
- dywedwyd wrthym na all pobl ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn aml i gyrraedd apwyntiadau oherwydd oedi neu’r ffaith nad oes bysiau a threnau’n troi i fyny o gwbl – yn anffodus, gall hyn fod yn wir gyda chludiant a ddarperir gan yr ysbyty hefyd.
Weithiau, mae ar bobl angen, neu byddent yn hoffi, cael gwirfoddolwr neu weithiwr cymorth hyfforddedig i ymuno â nhw ar eu taith, sy’n dangos nad cludiant yw’r unig beth y mae person angen cymorth gydag ef.
Dywedodd 45 o bobl wrthym y byddent yn hapus i dalu am wasanaeth cludiant, ond bod rhaid iddo fod yn wasanaeth sydd â staff neu wirfoddolwyr a oedd wedi’u hyfforddi gan ACM ac, ar gyfartaledd, fe ddywedon nhw y bydden nhw’n hapus i wario £9 yr awr am y gwasanaeth hwn.
Fe wnaethom ni hefyd gyfarfod â Rail Future Wales a dynnodd sylw at y ffaith, gan fod Metro De Cymru ar ddod, y bydd rhai o’r trenau ar linellau’r cymoedd yn newid i fod yn dramiau yn y dyfodol. Credwn y bydd hyn yn achosi rhwystrau i lawer o bobl, gan gynnwys pobl hŷn, gan nad oes gan dramiau doiledau.
Y camau nesaf
Rydyn ni’n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn gam pwysig tuag at sefydlu gwasanaeth cludiant yn seiliedig ar angen gwirioneddol, ac yn un sy’n diwallu anghenion pobl hŷn hefyd. Mae’r ymatebion wedi dangos i ni nad yw’r hyn y gall pobl fforddio ei dalu yn ddigon i ariannu ein costau fel elusen. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio pontio’r bwlch hwnnw drwy chwilio am gyllid perthnasol, gan gynnwys cyllid sbarduno, i weld a allwn lansio gwasanaeth sy’n ateb yr angen. Byddwn hefyd yn rhannu’r canfyddiadau â swyddogion etholedig a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, yn ogystal â darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn ein hardal.
Lawrlwythwch yr adroddiad llawn
I ddarganfod pryd y bydd y cylch nesaf o wobrau ymchwil cymunedol gwerth £2000 yn cael eu lansio, gofynnwch am gael eich cadw ar y rhestr rybuddio drwy e-bostio think@aber.ac.uk