Blog gwadd gan un o aelodau THINK, Andy Hyde, sy’n myfyrio ar ei weithdy ar gyfer aelodau THINK o’r enw ‘A Just Transition or Just a Transition?’
Dydych chi ddim yn debygol o weld sôn am ddŵr llonydd mewn strategaethau hygyrchedd trafnidiaeth neu gynlluniau datgarboneiddio. Ond os ydych chi’n defnyddio baglau neu gadair olwynion, neu os oes gennych chi nam ar eich golwg, neu os yw dementia wedi effeithio ar eich amgyffrediad, mae wynebau gwlyb a mannau dan ddŵr yn gallu bod yn her wirioneddol.
Ond nid gweithdy arall ar adnabod y rhwystrau mo hwn. Roeddwn i’n gwahodd yr aelodau i ystyried heriau mae pobl yn dod ar eu traws drwy gydol eu siwrnai a dychmygu sut gallen ni gysylltu’r heriau hyn â chynlluniau ar gyfer lleihau allyriadau. Fel arall, yn y rhuthr i ddatgarboneiddio, fe allen ni fethu ystyried cynhwysiant a mynediad yn ystod y gwaith dylunio. Eto.
Dyw ein hymdrechion i wneud teithio’n deg ddim yn gweithio. Mae strategaethau blaenllaw wedi “methu â chael effaith ar hygyrchedd trafnidiaeth” ac mae unrhyw gynnydd wedi bod yn ‘araf a thameidiog‘.
Dyw hyn ddim yn argoeli’n dda ar gyfer cyflawni Trosiant Teg i deithio carbon isel. Mae ymrwymo i symudedd sy’n deg ac yn garbon isel yn golygu cynllunio ffyrdd o leihau ataliadau mewn cynlluniau lleihau allyriadau yn fwriadol, gan leihau ein heffaith ar bobl wrth inni leihau effaith ein symudiadau ar y blaned.
Felly, roedd y gweithdy’n ymgais i ddychmygu sut beth fyddai creu’r cysylltiad bwriadol hwnnw.
Yn ddiddorol ddigon, dim ond un grŵp ddewisodd rwystr sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth i’w ystyried – codi i’r tram. Dewisodd y lleill ddiffyg cyfleusterau toiled, peryglon baglu ar y palmant, diogelwch croesfannau i gerddwyr a gwyriadau dros dro.
Dewisodd ein grŵp ni dywydd gwael a meddwl am effaith dŵr sy’n draenio’n araf, o gofio ein bod ni’n disgwyl gweld mwy o law yn y dyfodol. Roedden ni’n dychmygu llwybr ar gyfer cerdded a defnyddio olwynion i gyrraedd yr orsaf fysiau a hwnnw’n rhedeg trwy ganolfan siopa. Pwy sy’n gyfrifol am ailgynllunio neu uwchraddio’r draeniau? A sut gallen ni sicrhau dealltwriaeth o sut mae pobl yn defnyddio’r lle a beth fydd yn gwneud y lle’n fwy cynhwysol?
Gyda phwy rydyn ni’n siarad? Nid i gwyno ond i holi, i gynnig ein profiad? Efallai mai’r ganolfan siopa biau’r tir. Neu’r Cyngor? A beth sydd a wnelo hynny â thrafnidiaeth? Gall cyfrifoldeb fod yn beth anodd i’w sefydlu, ond trwy ofyn y cwestiynau hyn efallai y gallwn ni ddechrau creu darlun o’n siwrnai fel system a phwy sy’n chwarae pa rôl a ble.
Roeddwn i wedi ceisio egluro fy syniadau yn gynharach. Yn fy marn i, un o’r rhesymau mae’n hymdrechion presennol ni mewn hygyrchedd a chynhwysiant trafnidiaeth fel petaen nhw’n sownd yw diffyg dull systemig. Nid ‘meddwl cydgysylltiedig’ sydd gen i yma, ond camu’n ôl ac ystyried ein profiad o ddydd i ddydd.
Hyd yn oed os byddwn ni’n llwyddo i ystyried pethau’n wahanol, rydyn ni’n plygio’n canlyniadau yn ôl i mewn system sy’n gweithio mewn seilos, sy’n canolbwyntio ar drafnidiaeth ac sydd heb y gallu i weithio’n wahanol.
Beth petaen ni’n ystyried siwrneiau fel y system a thrafnidiaeth fel elfen? Elfen bwysig, ond dim ond rhan o’r siwrnai.
Ac er mwyn osgoi gweld diffyg cynhwysiant yn cael ei fwrw i’r cysgod yn fwyfwy gan ddatgarboneiddio, beth pe na baen ni’n troi unrhyw un o’r gwersi rydyn ni’n eu dysgu yn fwy o fusnes fel arfer?
Trwy ddefnyddio iaith wahanol, ailddiffinio’n hymagwedd at frys a defnyddio’n dychymyg, awgrymes i y gallen ni adeiladu model gwahanol i’r status quo a phrofi’r model hwnnw.
Ond rhywbeth ar gyfer cyfarfod arall fyddai hynny: roedden ni’n rhedeg yn hwyr yn barod.
Ac felly dyma ofyn un cwestiwn ‘Beth petai?’ arall. Gan wybod ein bod ni mewn perygl o ailgynllunio ar gyfer datgarboneiddio heb gymryd y cyfle i ailgynllunio ar gyfer cynhwysiant, beth am gysylltu’r ddau mewn rhyw ffordd? Beth petaen ni’n benthyca’r dull lleihau allyriadau a’i gymhwyso at wella cynhwysiant? A beth petaen ni’n troi ‘cynhwysiant’ ar ei ben a siarad am leihau ataliadau?
Mae’r amser yn brin, gadewch inni ddysgu oddi wrth eraill.
Os yw sefydliadau eisoes yn defnyddio Protocolau Nwyon Tŷ Gwydr i’w helpu i nodi’r allyriadau maen nhw’n gyfrifol amdanyn nhw a chreu cynllun i’w lleihau, beth petaen ni’n creu rhywbeth tebyg ar gyfer ataliadau? Beth am Brotocolau Siwrneiau Cynhwysol i helpu sefydliadau i nodi’r ataliadau maen nhw’n gyfrifol amdanyn nhw, a chynllun i’w lleihau.
Rhywbeth fel hyn:
Disgrifiad | Enghraifft | Cam posibl | |
Allyriadau cwmpas 1 | Allyriadau o ffynonellau sy’n perthyn i’r sefydliad | Allyriadau o gerbydau’r sefydliad | Newid i gerbydau trydan |
Allyriadau cwmpas 2 | Allyriadau o wasanaethau a ddefnyddir yn uniongyrchol gan y sefydliad | Allyriadau o bŵer a ddefnyddir i redeg cerbydau trydan y sefydliad | Newid cyflenwyr er mwyn defnyddio pŵer sy’n cael ei gynhyrchu â llai o allyriadau |
Allyriadau cwmpas 3 | Allyriadau nad ydyn nhw’n cael eu cynhyrchu yn uniongyrchol gan y sefydliad ond a achosir gan weithgareddau sy’n rhan o’i ‘gadwyn werth’ | Allyriadau o gerbydau cyflenwyr yn dod â nwyddau i’r sefydliad | 1. Newid i gyflenwr sy’n defnyddio cerbydau sy’n achosi llai o allyriadau 2. Gweithio gyda’r cyflenwr i ddylanwadu ar eu gwaith i leihau allyriadau |
Disgrifiad | Enghraifft o ataliad | Enghraifft o leihau’r ataliad | |
Ataliadau cwmpas 1 | Ataliadau a achosir gan gynhyrchion, gwasanaethau ac amgylcheddau sy’n perthyn i’r sefydliad | Mae gan gerbyd risiau sy’n golygu na all pobl sy’n dewis neu’n gorfod defnyddio mynedfa wastad fynd iddo. | Defnyddio cerbyd mwy hwylus, e.e. un â mynedfa isel, lifft neu ramp. |
Ataliadau cwmpas 2 | Mae ataliadau’n cael eu hachosi gan gynhyrchion, gwasanaethau ac amgylcheddau a ddefnyddir yn uniongyrchol gan y sefydliad | Mae systemau clyweledol wedi’u gosod mewn cerbyd ond dyw’r cyhoeddiadau ddim yn rhoi’r wybodaeth sy’n angenrheidiol neu sydd yn y fformat angenrheidiol | Cydweithio â’r teithwyr a’r darparwyr data i wella ansawdd a pherthnasedd yr wybodaeth sy’n cael ei darparu ar y cerbyd |
Ataliadau cwmpas 3 | Ataliadau sy’n digwydd yn ystod cyfnodau eraill yn siwrnai’r person – gallai rhwystrau olygu yn y pen draw nad yw pobl yn gallu cyrchu gwasanaeth y sefydliad | Mae pobl yn teimlo nad ydyn nhw’n ddiogel wrth aros wrth safle bysiau. Rhaid talu i ddefnyddio’r toiledau yn yr orsaf. Does dim staff yn y swyddfa docynnau erbyn hyn | Cydweithio â’r teithwyr a’r awdurdodau lleol i amlygu pryderon ynglŷn â diogelwch a dylanwadu ar ddyluniad amgylcheddau mwy diogel. |
Dyma fy nehongliadau i o allyriadau Cwmpas 1, 2 a 3 a syniadau am ataliadau cyfatebol. Dydyn nhw ddim yn berffaith, ond mae’n fan cychwyn.
Rhoddwyd persona sefydliadol i bob grŵp – canolfan siopa, perchennog yr orsaf fysiau, gweithredwr tramiau etc – a gofynnwyd iddyn nhw ddewis rhwystr oedd yn atal siwrnai ar draws y dref. Ai nhw yn unig oedd yn gyfrifol am leihau’r ataliad? Oedd yna Ataliad Cwmpas 1 ar eu cyfer?
Os nad oedd ganddyn nhw gyfrifoldeb unigol, a allen nhw ddylanwadu ar leihau’r ataliad trwy newid eu proses gaffael? Neu a allen nhw fynnu gwell gan eu cyflenwyr? Os felly, maen nhw’n ataliad Cwmpas 2.
Os oedd rhywbeth yn teimlo’n bell i ffwrdd o’u cyfrifoldeb – wyneb palmant gwael ar draws y dref – oedden nhw serch hynny yn dibynnu y byddai pobl yn dod dros y rhwystr? Os felly, dyna Gwmpas 3. Beth allen nhw ei wneud i helpu i sicrhau bod newid yn digwydd? Mae hyn yn gofyn llawer o ymchwil ond gallai cydweithio er mwyn lleihau ataliad yn y system fod yn werthfawr – byddai pawb ar eu hennill. A phwy biau’r Cwmpas 1 yma? Beth yw ein perthynas ni â nhw?
Ac felly fe gyrhaeddon ni ran allweddol y broses. Ar ôl:
- nodi pwynt atal posibl rywle yn y system (rhywle ar hyd y daith)
- enwi’r maes cyfrifoldeb (pwy biau’r cwmpas 1, 2 a 3)
- rhestru camau posibl i leihau’r ataliad a phwy allai wneud iddyn nhw ddigwydd
… roedden ni ar dir i gysylltu’r rhain â chynlluniau lleihau allyriadau.
Prynu fflyd o fysiau trydan newydd? Dyma restr o bethau sydd angen eu hystyried i sicrhau bod y gwasanaeth yn ogystal â’r cerbyd yn gweithio dros bobl. Ym mha drefn y mae angen inni wneud y rhain er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth sy’n deillio o hyn yn garbon isel ac yn gynhwysol?
Cynllunio ar gyfer mwy o law? Dechreuwch drwy ddeall sut bydd y wynebau wedi’u hadfer yn cael eu defnyddio gan bobl ar olwynion a phobl yn cerdded. Gofynnwch i bobl sy’n teimlo’n anniogel beth fyddai’n eu helpu i ddefnyddio’r lle. Yna ystyriwch sut byddwch chi’n adfer yr amgylchedd hwnnw ar ôl ichi uwchraddio’r draeniau. Yn bwysig ddigon, sut byddwch chi’n helpu pobl i barhau i gerdded a defnyddio olwynion tra bo’r gwaith yn cael ei wneud? Gwaith ffordd yw un o’r rhwystrau mwyaf sy’n atal pobl rhag symud o gwmpas.
Nid creu rhestr arall o rwystrau oedd y diben. Rydyn ni’n gwybod llawer o’r rhain yn barod, er ei bod hi’n ymddangos ein bod ni’n creu rhai newydd drwy’r amser. Hoffwn osgoi gweld fflydoedd newydd o fysiau trydan yn cael eu disgrifio fel ‘cyfres o gyfleoedd wedi’u colli i wella hygyrchedd”. Dwy ddim am weld ceblau gwefru cerbydau trydan, sydd wedi’u cynllunio i leihau ein heffaith ar y blaned, yn codi her newydd o ran hygyrchedd, gan gynyddu ein heffaith ar bobl.
Ar hyn o bryd mae gennyn ni ddwy ymdrech ar wahân yn digwydd: lleihau allyriadau a gwella hygyrchedd. Mae’n rhaid inni gysylltu’r ddau rywsut. Mae angen inni gydnabod hefyd nad yw’n hymagwedd bresennol ni at gynhwysiant yn gweithio a chymryd cyfeiriad newydd.
Mae gennyn ni gyfle aruthrol i wneud hyn ar hyn o bryd wrth ailgynllunio ar gyfer byd carbon is, ond mae’n rhaid inni wneud hyn gydag arddeliad. Mae Trosiant Teg yn nod gwych ond, heb system i’n helpu i gyrraedd, mae’n anodd gwybod beth ddylai’r cam nesaf fod. Yn y cyfamser, mae’r newid eisoes yn digwydd.
Bu’r gweithdy’n ymgais i godi syniad – rhywbeth (unrhyw beth!) i weithio arno, anghytuno ag e, ei ddatod a’i ailadeiladu – er mwyn dechrau trafodaethau am adeiladu cynhwysiant i mewn i ddatgarboneiddio.
Os oeddech chi yno, diolch yn fawr iawn am aros gyda mi tan y diwedd. Os nad oeddech chi, fe fydda i’n rhedeg fersiwn diwygiedig yn fuan iawn. Cofrestrwch yma i gael y manylion.
Diolch i rwydwaith THINK am gynnal y gweithdy a rhoi amser a lle ar gyfer trafodaethau fel hyn.