Cynhaliodd THINK gyfres o weithdai yn y gwanwyn a ddaeth â rhanddeiliaid oedd yn gweithio ym meysydd trafnidiaeth ac iechyd ynghyd. Diben y gweithdai oedd helpu i lywio penderfyniadau strategol am ble i fuddsoddi amser ac adnoddau yn THINK gan ddibynnu ar anghenion a diddordebau rhanddeiliaid, blaenoriaethau a rhwystrau a nodwyd, a’r mathau o newidiadau yr ystyriwyd bod eu hangen i gael effaith gadarnhaol ar iechyd y cyhoedd. Drwy wneud hyn, aeth y gweithdai ati i nodi meysydd, pynciau, polisïau neu ymyriadau y bydd y rhwydwaith yn eu datblygu. Cynlluniwyd y gweithdai i ystyried sut i fynd ati gyda gweithgareddau yn y dyfodol a gweld a allem gynhyrchu allbynnau mewn ffrydiau gwaith thematig lle caiff prosiectau eu cynnal mewn is-grwpiau, gyda chefnogaeth THINK.
Ystyried blaenoriaethau a heriau mewn trafnidiaeth ac iechyd
Yn yr ymarfer cyntaf gofynnwyd i gyfranogwyr drafod blaenoriaethau a heriau mewn trafnidiaeth ac iechyd. Nodwyd y themâu canlynol:
Blaenoriaethau
- Gwneud trafnidiaeth a lleoedd yn fwy teg a chynhwysol, sy’n cyd-fynd â’r angen i leihau anghydraddoldebau iechyd
- Cynyddu cyfleoedd i gydweithio a gwella cydweithio fel ymarfer
- Codi ymwybyddiaeth o effaith trafnidiaeth ar iechyd a datrysiadau effeithiol yn seiliedig ar dystiolaeth drwy gyfleu’r rhain i gynulleidfaoedd amrywiol er mwyn dylanwadu ar newid
- Nodi cyfleoedd ymchwil, cynyddu a safoni casglu data, a gwella offer ar gyfer gwneud penderfyniadau
Heriau
- Anhawster cydweithio
- Mae normau mewn ymchwilio ymddygiad teithio ac arfarnu ymyriadau trafnidiaeth yn atgynhyrchu anghydraddoldebau
- Yn aml ceir data annigonol neu anghyson
- Cyfathrebu gyda’r cyhoedd a gwireddu newid ymddygiad
- Cyfyngiadau amser ac adnoddau
- Bylchau gweithredu polisi a gweithredu tystiolaeth
Y sefyllfa bresennol
Cynlluniwyd yr ail weithgaredd gweithdy i ehangu ein dealltwriaeth o’r hyn mae pobl yn ei wneud nawr i fynd i’r afael â’r heriau o ran trafnidiaeth ac iechyd a godwyd yn y gweithgaredd cyntaf. Mae llawer o bolisïau perthnasol bellach yn cydnabod yr angen i addasu trafnidiaeth, ymddygiad teithio, hygyrchedd gwasanaethau, cymunedau a lleoedd i wella iechyd y cyhoedd a hefyd ymdrin ag effaith amgylcheddol symud pobl a nwyddau. Roedd myfyrdodau eraill yn cynnwys:
- Llwyddiannau sefydliadau trydydd sector
- Sefydliadau rhyngwladol yn cydnabod a chodi ymwybyddiaeth o effaith trafnidiaeth ar iechyd y cyhoedd yn fyd-eang
- Yn y DU, mae byrddau iechyd lleol yn mynd ati i gyfathrebu gyda’r cyhoedd i wella ansawdd aer a symudedd iachach
- Mae Llywodraeth Cymru’n lleihau terfyn cyflymder cenedlaethol Cymru mewn ardaloedd adeiledig
- Mae sefydliadau iechyd cyhoeddus yn gynyddol ragweithiol wrth ddylanwadu ar gynllunio trafnidiaeth
Symud ymlaen
Roedd y trydydd gweithgaredd yn ceisio nodi meysydd y gallai THINK (fel cydweithredfa) weithio arnynt yn ymwneud â’r blaenoriaethau a’r heriau a godwyd yn y gweithdai. Cafodd rhai awgrymiadau eu hailadrodd mewn mwy nag un gweithdy, ac roedd yn amlwg bod meysydd y dylid eu hymgorffori mewn cynllun strategol ar gyfer THINK dros y ddwy flynedd nesaf. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Galluogi ymagwedd fwy cydgysylltiedig
- Cipio buddion cymdeithasol buddsoddi mewn trafnidiaeth
- Cynnwys grwpiau o bobl sydd ar hyn o bryd wedi’u hymyleiddio mewn cymdeithas drwy ddiffyg darpariaeth gwasanaethau trafnidiaeth priodol a seilwaith addas
- Cynyddu mynediad at dystiolaeth
- Gwella sgiliau cyfathrebu â’r cyhoedd
- Datblygu a gwella safonau cenedlaethol ar drafnidiaeth, yr amgylchedd adeiledig a chynllunio hygyrchedd a chasglu data
Codwyd syniadau unigol hefyd, a gallai llawer o’r rhain gyfrannu at weithgareddau mewn is-grwpiau thematig neu gael eu datblygu o fewn THINK, fel sefydlu a threialu Cynulliadau Dinasyddion, presgripsiynu cymdeithasol teithio gweithredol, neu archwilio rôl byrddau iechyd a lles lleol.
Some of the feedback we received following the workshops included:
“An excellent opportunity to engage and create something truly interdisciplinary“.
Gweithgareddau THINK yn y dyfodol
Rydym ni wedi datblygu set o gamau gweithredu y gall tîm craidd THINK eu cefnogi a amlinellir ar ddiwedd yr adroddiad hwn. Mae’r gweithdai wedi amlygu’r angen i THINK gefnogi ymarfer cydweithredol, helpu i feithrin amodau i alluogi is-grwpiau i ddechrau eu hymarfer eu hunain, sicrhau bod trafnidiaeth, iechyd a lleoedd yn dod yn fwy teg, cefnogi mynediad rhwydd at adnoddau a chodi ymwybyddiaeth o faterion ac ymyriadau trafnidiaeth ac iechyd i hwyluso newid.
Ynghyd â gweithgareddau sydd wedi’u paratoi ymlaen llaw, fel ymgysylltu â’r cyhoedd, rhyddhau grantiau bach i gefnogi gweithgareddau ymchwil a chyfnewid gwybodaeth, bydd tîm THINK yn dechrau datblygu cymuned ymarfer. Byddwn yn gwahodd y rheini sy’n cydweithio â THINK i gymryd rhan mewn grwpiau ymchwil ar is-themâu a byddwn yn cynnull gweithgorau i gynyddu cyfleoedd i rannu gwybodaeth, adnoddau, ehangu rhwydweithiau, trafod syniadau, problemau ac astudiaethau achos, cydweithio a chynhyrchu prosiectau newydd, er enghraifft.
The full report can be read separately here.