Skip to content

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

Menu
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Tîm
  • Blog Archwilio Trafnidiaeth ac Iechyd
  • Podlediad y THINK
  • Adnoddau Academi THINK
    • 20mya ac iechyd
    • Adnoddau Teithio Llesol
    • Adnoddau Gwahanu Cymunedau o boptu Ffyrdd
    • Adnoddau Diogelwch Defnyddwyr Ffyrdd
    • Adnoddau Llygredd Aer a Sŵn
    • Cyhoeddiadau THINK
    • Trafnidiaeth a dull gweithredu Iechyd Cyfunol
  • Prosiectau rhwydwaith THINK
    • Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd
      • Derbynwyr y Gwobrau 2023
    • Bws Rhywedd+Cymru: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad treisgar yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru
  • Newyddion
  • Cysylltu â ni
  • Cymryd rhan
  • CymraegCymraeg
    • EnglishEnglish
    • CymraegCymraeg
Menu

Adroddiad Gweithdai Gosod Agenda THINK

Posted on 5 Hydref 20225 Hydref 2022 by amynicholass

Cynhaliodd THINK gyfres o weithdai yn y gwanwyn a ddaeth â rhanddeiliaid oedd yn gweithio ym meysydd trafnidiaeth ac iechyd ynghyd. Diben y gweithdai oedd helpu i lywio penderfyniadau strategol am ble i fuddsoddi amser ac adnoddau yn THINK gan ddibynnu ar anghenion a diddordebau rhanddeiliaid, blaenoriaethau a rhwystrau a nodwyd, a’r mathau o newidiadau yr ystyriwyd bod eu hangen i gael effaith gadarnhaol ar iechyd y cyhoedd. Drwy wneud hyn, aeth y gweithdai ati i nodi meysydd, pynciau, polisïau neu ymyriadau y bydd y rhwydwaith yn eu datblygu. Cynlluniwyd y gweithdai i ystyried sut i fynd ati gyda gweithgareddau yn y dyfodol a gweld a allem gynhyrchu allbynnau mewn ffrydiau gwaith thematig lle caiff prosiectau eu cynnal mewn is-grwpiau, gyda chefnogaeth THINK.

Ystyried blaenoriaethau a heriau mewn trafnidiaeth ac iechyd

Yn yr ymarfer cyntaf gofynnwyd i gyfranogwyr drafod blaenoriaethau a heriau mewn trafnidiaeth ac iechyd. Nodwyd y themâu canlynol:

Blaenoriaethau

  • Gwneud trafnidiaeth a lleoedd yn fwy teg a chynhwysol, sy’n cyd-fynd â’r angen i leihau anghydraddoldebau iechyd
  • Cynyddu cyfleoedd i gydweithio a gwella cydweithio fel ymarfer
  • Codi ymwybyddiaeth o effaith trafnidiaeth ar iechyd a datrysiadau effeithiol yn seiliedig ar dystiolaeth drwy gyfleu’r rhain i gynulleidfaoedd amrywiol er mwyn dylanwadu ar newid
  • Nodi cyfleoedd ymchwil, cynyddu a safoni casglu data, a gwella offer ar gyfer gwneud penderfyniadau

Heriau

  • Anhawster cydweithio
  • Mae normau mewn ymchwilio ymddygiad teithio ac arfarnu ymyriadau trafnidiaeth yn atgynhyrchu anghydraddoldebau
  • Yn aml ceir data annigonol neu anghyson
  • Cyfathrebu gyda’r cyhoedd a gwireddu newid ymddygiad
  • Cyfyngiadau amser ac adnoddau
  • Bylchau gweithredu polisi a gweithredu tystiolaeth

Y sefyllfa bresennol

Cynlluniwyd yr ail weithgaredd gweithdy i ehangu ein dealltwriaeth o’r hyn mae pobl yn ei wneud nawr i fynd i’r afael â’r heriau o ran trafnidiaeth ac iechyd a godwyd yn y gweithgaredd cyntaf. Mae llawer o bolisïau perthnasol bellach yn cydnabod yr angen i addasu trafnidiaeth, ymddygiad teithio, hygyrchedd gwasanaethau, cymunedau a lleoedd i wella iechyd y cyhoedd a hefyd ymdrin ag effaith amgylcheddol symud pobl a nwyddau. Roedd myfyrdodau eraill yn cynnwys:

  • Llwyddiannau sefydliadau trydydd sector
  • Sefydliadau rhyngwladol yn cydnabod a chodi ymwybyddiaeth o effaith trafnidiaeth ar iechyd y cyhoedd yn fyd-eang
  • Yn y DU, mae byrddau iechyd lleol yn mynd ati i gyfathrebu gyda’r cyhoedd i wella ansawdd aer a symudedd iachach
  • Mae Llywodraeth Cymru’n lleihau terfyn cyflymder cenedlaethol Cymru mewn ardaloedd adeiledig
  • Mae sefydliadau iechyd cyhoeddus yn gynyddol ragweithiol wrth ddylanwadu ar gynllunio trafnidiaeth

Symud ymlaen

Roedd y trydydd gweithgaredd yn ceisio nodi meysydd y gallai THINK (fel cydweithredfa) weithio arnynt yn ymwneud â’r blaenoriaethau a’r heriau a godwyd yn y gweithdai. Cafodd rhai awgrymiadau eu hailadrodd mewn mwy nag un gweithdy, ac roedd yn amlwg bod meysydd y dylid eu hymgorffori mewn cynllun strategol ar gyfer THINK dros y ddwy flynedd nesaf. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Galluogi ymagwedd fwy cydgysylltiedig
  • Cipio buddion cymdeithasol buddsoddi mewn trafnidiaeth
  • Cynnwys grwpiau o bobl sydd ar hyn o bryd wedi’u hymyleiddio mewn cymdeithas drwy ddiffyg darpariaeth gwasanaethau trafnidiaeth priodol a seilwaith addas
  • Cynyddu mynediad at dystiolaeth
  • Gwella sgiliau cyfathrebu â’r cyhoedd
  • Datblygu a gwella safonau cenedlaethol ar drafnidiaeth, yr amgylchedd adeiledig a chynllunio hygyrchedd a chasglu data

Codwyd syniadau unigol hefyd, a gallai llawer o’r rhain gyfrannu at weithgareddau mewn is-grwpiau thematig neu gael eu datblygu o fewn THINK, fel sefydlu a threialu Cynulliadau Dinasyddion, presgripsiynu cymdeithasol teithio gweithredol, neu archwilio rôl byrddau iechyd a lles lleol.

Some of the feedback we received following the workshops included:

“An excellent opportunity to engage and create something truly interdisciplinary“.

Gweithgareddau THINK yn y dyfodol

Rydym ni wedi datblygu set o gamau gweithredu y gall tîm craidd THINK eu cefnogi a amlinellir ar ddiwedd yr adroddiad hwn. Mae’r gweithdai wedi amlygu’r angen i THINK gefnogi ymarfer cydweithredol, helpu i feithrin amodau i alluogi is-grwpiau i ddechrau eu hymarfer eu hunain, sicrhau bod trafnidiaeth, iechyd a lleoedd yn dod yn fwy teg, cefnogi mynediad rhwydd at adnoddau a chodi ymwybyddiaeth o faterion ac ymyriadau trafnidiaeth ac iechyd i hwyluso newid.

Ynghyd â gweithgareddau sydd wedi’u paratoi ymlaen llaw, fel ymgysylltu â’r cyhoedd, rhyddhau grantiau bach i gefnogi gweithgareddau ymchwil a chyfnewid gwybodaeth, bydd tîm THINK yn dechrau datblygu cymuned ymarfer. Byddwn yn gwahodd y rheini sy’n cydweithio â THINK i gymryd rhan mewn grwpiau ymchwil ar is-themâu a byddwn yn cynnull gweithgorau i gynyddu cyfleoedd i rannu gwybodaeth, adnoddau, ehangu rhwydweithiau, trafod syniadau, problemau ac astudiaethau achos, cydweithio a chynhyrchu prosiectau newydd, er enghraifft.

The full report can be read separately here.

  • THINK – mae’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn chwilio am uwch reolwyr cwmnïau bysiau i gymryd rhan yn ein hymchwil. 
  • Offer i’w defnyddio i leihau effaith rwystrol ffyrdd prysur ar gerddwyr  
  • Agor y Strydoedd i Chwarae
  • E-seiclo: cyfleoedd i alluogi cynhwysiant mewn teithio gweithredol
  • Adroddiad Gweithdai Gosod Agenda THINK
THINK - the Transport and Health Integrated research NetworK
Prifysgol Aberystwyth University
Health and Care Research Wales
NHS Wales - Public Health Wales
Tweets by TransportHealth
©2023 Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) | Built using WordPress and Responsive Blogily theme by Superb