Medi 2023
THINK yn cyhoeddi enillwyr y Grant Materion Trafnidiaeth mewn Cymunedau Gwledig 2023
Cawsom naw cais am ein grant o hyd at £2000 ar gyfer Materion Trafnidiaeth mewn Cymunedau Gwledig.
Roeddent yn syniadau ar gyfer prosiectau diddorol o ansawdd uchel. Dewiswyd y rhai oedd yn dangos cymuned wledig ddiffiniedig mewn angen, ac oedd yn edrych ar ffordd ymarferol o helpu’r gymuned honno i ddatrys ei heriau trafnidiaeth ac iechyd, a phrosiectau y gellid eu cyflawni cyn Gorffennaf 2024.
Y tri phrosiect y mae’r wobr yn eu cefnogi yw:
Archwilio Gwasanaeth Bws a Beiciau Trydan i’r Chwe Chyngor yn y dyfodol
Dan arweiniad Kate Inglis, Cynghorydd Cymuned ar Gyngor Cymuned Llangatwg
Mae Llangatwg yn bentref gwledig gyda thua 1000 o drigolion yn Nyffryn Wysg ym Mhowys. Ceir problemau cynyddol yno gyda nifer y ceir a dim digon o le parcio. Mae’r drafnidiaeth gyhoeddus bresennol yn yr ardal yn gyfyngedig iawn a does dim digon o wasanaethau’n rhedeg i’r pentrefi llai. Nid oes digon o ddefnydd yn cael ei wneud o’r gwasanaeth presennol a hoffem ddeall pam fod hyn yn digwydd.
Y dull allweddol yw cynnal arolwg/holiadur lleol, wedi’i gynllunio a’i ddadansoddi gan arbenigwr ymgynghorol proffesiynol mewn trafnidiaeth gymunedol. Byd hyn yn helpu Cyngor Cymuned Llangatwg i ddeall y galw, cyrhaeddiad a llwybrau corfforol, dulliau gweithredu ac yn helpu gydag achos busnes i gefnogi cais i ariannu prosiect mwy er mwyn sefydlu gwasanaeth E-fws ac E-feiciau Cymunedol lleol.
Edrych ar y gobaith o symudedd e-ficro a rennir yn India Wledig
Dan arweiniad Dr. Anshuman Sharma, Athro Cynorthwyol yn Sefydliad Technoleg India (BHU) a Dr Yasir Ali, Darlithydd, Grŵp Trafnidiaeth a Chynllunio Trefol, Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a Pheirianneg Sifil, Prifysgol Loughborough
Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i’r cymhellion a’r rhwystrau i fabwysiadu dulliau micro-symudedd trydan a rennir (megis rickshaws trydan) yng nghefn gwlad India trwy gynnal arolwg, gan ystyried nodweddion demograffig-gymdeithasol, fel grŵp oedran, rhyw, statws economaidd, statws priodasol, ac addysg. Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i’r ffactorau sy’n annog trigolion gwledig i ddefnyddio dulliau micro-symudedd trydan a rennir, a’r ffactorau sy’n eu hatal. Bydd y prosiect hefyd yn dyfeisio ymyriadau er mwyn lliniaru’r rhwystrau ac annog defnyddio dulliau micro-symudedd trydan a rennir.
Mentrau Cludiant Cymunedol – Gyrwyr Gwirfoddol (rhwystrau i wirfoddoli)
Dan arweiniad Rhian Hathaway, Swyddog Grantiau, Canolfan Pontydd ac Andrea Charles, Rheolwr Prosiect Lles Cymunedol
Mae’r diffyg opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad Sir Fynwy yn creu her sylweddol i drigolion sy’n ceisio defnyddio gwasanaethau hanfodol a chynnal cysylltiadau cymdeithasol. Mae’r cynllun ceir cymunedol, er ei fod yn ateb addawol, yn cael anhawster yn recriwtio gyrwyr gwirfoddol, sy’n golygu bod ei allu i ateb y galw’n cael ei rwystro. Nod y prosiect ymchwil hwn, sy’n cynnwys arolygon a chyfweliadau manwl, yw canfod a mynd i’r afael â’r rhwystrau i recriwtio gwirfoddolwyr, gan wella effeithiolrwydd a chyrhaeddiad y cynllun ceir cymunedol yn y pen draw. Drwy fynd i’r afael â’r materion yma, bydd y prosiect yn cyfrannu at wella symudedd, meithrin ymgysylltiad cymunedol, a gwella lles cyffredinol trigolion Sir Fynwy.
Ionawr 2023
Prosiectau Trafnidiaeth ac Iechyd yn y Gymuned
Mae’n bleser gan Rwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd gyhoeddi ei fod yn cefnogi pedwar prosiect sy’n mynd i’r afael â rôl trafnidiaeth yn y dasg o greu cymuned iach. Y prosiectau a ddewiswyd oedd:
Age Connects Morgannwg: Ymchwil Trafnidiaeth
dan arweiniad Bethan Shoemark-Spear, Rheolwr Partneriaeth, Polisi a Datblygiad Strategol Age Connects Morgannwg.
Mae Age Connects Morgannwg yn sylwi ar gynnydd yn y galw am gymorth gyda materion trafnidiaeth gan y bobl hŷn yn eu hardal ac eisiau deall mwy am y rheswm, er enghraifft, ai prinder trafnidiaeth gyhoeddus sy’n gyfrifol? Ai’r ffaith nad oes modd iddynt gyrraedd eu gorsaf fysiau neu drên agosaf yn ddiogel sy’n gyfrifol? Ai diffyg hyder i deithio ar eu pen eu hunain? Bydd y prosiect yn trefnu a chynnal trafodaethau gyda phobl hŷn a staff cymorth ac yn rhoi amser i ddadansoddi’r ymatebion er mwyn darparu gwasanaeth sydd wedi’i deilwra’n well i anghenion pobl hŷn. Dylai eu helpu i ddod yn annibynnol ac i fynd allan i’r awyr agored.
Cynyddu Symudedd Merched Ifanc trwy Roi ‘Sgwtis’
Darlithydd Astudiaethau Rhyw ym Mhrifysgol Menywod Fatima Jinnah, Pacistan.
Sgwtis yw’r enw ar feiciau moped ym Mhacistan. Nod y prosiect hwn yw helpu myfyrwyr benywaidd 18-25 oed, y cyfyngir ar eu symudedd oherwydd normau diwylliannol a chrefyddol Pacistan. Mae llawer o fyfyrwyr benywaidd yn rhoi’r gorau i’w haddysg am eu bod yn wynebu aflonyddu a cham-drin rhywiol wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sydd wedi ei gynllunio yn bennaf ar gyfer dynion ym Mhacistan a dynion sy’n ei ddefnyddio fwyaf. Bydd y prosiect yn cynnig prynu sgwtis yn ogystal â rhoi hyfforddiant a chefnogaeth i fyfyrwyr benywaidd. Nod y prosiect yw rhoi’r hawl i symudedd, ac annibyniaeth i fenywod ifanc, a’u helpu i fagu hyder. Bydd y prosiect yn cysylltu â menter debyg yng Nghymru.
Cynhwysiant cymdeithasol trwy gludiant cymunedol
Arweinir gan Gemma Lelliott, Cyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA).
Nod y prosiect yw gweithio gyda chymuned benodol sy’n wynebu rhwystrau cymdeithasol sylweddol i gynhwysiant – pobl ag anableddau dysgu – a dod o hyd i opsiynau trafnidiaeth a chymorth a fydd yn helpu i feithrin cysylltiad cymdeithasol. Drwy sicrhau gwasanaethau trafnidiaeth da, daw gwasanaethau a gweithgareddau yn y gymuned leol yn fwy hygyrch a chaiff pobl ag anableddau fwy o ddewis a rheolaeth dros eu bywydau. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos y rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig lle mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r prosiect hwn yn gatalydd i annog trafod a gweithredu ar newid arferion gwaith, a dod o hyd i ffyrdd i’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol allu cefnogi gweithredwyr i ymestyn eu gwasanaethau er mwyn cefnogi lles pobl yn well.
Nod cyffredinol y prosiect yw ei ddefnyddio fel cam ymlaen tuag at waith y dyfodol – bydd yn rhoi ciplun o rwystrau allweddol ac yn ein helpu i adnabod y camau nesaf. Y prosiect hwn yw’r man cychwyn er mwyn i ni ddechrau, gyda’n gilydd, mynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau sefydliadol ac agweddol i deithio. Y gobaith yw gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy gefnogi pobl ag anableddau dysgu i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys mewn rhwydwaith trafnidiaeth sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Mae’r prosiect eisiau helpu i wneud newidiadau gwirioneddol ac effeithiol i’r ffordd y caiff gwasanaethau bysiau, rheilffyrdd a thrafnidiaeth gymunedol eu darparu os nad ydynt yn diwallu anghenion pobl ag anableddau dysgu. Rydym yn cydnabod y bydd y gwaith hwn yn cymryd llawer mwy o amser na’r prosiect cychwynnol.
Annog Teithio Llesol Yn Y Drenewydd
dan arweiniad Ruth Stafford, Swyddog Prosiect, Canolbarth Cymru. Sustrans
Bwriad y prosiect hwn yw helpu pobl sy’n byw yn y Drenewydd, yn enwedig yn ardal ystâd Treowen, i gerdded, beicio a rowlio mwy. Bydd y prosiect yn rhoi gwybodaeth am opsiynau trafnidiaeth, yn enwedig teithio llesol, ac yn gweithio tuag at sefydlu cynllun cydymaith teithio perthnasol i gefnogi’r trigolion (os yw’n briodol).