Mae Trafnidiaeth Cymru a THINK – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd, ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn eich gwahodd i gymryd rhan yn ein hymchwil.
Enw’r prosiect yw ‘Bws Rhywedd+: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol a thrais yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru a’r DU’.
Rydym yn cynnal ymchwil sy’n edrych ar brofiad menywod o ddefnyddio a chael mynediad at fysiau yn benodol o ran eu diogelwch gyda’r nod o wneud gwasanaethau bysiau yn fwy cynhwysol i fenywod a merched.
Rydym yn chwilio am fenywod (ac yn cynnwys unrhyw un sy’n uniaethu fel menyw, neu’r rhai a bennwyd yn fenywaidd adeg eu geni ac sy’n uniaethu yn anneuaidd o ran rhywedd) sydd dros 18 oed i gymryd rhan mewn:
- Cyfweliad ymchwil gydag ymchwilydd benywaidd
Yn ystod y cyfweliad byddwch yn trafod:
- eich profiadau o ddefnyddio bysiau/trafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys cynllunio eich taith, aros am fws, chyrraedd a gadael bysiau
- yr hyn sy’n gwneud i chi deimlo’n agored i niwed ac yn ofnus neu wedi ymlacio ac yn ddiogel.
- y math o achosion o aflonyddu, neu drais rydych chi a/neu fenywod eraill yn eu profi mewn mannau cyhoeddus
- sefyllfaoedd rydych chi a/neu fenywod eraill yn dod ar eu traws wrth ymwneud â phobl eraill, yn enwedig wrth ddefnyddio bysiau
- y newidiadau, ymyriadau, polisïau neu syniadau y credwch y gellid eu defnyddio i wella profiad menywod o ddefnyddio bysiau
Bydd y dealltwriaeth a ddaw o’r astudiaeth yn cyfrannu at gynllunio camau y gall rhanddeiliaid eu cymryd i sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at drafnidiaeth gyhoeddus ac y gall pawb fod yn hyderus y bydd pob rhan o’u taith yn ddiogel ac yn rhydd rhag unrhyw fath o drais, gan gynnwys aflonyddu (rhywiol neu fel arall).
Bydd gweithdai a’r cyfweliadau yn para oddeutu 1 awr a byddwch yn cael eich ad-dalu â thaleb gwerth £20. Gall cyfweliad fod yn bersonol mewn lleoliad addas, neu ar-lein.
Cewch fwy o wybodaeth wedi i chi ddangos diddordeb i gymryd rhan.
Gallwch ddysgu mwy am y prosiect yma: Bws Rhywedd+
Os ydych yn barod i gymryd rhan mewn cyfweliad gydag ymchwilydd, neu weithdy, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r astudiaeth, cysylltwch â’r ymchwilydd Kate Woodley neu arweinydd y prosiect (Kaw106@aber.ac.uk), Dr Lucy Baker (lub59@aber.ac.uk).