Awdur: Dr Lucy Baker
I weld yr erthygl â’r drafodaeth lawn ‘Can 20 mph speed limits reduce community severance?’ dilynwch y ddolen hon: https://think.aber.ac.uk/cy/20mya-ac-iechyd/
Crynodeb
Mae’n glir bod angen lleihau cyfartaledd cyflymder a goryrru gormodol er mwyn atal anafiadau a marwolaethau. Un ffordd o gyflawni hyn yw defnyddio seilwaith sydd wedi’i osod yn strategol i arafu traffig. Yn y DU mae’r dull hwn wedi arwain at barthau cyflymder 20mya i ‘ostegu traffig’. Dull arall yw gorfodi cyfraith sy’n cyfyngu traffig i gyflymder is penodol, gyda Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylai hyn fod yn 20mya mewn ardaloedd lle mae defnyddwyr ffordd agored i niwed a cherbydau’n defnyddio’r un llefydd. Mae wedi’i brofi fod y ddau ymyriad yn gwella diogelwch ar y ffordd.
Wrth i derfynau cyflymder 20mya ddod yn fwy cyffredin, ceir trafodaeth ar effaith bosibl y mesur ar hollti cymunedol.
Gan ddod ag ymchwil ar hollti cymunedol, diogelwch ffordd a therfynau cyflymder 20mya at ei gilydd, mae’r erthygl yn ystyried y ffactorau sy’n cyfrannu at hollti cymunedol a sut a pham y gallai lleihau terfynau cyflymder helpu i’w drin. Mae’r erthygl yn pwysleisio pwysigrwydd defnyddio ymyriadau ychwanegol ynghyd â therfynau cyflymder 20mya i fynd i’r afael â’r ffactorau lluosog sy’n cyfrannu at hollti cymunedol, fel faint o draffig sydd ar y ffordd, cynllun yr amgylchedd adeiledig a chyflymder y traffig. Mae hefyd yn edrych ar sut mae hollti cymunedol yn effeithio ar wahanol bobl i raddau mwy a llai, a beth mae hyn yn ei olygu o ran lleihau hollti cymunedol drwy gyfuniad o leihau cyflymder a dwyster y traffig, lled ffyrdd a seilwaith cynhwysol addas i’r diben.
Mae’r erthygl yn awgrymu’r canlynol:
- gallai terfynau cyflymder 20mya fod yn fuddiol fel rhan o strategaeth yn erbyn hollti cymunedol. Mae’r rhain yn fwyaf effeithiol pan gânt eu defnyddio ar y cyd â mesurau eraill sy’n lleihau traffig ac yn gwella’r amgylchedd adeiledig i gerddwyr a seiclwyr, gan gynnwys defnyddwyr ffordd agored i niwed a’r rhai y mae traffig yn effeithio fwyaf arnynt.
- gallai terfynau cyflymder 20mya wella ansawdd a diogelwch mannau gan annog a hwyluso cerdded a seiclo.
- gallai terfynau cyflymder 20mya helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Gallent effeithio’n gadarnhaol ar symudedd pobl â symudedd cyfyngedig, pobl ag anableddau, pobl hŷn a phlant. Mae hyn oherwydd bod cyflymder arafach yn rhoi mwy o amser i yrwyr ymateb, ac yn rhoi mwy o amser i oedolion agored i niwed a phlant groesi ffyrdd ac asesu risg wrth groesi, a allai wella eu siawns o groesi’n ddiogel.
- Yn ogystal, gallai terfynau cyflymder 20mya leihau difrifoldeb anafiadau yn sgil gwrthdaro ar y ffordd. Bydd hyn o fudd i bawb, ond yn arbennig y rheini sy’n fwy tebygol o farw mewn gwrthdrawiadau oherwydd eu natur fregus yn gysylltiedig ag oed, cyflyrau iechyd neu anabledd.
- Fodd bynnag, mewn mannau gyda thraffig cymharol isel a heb seilwaith croesi digonol, gallai terfyn cyflymder o 20mya fod yn fwy buddiol i rai pobl na’i gilydd. Er enghraifft, gallai’r mwyaf abl ddod o hyd i fwy o gyfleoedd i groesi ffordd mewn traffig sy’n symud yn arafach tra bo pobl agored i niwed yn parhau i brofi anawsterau wrth defnyddio mannau lle ceir ffyrdd a cherbydau hyd yn oed pan fydd cyflymder traffig wedi’i arafu i 20mya. Po fwyaf y caiff y terfyn cyflymder ei orfodi, yr agosaf y bydd y cyfartaledd cyflymder i 20mya, y lleiaf fydd y bwlch hwnnw o ran anghydraddoldeb. Bydd angen seilwaith effeithiol sy’n cefnogi cerddwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn a seiclwyr yn ddigonol i symud o gwmpas, hyd yn oed lle mae’r traffig yn isel ac yn symud yn arafach.
- Mewn mannau sydd â dwyster traffig uchel, mae angen mesurau eraill yn ogystal â therfyn cyflymder 20mya i fynd i’r afael â hollti cymunedol fydd yn lleihau traffig i sicrhau nad yw cerbydau’n dominyddu’r ardal. Bydd hyn yn sicrhau bod pobl sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig yn cael llawn cymaint o fudd o’r terfynau cyflymder is â’r rheini sy’n byw mewn maestrefi tawelach a mwy llewyrchus.
Yn ysbryd adolygu gan gymheiriaid academaidd, mae THINK yn croesawu blogiau wedi’u cyfeirnodi mewn ymateb er mwyn annog trafodaeth agored. Os hoffech ysgrifennu blog e-bostiwch think@aber.ac.uk gyda’r llinell pwnc 'Ymateb Blog’