Skip to content

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

Menu
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Tîm
  • Blog Archwilio Trafnidiaeth ac Iechyd
  • Podlediad y THINK
  • Ffowndri THINK
  • Adnoddau Academi THINK
    • 20mya ac iechyd
    • Adnoddau Teithio Llesol
    • Adnoddau Gwahanu Cymunedau o boptu Ffyrdd
    • Adnoddau Diogelwch Defnyddwyr Ffyrdd
    • Adnoddau Llygredd Aer a Sŵn
    • Cyhoeddiadau THINK
    • Trafnidiaeth a dull gweithredu Iechyd Cyfunol
  • Prosiectau rhwydwaith THINK
    • Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd
      • Derbynwyr y Gwobrau 2023
    • Bws Rhywedd+Cymru: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad treisgar yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru
  • Newyddion
  • Cyfleoedd i Gymryd Rhan
    • Dod yn aelod o THINK
    • Sefydlu Cymunedau Ymarfer
    • Cynllun Mentora THINK
  • Cysylltu â ni
  • CymraegCymraeg
    • EnglishEnglish
    • CymraegCymraeg
Menu

A all terfyn cyflymder o 20mya leihau hollti cymunedol?

Posted on 13 Gorffennaf 20221 Awst 2022 by lucybaker

Awdur: Dr Lucy Baker

I weld yr erthygl â’r drafodaeth lawn ‘Can 20 mph speed limits reduce community severance?’ dilynwch y ddolen hon: https://think.aber.ac.uk/cy/20mya-ac-iechyd/

Ffoto: Dr Lucy Baker

Crynodeb

Mae’n glir bod angen lleihau cyfartaledd cyflymder a goryrru gormodol er mwyn atal anafiadau a marwolaethau. Un ffordd o gyflawni hyn yw defnyddio seilwaith sydd wedi’i osod yn strategol i arafu traffig. Yn y DU mae’r dull hwn wedi arwain at barthau cyflymder 20mya i ‘ostegu traffig’. Dull arall yw gorfodi cyfraith sy’n cyfyngu traffig i gyflymder is penodol, gyda Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylai hyn fod yn 20mya mewn ardaloedd lle mae defnyddwyr ffordd agored i niwed a cherbydau’n defnyddio’r un llefydd. Mae wedi’i brofi fod y ddau ymyriad yn gwella diogelwch ar y ffordd.

Wrth i derfynau cyflymder 20mya ddod yn fwy cyffredin, ceir trafodaeth ar effaith bosibl y mesur ar hollti cymunedol.

Gan ddod ag ymchwil ar hollti cymunedol, diogelwch ffordd a therfynau cyflymder 20mya at ei gilydd, mae’r erthygl yn ystyried y ffactorau sy’n cyfrannu at hollti cymunedol a sut a pham y gallai lleihau terfynau cyflymder helpu i’w drin. Mae’r erthygl yn pwysleisio pwysigrwydd defnyddio ymyriadau ychwanegol ynghyd â therfynau cyflymder 20mya i fynd i’r afael â’r ffactorau lluosog sy’n cyfrannu at hollti cymunedol, fel faint o draffig sydd ar y ffordd, cynllun yr amgylchedd adeiledig a chyflymder y traffig. Mae hefyd yn edrych ar sut mae hollti cymunedol yn effeithio ar wahanol bobl i raddau mwy a llai, a beth mae hyn yn ei olygu o ran lleihau hollti cymunedol drwy gyfuniad o leihau cyflymder a dwyster y traffig, lled ffyrdd a seilwaith cynhwysol addas i’r diben.

Lluniau: Dr Lucy Baker

Mae’r erthygl yn awgrymu’r canlynol:

  • gallai terfynau cyflymder 20mya fod yn fuddiol fel rhan o strategaeth yn erbyn hollti cymunedol. Mae’r rhain yn fwyaf effeithiol pan gânt eu defnyddio ar y cyd â mesurau eraill sy’n lleihau traffig ac yn gwella’r amgylchedd adeiledig i gerddwyr a seiclwyr, gan gynnwys defnyddwyr ffordd agored i niwed a’r rhai y mae traffig yn effeithio fwyaf arnynt.
  • gallai terfynau cyflymder 20mya wella ansawdd a diogelwch mannau gan annog a hwyluso cerdded a seiclo.
  • gallai terfynau cyflymder 20mya helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Gallent effeithio’n gadarnhaol ar symudedd pobl â symudedd cyfyngedig, pobl ag anableddau, pobl hŷn a phlant. Mae hyn oherwydd bod cyflymder arafach yn rhoi mwy o amser i yrwyr ymateb, ac yn rhoi mwy o amser i oedolion agored i niwed a phlant groesi ffyrdd ac asesu risg wrth groesi, a allai wella eu siawns o groesi’n ddiogel.
  • Yn ogystal, gallai terfynau cyflymder 20mya leihau difrifoldeb anafiadau yn sgil gwrthdaro ar y ffordd. Bydd hyn o fudd i bawb, ond yn arbennig y rheini sy’n fwy tebygol o farw mewn gwrthdrawiadau oherwydd eu natur fregus yn gysylltiedig ag oed, cyflyrau iechyd neu anabledd.
  • Fodd bynnag, mewn mannau gyda thraffig cymharol isel a heb seilwaith croesi digonol, gallai terfyn cyflymder o 20mya fod yn fwy buddiol i rai pobl na’i gilydd. Er enghraifft, gallai’r mwyaf abl ddod o hyd i fwy o gyfleoedd i groesi ffordd mewn traffig sy’n symud yn arafach tra bo pobl agored i niwed yn parhau i brofi anawsterau wrth defnyddio mannau lle ceir ffyrdd a cherbydau hyd yn oed pan fydd cyflymder traffig wedi’i arafu i 20mya. Po fwyaf y caiff y terfyn cyflymder ei orfodi, yr agosaf y bydd y cyfartaledd cyflymder i 20mya, y lleiaf fydd y bwlch hwnnw o ran anghydraddoldeb. Bydd angen seilwaith effeithiol sy’n cefnogi cerddwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn a seiclwyr yn ddigonol i symud o gwmpas, hyd yn oed lle mae’r traffig yn isel ac yn symud yn arafach.
  • Mewn mannau sydd â dwyster traffig uchel, mae angen mesurau eraill yn ogystal â therfyn cyflymder 20mya i fynd i’r afael â hollti cymunedol fydd yn lleihau traffig i sicrhau nad yw cerbydau’n dominyddu’r ardal. Bydd hyn yn sicrhau bod pobl sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig yn cael llawn cymaint o fudd o’r terfynau cyflymder is â’r rheini sy’n byw mewn maestrefi tawelach a mwy llewyrchus.
Yn ysbryd adolygu gan gymheiriaid academaidd, mae THINK yn croesawu blogiau wedi’u cyfeirnodi mewn ymateb er mwyn annog trafodaeth agored. Os hoffech ysgrifennu blog e-bostiwch think@aber.ac.uk gyda’r llinell pwnc 'Ymateb Blog’
THINK - the Transport and Health Integrated research NetworK
  • Mae’r ffactor dynol
  • Crynodeb o Weithdai Gosod Agenda Cyhoeddus THINK 2023
  • CYNLLUN PEILOT E-MOVE: ARFERION E-FEICIO YNG NGHYMUNEDAU GWLEDIG CYMRU A’R POTENSIAL AR GYFER NEWID I DRAFNIDIAETH CARBON ISEL
  • O Systemau Trafnidiaeth Ddeallus i Systemau Trafnidiaeth Integredig
  • Pam mae pobl yn defnyddio Age Connects Morgannwg ar gyfer cludiant?

THINK Podcast

Transport and Health Integrated research NetworK – THINK Podcast
Transport and Health Integrated research NetworK – THINK Podcast

THINK is a collaboration between the psychology department of Aberystwyth University and Public Health Wales, and is funded by Health and Care Research Wales to improve health outcomes for all, in relation to transport. The network is made up of individuals working in academic, practitioner, policy or charity roles across different areas of transport and health. THINK facilitates research, training and seminars to develop knowledge and provide opportunities to work collaboratively across four different themes – air and noise pollution; injuries and deaths stemming from vehicle crashes; the impact of active travel (walking and cycling) on health; and the impact of vehicles dividing communities. You can sign up as a member of THINK for free on the website https://think.aber.ac.uk/sign-up/ or follow us @TransportHealth

Access to Healthcare with Community Transport
byThe Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK

Hear how community transport & health care providers in Pembrokeshire are leading the way on life giving collaborative projects. Featuring Emma Bingham (CTA), Debbie Johnson (PACTO), Gemma Lelliott (CTA), Kellie Lowther (PIVOT & Country Cars driver), Rod Bowen (Dolen Teifi Community Transport), Tina Norman (wheelchair accessible vehicle user and Chair of PVT) and community transport users of the Fflesci bus service trial in St Davids and Dolen Teifi Community Transport.

Access to Healthcare with Community Transport
Access to Healthcare with Community Transport
13 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
Wales and Community Transport with Gemma Lelliott, Director for Wales, Community Transport Association
9 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
Digital Futures in Community Transport
9 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
Co-production in Community Transport
9 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
More Than Just a Journey – Community Transport
8 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
Search Results placeholder

Drop down menu in the centre from the podcast player will play the other podcast episodes

Latest recordings of THINK event if you missed it!
Prifysgol Aberystwyth University
Health and Care Research Wales
NHS Wales - Public Health Wales
©2023 Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) | Built using WordPress and Responsive Blogily theme by Superb