Mae Bws Rhywedd+ yn brosiect cydweithredol a fydd yn mynd i’r afael ag aflonyddu ac ymddygiad treisgar yn erbyn menywod a merched mewn cludiant cyhoeddus.
Y Cefndir
Mae cymaint ag 84 y cant o fenywod ym Mhrydain wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol yn ystod eu hoes[i]. Ni hysbysir yr heddlu am y rhan fwyaf o achosion (95% i 98%)[ii], [iii], ond drwy ddefnyddio data arolygon ychwanegol, mae ymchwil wedi dangos bod 13% o boblogaeth Prydain wedi profi aflonyddu rhywiol ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn dim ond un flwyddyn.[iv]. Ar ôl y gweithle, y stryd, a bariau a chlybiau, cludiant cyhoeddus yw’r sefyllfa gyhoeddus fwyaf cyffredin am ddigwyddiadau o aflonyddu rhywiol[v]. Mae amgylchiadau cludiant cyhoeddus, a all fod yn ansefydlog, yn orlawn o bobl, neu bron yn wag, yn golygu y gallai hi fod yn anodd adnabod y troseddwyr, ac yn aml nid yw pobl eraill yn sylwi beth sy’n digwydd[vi],[vii].
Yng Nghymru, mae 12% o fenywod yn dweud eu bod yn teimlo’n ‘anniogel iawn’ yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus – ac nid yw hynny’n wir ymhlith dynion – ac mae dwywaith gymaint o ferched â dynion yn dweud nad ydyn nhw’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd bod ganddynt ofn am eu diogelwch[viii]. Gofynnodd Transport Focus, sydd yn gorff gwarchod y diwydiant, i dros 1200 o fenywod a oeddynt yn osgoi rhai ffyrdd o deithio oherwydd bod arnynt ofn am eu diogelwch a dywedodd 36% eu bod yn osgoi defnyddio’r bws[ix].
Mae menywod yn addasu eu hymddygiad teithio oherwydd eu bod yn ofni aflonyddu, ac mae hynny’n cyfyngu ar eu rhyddid i symud ac yn arwain at fenywod yn cael eu hynysu[x],[xi]. O ganlyniad, mae hyn yn cyfyngu ar hawliau menywod i gael addysg, cyflogaeth, a gwasanaethau, yn ogystal ag amharu ar eu hiechyd a’u lles[xii],[xiii],[xiv].
Lansiodd Transport for London (TfL) a National Rail ymgyrch yn 2021 sy’n cynnwys hyfforddiant i’w gweithwyr a gwasanaeth ymateb i adroddiadau drwy negeseuon testun mewn partneriaeth â Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP) a Heddlu Llundain. Mae’r BTP wedi estyn y gwasanaeth hwn ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd, gan gynnwys Cymru.
Gyda rhai eithriadau (Nottingham City Transport a Transport for West Midlands) ar hyn o bryd prin iawn yw’r dystiolaeth o unrhyw bolisïau ac arferion sydd ar waith ar draws y diwydiant bysiau yng Nghymru a gweddill Prydain er mwyn diogelu menywod yn benodol neu i alluogi gwasanaethau bysiau i fod yn fwy cynhwysol o ran rhywedd. A hynny, er gwaetha’r ffaith – y tu allan i Lundain – mai bysiau yw’r dull trafnidiaeth lle mae aflonyddu rhywiol yn fwyaf cyffredin (62%)[xv].
Y prosiect
Mae Bws Rhywedd+ yn edrych ar beth mae’r diwydiant bysiau yn ei wneud i fynd i’r afael ag aflonyddu ar fenywod a merched yng Nghymru. Mewn partneriaeth â’r cyhoedd, awdurdodau lleol, heddluoedd a darparwyr trafnidiaeth, bydd y prosiect yn datblygu canllawiau safonol ar arferion a pholisïau’r diwydiant a fydd yn addas i wella diogelwch menywod mewn bysiau, ac wrth iddyn nhw aros amdanynt.
Bydd hyfforddiant i staff yn cael ei gyd-gynllunio a’i dreialu at ddefnydd y diwydiant bysiau mewn partneriaeth â’r darparwyr a’r cyhoedd er mwyn sicrhau bod staff sy’n gweithio ym maes trafnidiaeth yn gallu darparu mannau sydd yr un mor ddiogel a chyfforddus i’r teithwyr a’r gweithwyr.
Mae’r prosiect yn cefnogi’r weledigaeth am sicrhau gwell profiad i bawb sy’n defnyddio cludiant cyhoeddus, ac i’w gwneud yn haws i bawb ei ddefnyddio, ni waeth beth fo rhyw, rhywedd, hil, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, crefydd, cred, anabledd, neu gyflwr iechyd y teithiwr.
Mae trafnidiaeth ddiogel yn hanfodol ar gyfer iechyd, lles, ymreolaeth a galluedd menywod a merched. Drwy fynd i’r afael ag ymddygiad rhywiol amhriodol a threisgar, nod y prosiect yw lleihau’r ynysu y mae menywod yn eu profi yn eu cymunedau oherwydd eu bod yn ofni aflonyddu ac ymddygiad treisgar, sy’n amharu ar eu lles.
Mae Bws Rhywedd+ Cymru yn cael ei gefnogi gan grant gan Sefydliad Waterloo gydag adnoddau ymchwil ychwanegol gan THINK (y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd), sef prosiect ymchwil ar y cyd a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
[i] Adams, L et al. 2020. 2020 Sexual Harassment Survey. Government Equalities Office, IFF Research.
[ii] APPG for UN Women, 2021. Prevalence and reporting of sexual harassment in UK public spaces. APPG for UN Women
[iii] You Gov survey Most women have been sexually harassed on London PT | YouGov
[iv] Adams, L et al. 2020. 2020 Sexual Harassment Survey. Government Equalities Office, IFF Research.
[v] Ibid.
[vi]Neupane, G. and Chesney-Lind, M., 2014. Violence against women on PT in Nepal: Sexual harassment and the spatial expression of male privilege. International Journal of Comparative and Applied Criminal Justice, 38(1), pp.23-38.
[vii] Lewis, S., Saukko, P. and Lumsden, K., 2021. Rhythms, sociabilities and transience of sexual harassment in transport: Mobilities perspectives of the London underground. Gender, Place & Culture, 28(2), pp.277-298.
[viii] National survey for Wales, 2021. Welsh Government.
[ix] Transport Focus, 2022. Experiences of women and girls on transport. https://www.transportfocus.org.uk/publication/experiences-of-women-and-girls-on-transport/
[x] Vera-Gray, F. and Kelly, L., 2020. Contested gendered space: Public sexual harassment and women’s safety work. In Crime and Fear in Public Places (pp. 217-231). Routledge.
[xi] Romero-Torres, J. and Ceccato, V., 2020. Youth safety in PT: The case of eastern Mexico City, Mexico. In Crime and Fear in Public Places. Routledge. Pp. 145 – 159.
[xii] DelGreco, M. and Christensen, J., 2020. Effects of street harassment on anxiety, depression, and sleep quality of college women. Sex Roles, 82(7), pp.473-481.
[xiii] Fairchild, K. and Rudman, L.A., 2008. Everyday stranger harassment and women’s objectification. Social Justice Research, 21(3), pp.338-357.
[xiv] Chafai, H., 2021. Everyday gendered violence: women’s experiences of and discourses on street sexual harassment in Morocco. The Journal of North African Studies, 26(5), pp.1013-1032.
[xv] Adams, L et al. 2020. 2020 Sexual Harassment Survey. Government Equalities Office, IFF Research.
Dr Lucy Baker (Prifysgol Aberystwyth) sy’n arwain y prosiect, a bydd hi’n gweithio gyda Chwarae Teg – elusen cydraddoldeb rhyweddol bennaf Cymru sy’n arbenigo ar ddatblygu pecynnau hyfforddiant arbenigol sy’n mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn erbyn menywod a merched. Mae Chwarae Teg yn gweithio i sicrhau bod menywod yn cael canlyniadau economaidd teg, yn cael eu cynrychioli’n deg mewn prosesau penderfyniadau, a’u bod yn cael eu rhyddhau o risgiau tlodi ac aflonyddu a chamdriniaeth rywiol.