Skip to content

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

Menu
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Tîm
  • Blog Archwilio Trafnidiaeth ac Iechyd
  • Podlediad y THINK
  • Ffowndri THINK
  • Adnoddau Academi THINK
    • 20mya ac iechyd
    • Adnoddau Teithio Llesol
    • Adnoddau Gwahanu Cymunedau o boptu Ffyrdd
    • Adnoddau Diogelwch Defnyddwyr Ffyrdd
    • Adnoddau Llygredd Aer a Sŵn
    • Cyhoeddiadau THINK
    • Trafnidiaeth a dull gweithredu Iechyd Cyfunol
  • Prosiectau rhwydwaith THINK
    • Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd
      • Derbynwyr y Gwobrau 2023
    • Bws Rhywedd+Cymru: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad treisgar yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru
  • Newyddion
    • Cynhadledd Aeaf y Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) 2023
  • Cymraeg
    • English
    • Cymraeg
Menu

Cynnwys ymchwil mewn dull sensitif o ran rhywedd o wasanaethau bysiau

Posted on 2 Tachwedd 202326 Mawrth 2024 by amynicholass
This image has an empty alt attribute; its file name is iStock-1034927146-1024x592.jpg

Mae Trafnidiaeth Cymru a THINK – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd,  ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn eich gwahodd i gymryd rhan yn ein hymchwil.  

Enw’r prosiect yw ‘Bws Rhywedd+: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol a thrais yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru a’r DU’.  

Rydym yn cynnal ymchwil sy’n edrych ar brofiad menywod o ddefnyddio a chael mynediad at fysiau yn benodol o ran eu diogelwch gyda’r nod o wneud gwasanaethau bysiau yn fwy cynhwysol i fenywod a merched.   

Rydym yn chwilio am fenywod (ac yn cynnwys unrhyw un sy’n uniaethu fel menyw, neu’r rhai a bennwyd yn fenywaidd adeg eu geni ac sy’n uniaethu yn anneuaidd o ran rhywedd) sydd dros 18 oed i gymryd rhan mewn: 

  • Cyfweliad ymchwil gydag ymchwilydd benywaidd  

Yn ystod y cyfweliad byddwch yn trafod: 

  • eich profiadau o ddefnyddio bysiau/trafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys cynllunio eich taith, aros am fws, chyrraedd a gadael bysiau   
  • yr hyn sy’n gwneud i chi deimlo’n agored i niwed ac yn ofnus neu wedi ymlacio ac yn ddiogel.  
  • y math o achosion o aflonyddu, neu drais rydych chi a/neu fenywod eraill yn eu profi mewn mannau cyhoeddus   
  • sefyllfaoedd rydych chi a/neu fenywod eraill yn dod ar eu traws wrth ymwneud â phobl eraill, yn enwedig wrth ddefnyddio bysiau   
  • y newidiadau, ymyriadau, polisïau neu syniadau y credwch y gellid eu defnyddio i wella profiad menywod o ddefnyddio bysiau   

Bydd y dealltwriaeth a ddaw o’r astudiaeth yn cyfrannu at gynllunio camau y gall rhanddeiliaid eu cymryd i sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at drafnidiaeth gyhoeddus ac y gall pawb fod yn hyderus y bydd pob rhan o’u taith yn ddiogel ac yn rhydd rhag unrhyw fath o drais, gan gynnwys aflonyddu (rhywiol neu fel arall).   

Bydd gweithdai a’r cyfweliadau yn para oddeutu 1 awr a byddwch yn cael eich ad-dalu â thaleb gwerth £20.  Gall cyfweliad fod yn bersonol mewn lleoliad addas, neu ar-lein.     

Cewch fwy o wybodaeth wedi i chi ddangos diddordeb i gymryd rhan.  

Gallwch ddysgu mwy am y prosiect yma: Bws Rhywedd+  

Os ydych yn barod i gymryd rhan mewn cyfweliad gydag ymchwilydd, neu weithdy, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r astudiaeth, cysylltwch â’r ymchwilydd Kate Woodley neu arweinydd y prosiect (Kaw106@aber.ac.uk), Dr Lucy Baker (lub59@aber.ac.uk).  



THINK Podcast