Awduron: Lucy Baker, Sarah Jones, Amy Nicholass, Charles Musselwhite
Gyda’r gallu i gynnig lefelau cymedrol o ddwysedd ymarfer corff ac ymestyn symudedd pobl, yr amser a dreuliant yn ymarfer, eu hannibyniaeth, a chyfleoedd i fod allan mewn amgylcheddau naturiol a chymdeithasol, mae e-feiciau ac e-dreisiclau yn cynnig buddion niferus.
Casgliadau
Mae gan e-seiclo hefyd y potensial i alluogi mynediad at deithio drwy oresgyn rhai o’r rhwystrau y mae pobl yn eu profi’n gysylltiedig â’u ffitrwydd, iechyd, gallu a/neu hyder. Mae e-feiciau’n cynnig cyfle i reoli lefel cymorth y pŵer ac felly ddwysedd yr ymarfer, sy’n helpu pobl â chyflyrau iechyd ac anableddau i seiclo ac felly brofi buddion iechyd hynny. Mae batris yn helpu pobl i ymdopi â goleddau serth yn hyderus gan agor llwybrau a fyddai fel arall yn amhosibl iddynt eu seiclo, neu wella difyrrwch a mwynhad seiclo. Maent yn cynnig y posibilrwydd o deithiau teuluol ac wedi hybu’r farchnad beiciau e-gargo.
Fodd bynnag ceir nifer o rwystrau i’w goresgyn i wella posibiliadau e-seiclo.
- Mae angen cynllunio ac addasu seilwaith seiclo ar gyfer y defnydd cynyddol o e-feiciau drwy ystyried amrywiaeth o dechnolegau a defnyddwyr â’r nod o wella diogelwch a’r profiad drws i ddrws.
- Bydd angen darparu storio, parcio a gwefru cysgodol dros nos i gyd-fynd ag anghenion amrywiol sefyllfaoedd preswyl a mathau gwahanol o feiciau.
- Gallai cymorthdaliadau, grantiau, benthyciadau di-log a chynlluniau llogi hygyrch helpu i wella fforddiadwyedd a hygyrchedd e-feiciau, beiciau e-gargo, treisiclau a beiciau wedi’u haddasu.
- Byddai trefniadau cymdeithasol cefnogol sy’n addysgol ac yn ysgogol yn arbennig o ddefnyddiol i gyflwyno grwpiau o bobl ymyledig a phobl sy’n newydd i e-seiclo.
- Darperir y gwasanaethau hyn yn bennaf gan elusennau ac mae angen mwy o gymorth ariannol i’w datblygu’n fwy eang.
- Gyda newidiadau yn y technolegau mae pobl yn eu defnyddio i seiclo, gan gynnwys cymorth batri, cynlluniau wedi’u haddasu a chynlluniau sy’n cludo llwythau, a gyda phrinder cyflenwadau a chodiadau eraill o ran costau byw a chwyddiant, mae angen i awdurdodau lleol, asiantaethau gorfodi a rhanddeiliaid eraill ehangu adnoddau i fynd i’r afael â dwyn beiciau a gwella diogelwch mannau cyhoeddus.
I weld yr erthygl dilynwch y ddolen hon: https://think.aber.ac.uk/think-academy-publications/ac.uk
Yn ysbryd adolygu gan gymheiriaid academaidd, mae THINK yn croesawu blogiau wedi’u cyfeirnodi mewn ymateb er mwyn annog trafodaeth agored. Os hoffech ysgrifennu blog e-bostiwch think@aber.ac.uk gyda’r llinell pwnc 'Ymateb Blog’