Skip to content

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

Menu
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Tîm
  • Blog Archwilio Trafnidiaeth ac Iechyd
  • Podlediad y THINK
  • Adnoddau Academi THINK
    • 20mya ac iechyd
    • Adnoddau Teithio Llesol
    • Adnoddau Gwahanu Cymunedau o boptu Ffyrdd
    • Adnoddau Diogelwch Defnyddwyr Ffyrdd
    • Adnoddau Llygredd Aer a Sŵn
    • Cyhoeddiadau THINK
    • Trafnidiaeth a dull gweithredu Iechyd Cyfunol
  • Prosiectau rhwydwaith THINK
    • Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd
      • Derbynwyr y Gwobrau 2023
    • Bws Rhywedd+Cymru: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad treisgar yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru
  • Newyddion
  • Cysylltu â ni
  • Cymryd rhan
  • CymraegCymraeg
    • EnglishEnglish
    • CymraegCymraeg
Menu

E-seiclo: cyfleoedd i alluogi cynhwysiant mewn teithio gweithredol

Posted on 10 Hydref 202210 Hydref 2022 by amynicholass

Awduron: Lucy Baker, Sarah Jones, Amy Nicholass, Charles Musselwhite

Gyda’r gallu i gynnig lefelau cymedrol o ddwysedd ymarfer corff ac ymestyn symudedd pobl, yr amser a dreuliant yn ymarfer, eu hannibyniaeth, a chyfleoedd i fod allan mewn amgylcheddau naturiol a chymdeithasol, mae e-feiciau ac e-dreisiclau yn cynnig buddion niferus.

Casgliadau

Mae gan e-seiclo hefyd y potensial i alluogi mynediad at deithio drwy oresgyn rhai o’r rhwystrau y mae pobl yn eu profi’n gysylltiedig â’u ffitrwydd, iechyd, gallu a/neu hyder. Mae e-feiciau’n cynnig cyfle i reoli lefel cymorth y pŵer ac felly ddwysedd yr ymarfer, sy’n helpu pobl â chyflyrau iechyd ac anableddau i seiclo ac felly brofi buddion iechyd hynny. Mae batris yn helpu pobl i ymdopi â goleddau serth yn hyderus gan agor llwybrau a fyddai fel arall yn amhosibl iddynt eu seiclo, neu wella difyrrwch a mwynhad seiclo. Maent yn cynnig y posibilrwydd o deithiau teuluol ac wedi hybu’r farchnad beiciau e-gargo.

Fodd bynnag ceir nifer o rwystrau i’w goresgyn i wella posibiliadau e-seiclo.

  • Mae angen cynllunio ac addasu seilwaith seiclo ar gyfer y defnydd cynyddol o e-feiciau drwy ystyried amrywiaeth o dechnolegau a defnyddwyr â’r nod o wella diogelwch a’r profiad drws i ddrws.
  • Bydd angen darparu storio, parcio a gwefru cysgodol dros nos i gyd-fynd ag anghenion amrywiol sefyllfaoedd preswyl a mathau gwahanol o feiciau.
  • Gallai cymorthdaliadau, grantiau, benthyciadau di-log a chynlluniau llogi hygyrch helpu i wella fforddiadwyedd a hygyrchedd e-feiciau, beiciau e-gargo, treisiclau a beiciau wedi’u haddasu.
  • Byddai trefniadau cymdeithasol cefnogol sy’n addysgol ac yn ysgogol yn arbennig o ddefnyddiol i gyflwyno grwpiau o bobl ymyledig a phobl sy’n newydd i e-seiclo.
  • Darperir y gwasanaethau hyn yn bennaf gan elusennau ac mae angen mwy o gymorth ariannol i’w datblygu’n fwy eang.
  • Gyda newidiadau yn y technolegau mae pobl yn eu defnyddio i seiclo, gan gynnwys cymorth batri, cynlluniau wedi’u haddasu a chynlluniau sy’n cludo llwythau, a gyda phrinder cyflenwadau a chodiadau eraill o ran costau byw a chwyddiant, mae angen i awdurdodau lleol, asiantaethau gorfodi a rhanddeiliaid eraill ehangu adnoddau i fynd i’r afael â dwyn beiciau a gwella diogelwch mannau cyhoeddus.

I weld yr erthygl dilynwch y ddolen hon: https://think.aber.ac.uk/think-academy-publications/ac.uk

Yn ysbryd adolygu gan gymheiriaid academaidd, mae THINK yn croesawu blogiau wedi’u cyfeirnodi mewn ymateb er mwyn annog trafodaeth agored. Os hoffech ysgrifennu blog e-bostiwch think@aber.ac.uk gyda’r llinell pwnc 'Ymateb Blog’
  • THINK – mae’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn chwilio am uwch reolwyr cwmnïau bysiau i gymryd rhan yn ein hymchwil. 
  • Offer i’w defnyddio i leihau effaith rwystrol ffyrdd prysur ar gerddwyr  
  • Agor y Strydoedd i Chwarae
  • E-seiclo: cyfleoedd i alluogi cynhwysiant mewn teithio gweithredol
  • Adroddiad Gweithdai Gosod Agenda THINK
THINK - the Transport and Health Integrated research NetworK
Prifysgol Aberystwyth University
Health and Care Research Wales
NHS Wales - Public Health Wales
Tweets by TransportHealth
©2023 Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) | Built using WordPress and Responsive Blogily theme by Superb