Crëwyd rhwydwaith THINK i ddod â phobl sy’n gweithio ym maes trafnidiaeth ac iechyd ym myd polisi, yn ymarferol ac yn y byd academaidd at ei gilydd, gan ddatblygu sgiliau, profiad a gwybodaeth, creu ymchwil newydd sy’n canolbwyntio ar ymarfer, a rhoi ymchwil ar waith.
Mae’n rhwydwaith lle gall ymarferwyr, llunwyr polisi, sefydliadau trydydd sector ac academyddion ddod ynghyd i weithio’n agos, neu’n anuniongyrchol, mewn meysydd sy’n effeithio ar drafnidiaeth ac iechyd fel ei gilydd. Bydd llu o gyfleoedd i’r cyhoedd gymryd rhan yng ngweithgareddau THINK, a cheisir sicrhau bod y gweithgareddau hynny’n rhai cyfranogol.
Mae’r rhwydwaith yn datblygu gwybodaeth ac ymarfer mewn pedair agwedd benodol a rhyng-gysylltiedig ar drafnidiaeth, symudedd, iechyd a lles:
- effaith cerbydau ar lygredd aer a sŵn
- anafiadau a marwolaethau yn sgil damweiniau cerbydau
- effaith teithio llesol (cerdded a beicio) ar iechyd
- effaith cerbydau ar hollti’r gymuned
Bydd gwaith y rhwydwaith yn mynd i’r afael â phob un o’r rhain o safbwynt pobl a phlant o bob oed ac yn archwilio anghydraddoldebau mewn manylder, a hynny o ran symudedd, systemau diogel a lleoedd iach.