1. Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned



Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd yn eich gwahodd i gyflwyno cais am grant sy’n ymwneud â rôl trafnidiaeth mewn creu cymuned iach.Rydym yn croesawu prosiectau arbrofol gan dimau rhyngddisgyblaethol/o sawl cefndir, o Gymru a’r tu hwnt, ac rydym yn chwilio am gynnig sy’n dod â phobl o wahanol gefndiroedd ynghyd mewn partneriaethau (e.e. cymunedau, elusennau a’r trydydd sector, academyddion, byrddau iechyd, awdurdodau lleol) i gydweithio i gynorthwyo “cymuned sydd mewn angen” â “mater penodol sy’n ymwneud â thrafnidiaeth”.
Mae grant gwerth hyd at £2000 ar gael fesul prosiect i gefnogi’r gweithgarwch. Byddwn yn dewis hyd at 4 prosiect i’w hariannu.
2. Bws Rhywedd+Cymru: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad treisgar yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru
