Awdur: Yr Athro Charles Musselwhite, Cyd-Gyfarwyddwr, Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd
I weld yr erthygl â’r drafodaeth lawn ‘The Social Psychology of Speeding: Attitudes to 20pmh’ dilynwch y ddolen hon: https://think.aber.ac.uk/cy/20mya-ac-iechyd/
Crynodeb
Mae pobl yn gwybod bod cyflymder cerbydau yn elfen allweddol mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd. Mae mwyafrif llethol y cyhoedd yn cefnogi camau llymach i orfodi terfynau cyflymder ac o blaid lleihau’r terfynau cyflymder mewn rhai ardaloedd preswyl. Ond eto, mae llawer o bobl yn parhau i yrru eu cerbydau yn gyflymach na’r terfyn cyflymder. Ar ffyrdd 20mya, roedd canran syfrdanol o yrwyr, sef 87%, yn mynd yn gyflymach na’r terfyn cyflymder yn Lloegr yn 2021 (DfT, 2021).
Pam mae’r diffyg cysylltiad hwn i’w gael rhwng yr agwedd tuag at gyflymder a’r ymddygiad wrth yrru?
Mewn astudiaeth a gynheliais ychydig dros 10 mlynedd yn ôl edrychais i ar resymau pobl dros yrru’n anniogel, gan gynnwys pam maent yn gyrru dros y terfyn cyflymder.
- Er iddyn nhw ddatgan bod goryrru yn beryglus, dim ond 3% o’r cyhoedd ym Mhrydain sy’n dweud eu bod hwy eu hunain yn beryglus pan fyddant yn goryrru.
- Mae hyder gormodol yn golygu bod pobl yn tueddu i weld y rheolau i fodurwyr fel petaent yno i bobl eraill ac nid iddynt hwy eu hunain.
- Teimla rhai eu bod yn gyrru mewn modd mor ddiogel a’u bod mor brofiadol, fel y gallant hwy eu hunain benderfynu beth yw cyflymder diogel a dewis goryrru os yw’r amodau gyrru’n yn addas.
- Sefyllfa gymdeithasol yw’r ffyrdd, lle mae pobl yn dynwared yr hyn a welant o’u cwmpas, gyda normau cymdeithasol yn dylanwadu arnynt.
- Mae pobl yn tueddu i gredu bod pobl eraill yn goryrru, ac felly maen nhw’n goryrru hefyd. Gall pobl yn hawdd fynd i arfer â goryrru, neu hyd yn oed fynd i oryrru eu hunain heb sylwi.
- Mae rhai pobl yn defnyddio’r car i dynnu sylw atynt eu hun, a dangos eu bod yn medru goryrru, rhai’n cydymffurfio â “theip” penodol (bechgyn neu ferched rasio, er enghraifft), a rhai am greu argraff ar eu ffrindiau (yn enwedig ffrindiau gwrywaidd ifanc).
Ar y cyfan, roedd teimlad nad oedd cael eich dal am oryrru mor wael â hynny mewn gwirionedd; dim ond yn arwydd o anlwc, yn hytrach na diffyg doethineb.
Roedd prosiect ymchwil arall yr oeddwn i’n ymwneud ag ef yn edrych yn benodol ar gyfyngiad 20mya. Awgrymodd yr astudiaeth honno fod pobl yn pryderu a oedd hi’n bosib iddynt yrru’n araf heb ddefnyddio llawer o danwydd na llygru’r amgylchedd, ac nad oedd geriau eu ceir yn addas i redeg ar gyflymder mor araf. Ar ben hynny, roedd rhai gyrwyr yn teimlo bod gyrru’n araf yn arwain at ddiffyg sylw i beryglon eraill ar y ffyrdd; enghraifft o ddigolledu risg mewn sefyllfa bywyd go iawn. Er hynny, llwyddodd rhai gyrwyr i yrru ar 20mya. Ymatebodd yr arweinwyr hyn yn dda i’r ddadl am ddiogelwch yn benodol, gan sefyll yn gryf dros eu penderfyniad hyd yn oed pan oedd gyrwyr eraill y tu ôl yn rhoi pwysau arnynt drwy yrru’n agos atynt. Roedd y mwyafrif, serch hynny, yn cydymffurfio ag ymddygiad goryrru y gyrwyr eraill.
Felly, beth wnawn ni?
Gwyddom na fyddwn ni’n hollol lwyddiannus wrth newid agweddau pobl oni bai ein bod yn treulio amser hir yn eu hargyhoeddi, iddynt gael deall pam mae terfynau 20mya yn bwysig, ac o bosibl yn gofyn i bobl feddwl o’u safbwyntiau gwahanol eu hun; mae pobl yn llawer mwy tebygol o gefnogi 20mya o safbwynt preswylwyr ochr ffordd, nag o’u safbwynt fel modurwyr. Neu, gallem, yn syml, fynd at i gyflwyno terfynau 20mya yn syth. Mae ymchwil yn tueddu i awgrymu bod agweddau negyddol ymhlith y cyhoedd, ac ymhlith gyrwyr hyd yn oed, yn lleihau ar ôl eu gweithredu, pan nad yw ofnau gwaethaf pobl yn cael eu gwireddu a bod norm newydd yn ymsefydlu.
Yn ysbryd adolygu gan gymheiriaid academaidd, mae THINK yn croesawu blogiau wedi’u cyfeirnodi mewn ymateb er mwyn annog trafodaeth agored. Os hoffech ysgrifennu blog e-bostiwch think@aber.ac.uk gyda’r llinell pwnc 'Ymateb Blog’