Skip to content

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

Menu
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Tîm
  • Blog Archwilio Trafnidiaeth ac Iechyd
  • Podlediad y THINK
  • Ffowndri THINK
  • Adnoddau Academi THINK
    • 20mya ac iechyd
    • Adnoddau Teithio Llesol
    • Adnoddau Gwahanu Cymunedau o boptu Ffyrdd
    • Adnoddau Diogelwch Defnyddwyr Ffyrdd
    • Adnoddau Llygredd Aer a Sŵn
    • Cyhoeddiadau THINK
    • Trafnidiaeth a dull gweithredu Iechyd Cyfunol
  • Prosiectau rhwydwaith THINK
    • Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd
      • Derbynwyr y Gwobrau 2023
    • Bws Rhywedd+Cymru: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad treisgar yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru
  • Newyddion
  • Cyfleoedd i Gymryd Rhan
    • Dod yn aelod o THINK
    • Sefydlu Cymunedau Ymarfer
    • Cynllun Mentora THINK
  • Cysylltu â ni
  • CymraegCymraeg
    • EnglishEnglish
    • CymraegCymraeg
Menu

Seicoleg Gymdeithasol Goryrru: agweddau tuag at 20mya

Posted on 13 Gorffennaf 20221 Awst 2022 by charlesmusselwhite

Awdur: Yr Athro Charles Musselwhite, Cyd-Gyfarwyddwr, Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd

I weld yr erthygl â’r drafodaeth lawn ‘The Social Psychology of Speeding: Attitudes to 20pmh’ dilynwch y ddolen hon: https://think.aber.ac.uk/cy/20mya-ac-iechyd/

Ffoto: Dr Lucy Baker

Crynodeb

Mae pobl yn gwybod bod cyflymder cerbydau yn elfen allweddol mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd. Mae mwyafrif llethol y cyhoedd yn cefnogi camau llymach i orfodi terfynau cyflymder ac o blaid lleihau’r terfynau cyflymder mewn rhai ardaloedd preswyl. Ond eto, mae llawer o bobl yn parhau i yrru eu cerbydau yn gyflymach na’r terfyn cyflymder. Ar ffyrdd 20mya, roedd canran syfrdanol o yrwyr, sef 87%, yn mynd yn gyflymach na’r terfyn cyflymder yn Lloegr yn 2021 (DfT, 2021).

Pam mae’r diffyg cysylltiad hwn i’w gael rhwng yr agwedd tuag at gyflymder a’r ymddygiad wrth yrru?

Mewn astudiaeth a gynheliais ychydig dros 10 mlynedd yn ôl edrychais i ar resymau pobl dros yrru’n anniogel, gan gynnwys pam maent yn gyrru dros y terfyn cyflymder.

  • Er iddyn nhw ddatgan bod goryrru yn beryglus, dim ond 3% o’r cyhoedd ym Mhrydain sy’n dweud eu bod hwy eu hunain yn beryglus pan fyddant yn goryrru.
  • Mae hyder gormodol yn golygu bod pobl yn tueddu i weld y rheolau i fodurwyr fel petaent yno i bobl eraill ac nid iddynt hwy eu hunain.
  • Teimla rhai eu bod yn gyrru mewn modd mor ddiogel a’u bod mor brofiadol, fel y gallant hwy eu hunain benderfynu beth yw cyflymder diogel a dewis goryrru os yw’r amodau gyrru’n yn addas.
  • Sefyllfa gymdeithasol yw’r ffyrdd, lle mae pobl yn dynwared yr hyn a welant o’u cwmpas, gyda normau cymdeithasol yn dylanwadu arnynt.
  • Mae pobl yn tueddu i gredu bod pobl eraill yn goryrru, ac felly maen nhw’n goryrru hefyd. Gall pobl yn hawdd fynd i arfer â goryrru, neu hyd yn oed fynd i oryrru eu hunain heb sylwi.
  • Mae rhai pobl yn defnyddio’r car i dynnu sylw atynt eu hun, a dangos eu bod yn medru goryrru, rhai’n cydymffurfio â “theip” penodol (bechgyn neu ferched rasio, er enghraifft), a rhai am greu argraff ar eu ffrindiau (yn enwedig ffrindiau gwrywaidd ifanc). 

Ar y cyfan, roedd teimlad nad oedd cael eich dal am oryrru mor wael â hynny mewn gwirionedd; dim ond yn arwydd o anlwc, yn hytrach na diffyg doethineb.

Roedd prosiect ymchwil arall yr oeddwn i’n ymwneud ag ef yn edrych yn benodol ar gyfyngiad 20mya. Awgrymodd yr astudiaeth honno fod pobl yn pryderu a oedd hi’n bosib iddynt yrru’n araf heb ddefnyddio llawer o danwydd na llygru’r amgylchedd, ac nad oedd geriau eu ceir yn addas i redeg ar gyflymder mor araf. Ar ben hynny, roedd rhai gyrwyr yn teimlo bod gyrru’n araf yn arwain at ddiffyg sylw i beryglon eraill ar y ffyrdd; enghraifft o ddigolledu risg mewn sefyllfa bywyd go iawn. Er hynny, llwyddodd rhai gyrwyr i yrru ar 20mya. Ymatebodd yr arweinwyr hyn yn dda i’r ddadl am ddiogelwch yn benodol, gan sefyll yn gryf dros eu penderfyniad hyd yn oed pan oedd gyrwyr eraill y tu ôl yn rhoi pwysau arnynt drwy yrru’n agos atynt. Roedd y mwyafrif, serch hynny, yn cydymffurfio ag ymddygiad goryrru y gyrwyr eraill.

Felly, beth wnawn ni?

Gwyddom na fyddwn ni’n hollol lwyddiannus wrth newid agweddau pobl oni bai ein bod yn treulio amser hir yn eu hargyhoeddi, iddynt gael deall pam mae terfynau 20mya yn bwysig, ac o bosibl yn gofyn i bobl feddwl o’u safbwyntiau gwahanol eu hun; mae pobl yn llawer mwy tebygol o gefnogi 20mya o safbwynt preswylwyr ochr ffordd, nag o’u safbwynt fel modurwyr. Neu, gallem, yn syml, fynd at i gyflwyno terfynau 20mya yn syth. Mae ymchwil yn tueddu i awgrymu bod agweddau negyddol ymhlith y cyhoedd, ac ymhlith gyrwyr hyd yn oed, yn lleihau ar ôl eu gweithredu, pan nad yw ofnau gwaethaf pobl yn cael eu gwireddu a bod norm newydd yn ymsefydlu.

Yn ysbryd adolygu gan gymheiriaid academaidd, mae THINK yn croesawu blogiau wedi’u cyfeirnodi mewn ymateb er mwyn annog trafodaeth agored. Os hoffech ysgrifennu blog e-bostiwch think@aber.ac.uk gyda’r llinell pwnc 'Ymateb Blog’
THINK - the Transport and Health Integrated research NetworK
  • Mae’r ffactor dynol
  • Crynodeb o Weithdai Gosod Agenda Cyhoeddus THINK 2023
  • CYNLLUN PEILOT E-MOVE: ARFERION E-FEICIO YNG NGHYMUNEDAU GWLEDIG CYMRU A’R POTENSIAL AR GYFER NEWID I DRAFNIDIAETH CARBON ISEL
  • O Systemau Trafnidiaeth Ddeallus i Systemau Trafnidiaeth Integredig
  • Pam mae pobl yn defnyddio Age Connects Morgannwg ar gyfer cludiant?

THINK Podcast

Transport and Health Integrated research NetworK – THINK Podcast
Transport and Health Integrated research NetworK – THINK Podcast

THINK is a collaboration between the psychology department of Aberystwyth University and Public Health Wales, and is funded by Health and Care Research Wales to improve health outcomes for all, in relation to transport. The network is made up of individuals working in academic, practitioner, policy or charity roles across different areas of transport and health. THINK facilitates research, training and seminars to develop knowledge and provide opportunities to work collaboratively across four different themes – air and noise pollution; injuries and deaths stemming from vehicle crashes; the impact of active travel (walking and cycling) on health; and the impact of vehicles dividing communities. You can sign up as a member of THINK for free on the website https://think.aber.ac.uk/sign-up/ or follow us @TransportHealth

Access to Healthcare with Community Transport
byThe Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK

Hear how community transport & health care providers in Pembrokeshire are leading the way on life giving collaborative projects. Featuring Emma Bingham (CTA), Debbie Johnson (PACTO), Gemma Lelliott (CTA), Kellie Lowther (PIVOT & Country Cars driver), Rod Bowen (Dolen Teifi Community Transport), Tina Norman (wheelchair accessible vehicle user and Chair of PVT) and community transport users of the Fflesci bus service trial in St Davids and Dolen Teifi Community Transport.

Access to Healthcare with Community Transport
Access to Healthcare with Community Transport
13 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
Wales and Community Transport with Gemma Lelliott, Director for Wales, Community Transport Association
9 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
Digital Futures in Community Transport
9 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
Co-production in Community Transport
9 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
More Than Just a Journey – Community Transport
8 Mawrth 2023
The Transport and Health Integrated Research NetworK - THINK
Search Results placeholder

Drop down menu in the centre from the podcast player will play the other podcast episodes

Latest recordings of THINK event if you missed it!
Prifysgol Aberystwyth University
Health and Care Research Wales
NHS Wales - Public Health Wales
©2023 Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) | Built using WordPress and Responsive Blogily theme by Superb