Enw’r prosiect yw ‘Bws Rhywedd+: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol a thrais yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru a’r DU’.
Bydd yr astudiaeth yn archwilio’r gwahanol arferion a pholisïau a ddefnyddir i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol, aflonyddu, a thrais yn erbyn menywod (a theithwyr eraill) gan wahanol randdeiliaid. Bydd yn ystyried canfyddiadau a rhwystrau o ran gwella diogelwch i fenywod sy’n mynd ar fysiau. Bydd yr astudiaeth hefyd yn asesu pa ymyriadau sy’n flaenoriaeth ac sydd fwyaf perthnasol.
Bydd yr astudiaeth yn cyfrannu at gynllunio camau y gellir eu cymryd i sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at drafnidiaeth gyhoeddus ac y gall pawb fod yn hyderus y bydd pob rhan o’u taith yn ddiogel ac yn rhydd rhag unrhyw fath o drais, gan gynnwys aflonyddu.
Os ydych yn rheolwr gyfarwyddwr, dirprwy gyfarwyddwr/cyfarwyddwr cynorthwyol, Prif Swyddog Gweithredol, pennaeth gweithrediadau, uwch reolwr, pennaeth recriwtio, neu’n dal swydd debyg mewn cwmni bysiau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, hoffem i chi gymryd rhan yn ein harolwg ar-lein, neu gyfweliad gydag ymchwilydd.
Gallwch ddysgu mwy am y prosiect yma.
I gwblhau arolwg, dilynwch y ddolen hon: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/gender-bus-wales-operator-survey (cyn 15 Mawrth 2023) lle byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth cyn penderfynu dechrau ar yr arolwg ar-lein.
Gallwch gymryd rhan drwy gyfrwng y cyfweliad a’r arolwg os dymunwch, ond gofynnwn i chi ddarparu un ymateb arolwg yn unig i bob cwmni, gall mwy nag un aelod o staff gymryd rhan mewn cyfweliad.
Os ydych chi’n fodlon cymryd rhan mewn cyfweliad gydag ymchwilydd, cysylltwch ag arweinydd y prosiect, Lucy Baker, gan ddefnyddio’r manylion isod i fynegi eich diddordeb. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei ddarparu wedyn. Gellir trefnu’r cyfweliad ar amser sy’n gyfleus i chi naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Cysylltwch ag ymchwilydd THINK Dr Lucy Baker i gymryd rhan, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch ein hymchwil (lub59@aber.ac.uk).
Edrychwn ymlaen at glywed gennych. Diolch am roi o’ch amser i ystyried cymryd rhan yn y prosiect hwn.
(Cefnogir yr ymchwil hwn gan Sefydliad Waterloo ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus a Gofal Cymru)