Skip to content

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

Menu
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Tîm
  • Blog Archwilio Trafnidiaeth ac Iechyd
  • Podlediad y THINK
  • Adnoddau Academi THINK
    • 20mya ac iechyd
    • Adnoddau Teithio Llesol
    • Adnoddau Gwahanu Cymunedau o boptu Ffyrdd
    • Adnoddau Diogelwch Defnyddwyr Ffyrdd
    • Adnoddau Llygredd Aer a Sŵn
    • Cyhoeddiadau THINK
    • Trafnidiaeth a dull gweithredu Iechyd Cyfunol
  • Prosiectau rhwydwaith THINK
    • Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd
      • Derbynwyr y Gwobrau 2023
    • Bws Rhywedd+Cymru: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad treisgar yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru
  • Newyddion
  • Cysylltu â ni
  • Cymryd rhan
  • CymraegCymraeg
    • EnglishEnglish
    • CymraegCymraeg
Menu

THINK – mae’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn chwilio am uwch reolwyr cwmnïau bysiau i gymryd rhan yn ein hymchwil. 

Posted on 26 Ionawr 202327 Ionawr 2023 by lucybaker

Enw’r prosiect yw ‘Bws Rhywedd+: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol a thrais yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru a’r DU’.

Bydd yr astudiaeth yn archwilio’r gwahanol arferion a pholisïau a ddefnyddir i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol, aflonyddu, a thrais yn erbyn menywod (a theithwyr eraill) gan wahanol randdeiliaid. Bydd yn ystyried canfyddiadau a rhwystrau o ran gwella diogelwch i fenywod sy’n mynd ar fysiau. Bydd yr astudiaeth hefyd yn asesu pa ymyriadau sy’n flaenoriaeth ac sydd fwyaf perthnasol.

Bydd yr astudiaeth yn cyfrannu at gynllunio camau y gellir eu cymryd i sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at drafnidiaeth gyhoeddus ac y gall pawb fod yn hyderus y bydd pob rhan o’u taith yn ddiogel ac yn rhydd rhag unrhyw fath o drais, gan gynnwys aflonyddu.

Os ydych yn rheolwr gyfarwyddwr, dirprwy gyfarwyddwr/cyfarwyddwr cynorthwyol, Prif Swyddog Gweithredol, pennaeth gweithrediadau, uwch reolwr, pennaeth recriwtio, neu’n dal swydd debyg mewn cwmni bysiau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, hoffem i chi gymryd rhan yn ein harolwg ar-lein, neu gyfweliad gydag ymchwilydd.

Gallwch ddysgu mwy am y prosiect yma.

I gwblhau arolwg, dilynwch y ddolen hon: https://aber.onlinesurveys.ac.uk/gender-bus-wales-operator-survey (cyn 15 Mawrth 2023) lle byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth cyn penderfynu dechrau ar yr arolwg ar-lein.

Gallwch gymryd rhan drwy gyfrwng y cyfweliad a’r arolwg os dymunwch, ond gofynnwn i chi ddarparu un ymateb arolwg yn unig i bob cwmni, gall mwy nag un aelod o staff gymryd rhan mewn cyfweliad.

Os ydych chi’n fodlon cymryd rhan mewn cyfweliad gydag ymchwilydd, cysylltwch ag arweinydd y prosiect, Lucy Baker, gan ddefnyddio’r manylion isod i fynegi eich diddordeb. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei ddarparu wedyn. Gellir trefnu’r cyfweliad ar amser sy’n gyfleus i chi naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Cysylltwch ag ymchwilydd THINK Dr Lucy Baker i gymryd rhan, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch ein hymchwil (lub59@aber.ac.uk).

Edrychwn ymlaen at glywed gennych. Diolch am roi o’ch amser i ystyried cymryd rhan yn y prosiect hwn.

(Cefnogir yr ymchwil hwn gan Sefydliad Waterloo ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus a Gofal Cymru)

  • THINK – mae’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn chwilio am uwch reolwyr cwmnïau bysiau i gymryd rhan yn ein hymchwil. 
  • Offer i’w defnyddio i leihau effaith rwystrol ffyrdd prysur ar gerddwyr  
  • Agor y Strydoedd i Chwarae
  • E-seiclo: cyfleoedd i alluogi cynhwysiant mewn teithio gweithredol
  • Adroddiad Gweithdai Gosod Agenda THINK
THINK - the Transport and Health Integrated research NetworK
Prifysgol Aberystwyth University
Health and Care Research Wales
NHS Wales - Public Health Wales
Tweets by TransportHealth
©2023 Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) | Built using WordPress and Responsive Blogily theme by Superb