Skip to content

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

Menu
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Tîm
  • Blog Archwilio Trafnidiaeth ac Iechyd
  • Podlediad y THINK
  • Ffowndri THINK
  • Adnoddau Academi THINK
    • 20mya ac iechyd
    • Adnoddau Teithio Llesol
    • Adnoddau Gwahanu Cymunedau o boptu Ffyrdd
    • Adnoddau Diogelwch Defnyddwyr Ffyrdd
    • Adnoddau Llygredd Aer a Sŵn
    • Cyhoeddiadau THINK
    • Trafnidiaeth a dull gweithredu Iechyd Cyfunol
  • Prosiectau rhwydwaith THINK
    • Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd
      • Derbynwyr y Gwobrau 2023
    • Bws Rhywedd+Cymru: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad treisgar yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru
  • Newyddion
    • Cynhadledd Aeaf y Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) 2023
  • Cymraeg
    • English
    • Cymraeg
Menu

Canlyniadau’r gweithdai mapio systemau

Posted on 5 Hydref 20235 Hydref 2023 by amynicholass

Yn yr haf daeth rhai o aelodau THINK at ei gilydd i lunio’r drafft cyntaf o fap systemau i grynhoi’r  elfennau sy’n rhwystro a galluogi teithio llesol i bawb yn y DU.

Daethom at ein gilydd am ddiwrnod cyfan dros ddwy sesiwn, gan ystyried y ffordd orau o ddangos y cysylltiadau rhwng elfennau polisi, cyllid, diwylliant, seicoleg, seilwaith ac arferion sy’n cyfuno i gynrychioli, mewn un lle, sut mae’r system o deithio llesol yn gweithredu ar hyn o bryd yn y DU.  Yna aethom ati i ychwanegu nodiadau at elfennau’r map i dynnu sylw at bwyslais cynnil pob un o ran hygyrchedd i bawb. 

THINK-active-travel-for-all-systems-map_draft-CYDownload

Mae THINK, trwy’r ymarfer hwn, am ofyn y cwestiwn, a all offeryn fel y map systemau hwn fod yn ddefnyddiol o ran gwneud penderfyniadau, comisiynu ac ariannu seilwaith ac ymyriadau teithio llesol?  Trwy weld yr holl elfennau mewn un lle, a all hyn helpu i sicrhau dulliau mwy cydlynol wrth wneud yn siŵr fod teithio llesol ar gael i bawb.  

Rydym bellach yn gwahodd aelodaeth ehangach THINK i ystyried y map drafft ac ychwanegu unrhyw beth y maent yn credu sydd ar goll yng nghynnwys neu nodiadau’r map, heb ei orlwytho â gwybodaeth gan lethu’r defnyddiwr.  

Gweler gopi PDF o’r map drafft yn Saesneg ac yn Gymraeg.  Trwy ddilyn y dolenni isod i’r cyflwyniadau sydd yn sôn am sut y datblygwyd y map gan y tîm byddwch yn gallu rhyngweithio â’r map a’i chwyddo er mwyn gweld y manylion, symud o gwmpas ac agor y nodiadau cysylltiedig ar gyfer gwahanol elfennau’r map i ddatgelu rhagor o fanylion.  

Saesneg: https://nickcavill.kumu.io/think

Cymraeg: https://THINK.kumu.io/canlyniadaur-gweithdai-mapio-systemau-a-gynhaliwyd-ar-7-mehefin-a-22-mehefin-2023?token=q7UBbHZNFc2csld0

Dilynwch y ddolen isod i roi nodiadau gludiog ar y bwrdd Miro gan ychwanegu eich meddyliau. 

Gallwch symud o gwmpas y dudalen trwy ei chwyddo â phelen eich llygoden neu, ar waelod y dudalen ar y dde ceir arwyddion + a – ar gyfer chwyddo i mewn ac allan a gallwch symud o gwmpas y dudalen wrth bwyso’r botwm dde ar eich llygoden.

https://miro.com/app/board/uXjVMhy59CM=/?share_link_id=906736089214    (os yw Miro yn agor ffenestr ychwanegol yn gofyn i chi fewngofnodi, caewch hwn gan nad oes angen i chi fewngofnodi neu gael cyfrif i ddefnyddio Miro fel gwestai).

Rhowch eich barn cyn 25 Hydref 2023.

Os byddai’n well gennych beidio â defnyddio bwrdd gwyn Miro ar-lein gallwch gyflwyno eich syniadau i  think@aber.ac.uk 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch

THINK Podcast