Cyfleoedd i Gymryd Rhan
Mae sawl ffordd o gymryd rhan yn rhwydwaith THINK
1. Dilynwch, hoffwch a rhannwch
negeseuon gwefannau cymdeithasol THINK gyda’ch rhwydweithiau presennol chi.
2. Ymunwch â dalen LinkedIn THINK
darllenwch y cod ymddygiad, a chytuno i gydymffurfio ag ef.
3. Ewch ati i ysgrifennu cyfraniad gwadd ar gyfer blog y rhwydwaith
Er mwyn trafod eich syniad ac i gael copi o ganllaw ysgrifennu blog THINK anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r canlynol fel Pwnc: Syniad ar gyfer y blog.
4. Oes gennych syniad am ddatblygiad ymchwil?
Byddwn yn hysbysebu cyfleoedd am gyllid grantiau bach ar gyfer ymchwil a chyllid effaith ymchwil wrth i’r cyfleoedd hynny godi. Cadwch olwg ar ein tudalen newyddion i gael manylion. Neu, os oes gennych syniad am ddatblygiad ymchwil neu brosiect sy’n rhoi ymchwil ar waith, dewch i drafod â ni ynglŷn â sut gallwn gefnogi eich syniad. Anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r geiriau canlynol fel Pwnc: Gwaith Ymchwil.
5. Rhowch gynnig ar fynd ar secondiad THINK neu gynnig secondiad.
Gallwn helpu i hwyluso secondiadau a chynnig grantiau bach er mwyn hybu ymchwil i drafnidiaeth ac iechyd. Gall hyn gynnwys cynnig secondiad i academydd ym meysydd polisi ac ymarfer, neu roi cyfle i rywun o faes polisi ac ymarfer i weithio mewn sefyllfa academaidd mewn prifysgol am gyfnod byr. I gael gwybod mwy o wybodaeth am hyn anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r canlynol fel Pwnc: Secondiad
6. Cymryd rhan mewn trafodaeth ar-lein neu weithdy i gasglu gwybodaeth.
Os oes gennych syniad am weithdy ar thema trafnidiaeth ac iechyd anfonwch e-bost at think@ber.ac.uk gan roi’r canlynol fel Pwnc: Syniad am weithdy.
7. Cymryd rhan mewn seminar ar-lein i rannu gwybodaeth
Os hoffech gael gwybod am ddigwyddiadau anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r canlynol fel Pwnc: Hoffwn gael fy ychwanegu at eich rhestr ebostio am ddigwyddiadau. Cyn i chi wneud hyn darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd er mwyn i chi ddeall sut rydym yn defnyddio a chadw eich manylion personol, fel eich cyfeiriad e-bost.
8. Cynnal panel trafod mewn cynhadledd neu gymryd rhan mewn un ar ran rhwydwaith THINK
i hybu’r drafodaeth ynglŷn â Thrafnidiaeth ac Iechyd . Os hoffech wneud hyn anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r geiriau canlynol fel Pwnc: Posibiliadau panel cynhadledd.
9. Ewch i’r gynhadledd haf flynyddol
(manylion y trefniadau heb eu cadarnhau eto). Er mwyn cael gwybod pan gadarnheir y trefniadau, anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r canlynol fel Pwnc: Cais am gael manylion y gynhadledd.
10. Ffurfiwch bartneriaeth â sefydliad arall yn y rhwydwaith i wneud ymchwil
Efallai y gallwn ddod o hyd i sefydliadau neu bobl sydd â diddordebau tebyg. Rhowch wybod am eich cynlluniau a gallwn ddod o hyd i’r sefydliadau neu’r bobl addas. Anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r canlynol fel Pwnc: Cydweithio ar ymchwil.
11. Cyfrannwch i ymchwil ar ran THINK neu ymunwch â ni mewn partneriaeth o fewn rhwydwaith THINK
Os aelod o’r cyhoedd ydych chi, gallwch gofrestru yma, os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, i fod yn rhan o’r gymuned YIGC Cynnwys y Cyhoedd . Gallwch wneud cynnig i gymryd rhan a gweld hysbysebion am gyfleoedd. Os aelod o grŵp cymunedol ydych chi, neu fusnes, awdurdod lleol, lluniwr polisi neu academydd anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r canlynol fel Pwnc: Ymchwanegwch fi at y rhestr ebostio newyddion ymchwil. Cyn i chi wneud hynny darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd sy’n cofnodi sut rydym ni’n cadw a defnyddio eich manylion personol fel eich cyfeiriad e-bost.
12. Ewch ati i gyd-ysgrifennu deunydd addysgiadol ac adnoddau ar gyfer rhwydwaith THINK ac ar gyfer myfyrwyr
Rydym yn awyddus i’r gwahanol rannau o rwydwaith THINK ddeall safbwyntiau ei gilydd, gan gynnwys: helpu ein gilydd i ddeall y gwahanol derminoleg a ddefnyddir ar draws y rhwydwaith, y gwahanol ffyrdd o gasglu tystiolaeth ac o ddefnyddio canlyniadau ymchwil i wneud penderfyniadau, sut mae’r ymddygiad a’r strwythurau grym sydd eisoes yn bodoli mewn rhai rhannau o’r rhwydwaith yn cael effaith ar rannau eraill o’r rhwydwaith yn nes ymlaen. Os hoffech gyfrannu at yr adnoddau hyn anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan roi’r gair canlynol fel Pwnc: Adnoddau.
Mae tîm THINK yn edrych ymlaen at gwrdd â chi yn fuan!