Croeso i dudalen Podlediad y Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd – THINK
PODLEDIAD THINK, TYMOR 2
Pennod 1: Clybiau rhannu ceir cymunedol
Amy Nicholass, Swyddog Prosiect THINK, yn cyfweld ag Andrew Capel o TrydaNi a Julia Stevens o glwb ceir cymunedol TripTo ym Machynlleth i ddysgu am eu hanes a chlywed sut mae’r clybiau ceir yn gweithio. Hefyd, mae Amy yn sgwrsio â rhai o ddefnyddwyr y clwb ceir lleol am eu profiadau. Mae’r podlediad yn rhoi canllaw bras ynglŷn â rhedeg a defnyddio clwb ceir cymunedol, sy’n cynnwys yr heriau i’w goresgyn i greu mwy o glybiau ymhob rhan o wledydd Prydain, ynghyd â rhywfaint o ddata am y clybiau ceir sydd ym Mhrydain gan CoMoUK, a diweddariad ar lefel y cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu ar gyfer clybiau ceir cymunedol yng nghefn gwlad Cymru.
https://TransportAndHealth.podbean.com/e/think-podcast-community-car-share-clubs
Pennod 2: Syrthio mewn cariad â’r bws
Amy Nicholass, Swyddog Prosiect THINK a Chyd-gyfarwyddwr THINK Charles Musselwhite yn cyfweld â rhai o gefnogwyr brwd y bws, arbenigwr o’r diwydiant, ac academyddion i drafod beth fyddai ei angen i wneud i bawb ohonom syrthio mewn cariad â’r bws. Ceir awgrymiadau da gan bob un sy’n cyfrannu ac mae Charles yn ystyried meysydd lle gall ymchwil chwarae ei ran.
Cyfranwyr: Elly Foster (adroddiad Diwrnod Gweithredu Bysiau i’w weld yma), David Marshall, Rosemary Corcoran, Dr Lucy Baker (Cydymaith Ymchwil THINK), Katherine Parsons, Aaron Hill, a Roger French
https://TransportAndHealth.podbean.com/e/think-podcast-falling-in-love-with-the-buses
PODLEDIAD THINK, TYMOR 1
Cyfres Podlediadau THINK ar Gludiant Cymunedol
Mae hon yn gyfres o bodlediadau ar Gludiant Cymunedol wedi’u recordio, eu golygu a’u cyflwyno gan aelodau o dîm THINK, Amy Nicholass, Swyddog Prosiect a Dr Lucy Baker, Ymchwilydd Cyswllt. Gwnaed y gwaith recordio y tu allan i’r stiwdio mewn lleoliadau amrywiol yn Sir Benfro a’r cyffiniau ym mis Rhagfyr 2022, gan gynnwys ar fysiau oedd yn symud! Felly mae ansawdd y sain yn amrywio, ond yn ychwanegu at yr awyrgylch ac yn rhoi ymdeimlad i chi o ble mae Cludiant Cymunedol yn digwydd – ie, ar fysiau ac yn swyddfeydd y gweithredwyr, ond hefyd yng nghartrefi’r gwirfoddolwyr a’r defnyddwyr ac mewn caffis lle gallai’r teithwyr fod eisiau cael eu cludo i fwynhau coffi gyda ffrindiau.
Diolch yn fawr i bawb am roi o’u hamser i gael eu recordio ar gyfer y podlediad ac am siarad mor agored am eu profiadau.
Cafwyd llawer o gyfranwyr brwdfrydig yn ogystal â’n siâr ein hunain o heriau technegol cysylltiedig â recordio y tu allan i’r stiwdio! Gyda’r recordiadau o ansawdd yr oedd modd eu defnyddio, nid oedd modd i ni eu gwasgu i gyd i mewn i un podlediad (sef y cynllun gwreiddiol) felly penderfynwyd golygu’r sain a gasglwyd yn gyfres o bodlediadau yn lle hynny. Er na allwn ni ddefnyddio’r holl ddeunydd a recordiwyd, roedd stori pawb yn llywio ein dealltwriaeth o’r angerdd sy’n danwydd i drafnidiaeth gymunedol ac yn dylanwadu ar y ffordd y golygwyd y rhaglenni.
Enw’r podlediad cyntaf yn y gyfres hon yw ‘Mwy Na Dim ond Siwrnai’ ac mae’r ‘seinwedd’ yn cynnwys lleisiau llawer o bobl yn y gyfres, gan amlygu manteision Trafnidiaeth Gymunedol y tu hwnt i gludo teithwyr o A i B.
Mae podlediadau eraill yn y gyfres hon yn ymdrin yn fanylach â themâu cydgynhyrchiad gwasanaethau trafnidiaeth rhwng y defnyddwyr, technoleg ddigidol i ddod â Chludiant Cymunedol i gynulleidfaoedd ehangach a’r ffordd y mae Trafnidiaeth Gymunedol yn hanfodol er mwyn manteisio ar ofal iechyd a lleihau’r tebygolrwydd y bydd pobl yn dychwelyd i’r ysbyty ar ôl gwella.
Mae pob podlediad yn cael ei gynnal gan wefan allanol a chewch hyd iddynt i gyd wedi’u rhestru yno.
https://transportandhealth.podbean.com/
Bydd trawsgrifiad ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer pob podlediad ond efallai na fydd y rhain ar gael ar adeg y lansiad.
Pennod Un : Mwy na Dim Ond Siwrnai
https://www.podbean.com/eas/pb-bsp7s-13af9e4
Yn y bennod ragarweiniol arbennig hon rydym yn defnyddio dull ‘sainwedd’ fel modd i’r bobl sy’n darparu, defnyddio ac yn ymchwilio i Drafnidiaeth Gymunedol rannu ei bwysigrwydd yn eu geiriau eu hunain. Byddwch yn clywed sut mae’r gwasanaethau’n cynnig annibyniaeth sydd fawr ei hangen, yn mynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd ac yn rhoi mynediad i siopau, gofal iechyd, teulu, hwyl a natur i’r bobl sy’n eu defnyddio. Ond, yn fwy annisgwyl mae’n debyg, byddwch yn clywed hefyd sut mae’r gyrrwyr gwirfoddol yn elwa’n aruthrol.
Byddwch yn clywed lleisiau Emma Bingham (Cymdeithas Cludiant Cymunedol), Debbie Johnson (Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro), y gyrwyr Kellie Lowther (Tîm Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro), Bob (Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol), Sue (Ceir Cefn Gwlad), John (Dolen Teifi) a chwsmeriaid, yn ogystal â Robert Hagan o Brifysgol Fetropolitan Manceinion.
Pennod Dau : Cydgynhyrchiad
https://www.podbean.com/ew/pb-nv4c7-13b0d01
Edrychwn ar y ffordd mae Trafnidiaeth Gymunedol yn ymgysylltu â chymunedau ac yn fodd iddynt gyfathrebu’r heriau cysylltiedig â thrafnidiaeth a chreu atebion hygyrch a chynhwysol gyda’r cymunedau, ac atebion sy’n helpu cymunedau gwledig i fod yn llai dibynnol ar geir. Mae darparwyr Cludiant Cymunedol yn aml yn pontio’r bwlch rhwng y cymunedau, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r gwasanaethau gofal iechyd ac maent yn allweddol er mwyn sicrhau dyfodol cydgynhyrchiol ym maes trafnidiaeth.
Astudiaethau achos hynod ddiddorol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn enghreifftiau bywyd go iawn o gydgynhyrchu. Edrychwch hefyd ar y bennod ar Fynediad at Ofal Iechyd i gael rhagor o enghreifftiau.
Yn cynnwys defnyddwyr trafnidiaeth yn Llandysul, Gemma Lelliott (Cyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Cludiant Cymunedol) a Rod Bowen o Drafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi, sy’n defnyddio dull hyb sy’n gwella ymatebion cydweithredol i anghenion Cludiant Cymunedol a chynaliadwyedd darpariaeth trafnidiaeth.
Pennod Tri : Mynediad at Ofal Iechyd
https://www.podbean.com/ew/pb-9qx5f-13b5dec
Yn y bennod hon clywn am ran Trafnidiaeth Gymunedol yn y gwaith o lenwi’r bylchau sy’n bodoli ers i’r gwasanaethau bws masnachol gael eu canslo a sicrhau bod gofal iechyd hanfodol ar gael i bawb. Eglura’r cyfranwyr bod y gyrwyr gwirfoddol gofalgar, brwdfrydig sy’n danfon pobl adref o’r ysbyty gyda’r gwasanaethau hyn yn aml yn sicrhau bod teithwyr sy’n byw eu hunain yn cael bwyd, cynhesrwydd a rhywun i siarad â nhw a gwneud yn siŵr eu bod yn iawn, neu hyd yn oed glirio gwydr sydd wedi torri ar ôl y gwymp yn y cartref a arweiniodd at y daith ambiwlans. Gall hyn helpu i gadw pobl rhag gorfod mynd yn ôl i’r ysbyty ar unwaith. Mae’r bennod hon yn dangos bod Sir Benfro ar y blaen mewn gwirionedd o ran y cydweithredu rhwng darparwyr Cludiant Cymunedol a darparwyr gofal iechyd er mwyn sicrhau gwell canlyniadau iechyd.
Argymhellir yn fawr bod unrhyw un sy’n gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol yn gwrando ar y podlediad.
Yn cynnwys Emma Bingham (Uwch Swyddog Datblygu, Cymdeithas Cludiant Cymunedol), Debbie Johnson (Rheolwr Datblygu, Cymdeithas Mudiadau Cludiant Cymunedol Sir Benfro), Gemma Lelliott (Cyfarwyddwr Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru), Kellie Lowther (gyrrwr cerbyd hygyrch i gadair olwyn a chydlynydd gwirfoddolwyr , Tîm Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro a Ceir Cefn Gwlad), Rod Bowen (Swyddog Datblygu Trafnidiaeth, Cludiant Cymunedol Dolen Teifi), Tina Norman (defnyddiwr cerbydau hygyrch cadair olwyn ac Ymddiriedolwr Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro) a defnyddwyr trafnidiaeth gymunedol gwasanaeth arbrofol y bws Fflesci yn Nhyddewi a Thrafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi.
Pennod Pedwar : Dyfodol Digidol
https://www.podbean.com/ew/pb-c4s8i-13b0da2
Mae Dr Lucy Baker ac Amy Nicholass yn ymweld ag un o’r gwasanaethau trafnidiaeth peilot Fflecsi sy’n ymateb i’r galw yn Sir Benfro, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac sy’n rhan sefydlog o ddarpariaeth trafnidiaeth gymunedol. Rydym yn ystyried yr hyn y gall gwasanaethau sy’n gweithio drwy gyfrwng apiau ei gynnig i deithwyr a darparwyr trafnidiaeth gymunedol, a beth yw’r rhwystrau o ran ychwaegu technolegau newydd at arferion archebu. Mae’r podlediad yn amlygu’r angen am ddull cyfunol sy’n cynnal y perthnasau lleol gyda darparwyr a’r hyblygrwydd i wahanol deithwyr archebu a defnyddio’r gwasanaethau mewn sawl ffordd.
Gwrandewch ar y podlediad hwn, yn enwedig os oes ydych chi’n diddori mewn atebion technolegol i fynd i’r afael â heriau cymunedol neu os ydych chi’n comisiynu neu’n darparu gwasanaethau bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Yn cynnwys Gemma Lelliott (Cyfarwyddwr Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru), Andrew Lloyd (Cydlynydd Prosiect Fflecsi, Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro), Chris Payne (Gyrrwr Fflecsi), Rod Bowen (Swyddog Datblygu Trafnidiaeth, Cludiant Cymunedol Dolen Teifi), Emma Bingham (Uwch Swyddog Datblygu, Cymdeithas Cludiant Cymunedol) Debbie Johnson, (Rheolwr Datblygu Cludiant Cymunedol Cymdeithas Gweithredwyr Cludiant Cymunedol Sir Benfro), Sue (Cydlynydd Gwirfoddolwyr, Cludiant Gwirfoddol Sir Benfro) a defnyddwyr cludiant cymunedol.
Pennod Pump: Cymru a Chludiant Cymunedol, gyda Gemma Lelliott, Cyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Cludiant Cymunedol
https://www.podbean.com/ew/pb-cxave-13b0ce7
Mae Gemma Lelliott, Cyfarwyddwr Cymru ar gyfer Cymdeithas Cludiant Cymunedol yn cael ei chyfweld gan Dr Lucy Baker ac Amy Nicholass o THINK. Maent yn holi am ei phrofiad a’i barn ar rôl Trafnidiaeth Gymunedol yng Nghymru a sut y gall dulliau strategol a newidiadau polisi gefnogi’r rôl honno.
Mae hwn yn bodlediad defnyddiol iawn i wrando arno os ydych chi’n comisiynu gwasanaethau trafnidiaeth (yn enwedig mewn ardaloedd maestrefol a gwledig sydd fel arfer yn brin o weithredwyr bysiau masnachol), os ydych chi’n dewis lleoliadau ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd neu ofal cymunedol, os ydych chi’n gynlluniwr tref neu’n wneuthurwr polisi mewn un o amrywiol feysydd trafnidiaeth ac iechyd. Mae Gemma yn siaradwr huawdl iawn ac mae’n cyfleu’n glir y cyfraniad, disylw yn aml, a wneir gan Drafnidiaeth Gymunedol.