Mae’r diwydiant Systemau Trafnidiaeth Ddeallus (ITS) wedi datblygu’n anhygoel ers dyddiau arloesol cynnar y 1970au a’r 1980au. Mae’r rhain wedi cael eu hysgogi gan y chwyldro ym maes cyfathrebu, cynhwysedd data a galluogrwydd prosesu cyfrifiadurol. Mae’r ffordd rydyn ni’n disgrifio’r hyn a wnawn wedi datblygu hefyd o systemau cyfathrebu ffyrdd/moduron Japan (1984) a’r wybodeg trafnidiaeth…
Categori: Uncategorised
THINK – mae’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn chwilio am uwch reolwyr cwmnïau bysiau i gymryd rhan yn ein hymchwil.
Enw’r prosiect yw ‘Bws Rhywedd+: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol a thrais yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru a’r DU’. Bydd yr astudiaeth yn archwilio’r gwahanol arferion a pholisïau a ddefnyddir i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol, aflonyddu, a thrais yn erbyn menywod (a theithwyr…
Offer i’w defnyddio i leihau effaith rwystrol ffyrdd prysur ar gerddwyr
Prif negeseuon Mae ffyrdd yn rhwystr i gerddwyr. Mae’r rhwystrau hyn yn gysylltiedig â llai o gerdded ac yn gwaethygu cyfalaf cymdeithasol, iechyd a lles. Gellir amcangyfrif effeithiau ehangach y rhwystrau mewn termau ariannol. Mae nifer o ymyriadau posibl i leihau’r effaith ond, hyd yn hyn, ychydig o offer oedd ar gael i gynorthwyo wrth…
Adroddiad Gweithdai Gosod Agenda THINK
Cynhaliodd THINK gyfres o weithdai yn y gwanwyn a ddaeth â rhanddeiliaid oedd yn gweithio ym meysydd trafnidiaeth ac iechyd ynghyd. Diben y gweithdai oedd helpu i lywio penderfyniadau strategol am ble i fuddsoddi amser ac adnoddau yn THINK gan ddibynnu ar anghenion a diddordebau rhanddeiliaid, blaenoriaethau a rhwystrau a nodwyd, a’r mathau o newidiadau…
Seicoleg Gymdeithasol Goryrru: agweddau tuag at 20mya
Awdur: Yr Athro Charles Musselwhite, Cyd-Gyfarwyddwr, Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd I weld yr erthygl â’r drafodaeth lawn ‘The Social Psychology of Speeding: Attitudes to 20pmh’ dilynwch y ddolen hon: https://think.aber.ac.uk/cy/20mya-ac-iechyd/ Crynodeb Mae pobl yn gwybod bod cyflymder cerbydau yn elfen allweddol mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd. Mae mwyafrif llethol y cyhoedd yn…
Pam mai arafu yw’r ateb i gyflymu’r adferiad wedi COVID-19
Awdur: Dr Sarah Jones Pandemig COVID-19 yw’r bygythiad mwyaf a welwyd i iechyd ac i’r gwasanaethau iechyd ers o leiaf yr 1980au pan ymddangosodd HIV, ond gellir dadlau ei bod wedi bod yn hirach na hynny. Mae dod dros y feirws yn her sylweddol ar lefel unigol a lefel iechyd y boblogaeth yn ogystal â’r…
Gweithio gyda data mawr a thrwchus ar gyfer cynllunio ac ymchwil trefol cydweithredol
Yn ddiweddar, cynhaliodd Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) gyfres o weithdai lle bu ymarferwyr trafnidiaeth ac iechyd, ymchwilwyr a llunwyr polisi yn trafod yr heriau a’r posibilrwydd ar gyfer cynnydd o ran gwella iechyd y cyhoedd drwy ymyriadau a pholisi trafnidiaeth, tra’n gweithio tuag at nodau cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach ar yr un…
Lansio ‘Lanes and Lines’: prosiect sy’n ymgysylltu ag ysgrifennu, ffotograffiaeth a synau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth
Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnig ffordd o leihau allyriadau carbon a, law yn llaw â theithiau llesol milltir gyntaf a milltir olaf, mae’n cyfrannu at sicrhau ein bod ni’n cael digon o ymarfer corff yn ein harferion dyddiol i gadw’n iach. Mae hefyd yn bwysig o ran iechyd, cydlyniant a lles cymunedol, yn enwedig i’r…
Hysbysebu yng Nghymru a’r DU: yr angen i integreiddio trafnidiaeth ac iechyd er mwyn creu lleoedd iachach
Awdur: Dr Lucy Baker, Prifysgol Aberystwyth Ffyrdd newydd o fynd i’r afael â gordewdra mewn polisi trafnidiaeth a threfol Yn debyg i ffigurau’r DU, mae o ddeutu 60% o oedolion[i] a 26.9% o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew[ii]. Mae ymchwil yn awgrymu bod cael eu hamlygu i hysbysebion am fwyd afiach yn cyfrannu…