Skip to content

Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)

Menu
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Cwrdd â’r Tîm
  • Blog Archwilio Trafnidiaeth ac Iechyd
  • Podlediad y THINK
  • Ffowndri THINK
  • Adnoddau Academi THINK
    • 20mya ac iechyd
    • Adnoddau Teithio Llesol
    • Adnoddau Gwahanu Cymunedau o boptu Ffyrdd
    • Adnoddau Diogelwch Defnyddwyr Ffyrdd
    • Adnoddau Llygredd Aer a Sŵn
    • Cyhoeddiadau THINK
    • Trafnidiaeth a dull gweithredu Iechyd Cyfunol
  • Prosiectau rhwydwaith THINK
    • Cronfa Prosiectau Bach ar gyfer Materion Trafnidiaeth yn y Gymuned – y Rhwydwaith Ymchwil Integredig i Drafnidiaeth ac Iechyd
      • Derbynwyr y Gwobrau 2023
    • Bws Rhywedd+Cymru: mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ac ymddygiad treisgar yn erbyn menywod er mwyn sicrhau gwasanaeth bysiau cynhwysol o ran rhywedd yng Nghymru
  • Newyddion
    • Cynhadledd Aeaf y Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) 2023
  • Cymraeg
    • English
    • Cymraeg
Menu

Cyfleoedd i Gymryd Rhan

Mae sawl ffordd o ymwneud â rhwydwaith THINK

  1. Ymaelodi â THINK – gallwch gofrestru’n hawdd trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein
  2. Ymuno â’n Cymuned Ymarfer – gallwch ddysgu am y themâu penodol ac ymuno ag un neu fwy ohonynt
  3. Dilyn negeseuon THINK ar y cyfryngau cymdeithasol @TransportHealth
  4. Ymuno â grŵp LinkedIn THINK: Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd – THINK | Groups | LinkedIn (Cynnwys allanol)
  5. Cyfrannu blog gwadd – anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan ddefnyddio’r llinell destun: Syniad Blog.
  6. Gwneud cais am grant ymchwil bach. Gweler y dudalen hon i weld y cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd. Fel arall, anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan ddefnyddio’r llinell destun: Gweithgaredd Ymchwil
  7. Gwneud gais am grant secondiad i roi cymorth pellach i gefnogi ymchwil ar drafnidiaeth ac iechyd. Defnyddir hyn i gynnal academydd mewn lleoliad polisi ac ymarfer, neu unigolyn o gefndir polisi ac ymarfer sy’n gweithio mewn lleoliad academaidd mewn prifysgol. I gael mwy o wybodaeth e-bostiwch think@aber.ac.uk gan ddefnyddio’r llinell destun: Secondiad
  8. Mynd  i weithdy THINK neu gynnal gweithdy. Os oes gennych syniad am thema gweithdy, anfonwch e-bost at think@aber.ac.uk gan ddefnyddio’r llinell destun: Syniad am weithdy
  9. Mynd i ddigwyddiad THINK trwy ymuno â rhwydwaith THINK yn gyntaf er mwyn cael gwybodaeth trwy e-bost.
  10. Mynd i gynhadledd THINK.
  11. Os ydych yn aelod o’r cyhoedd ac heb wneud hynny eisoes, cofrestru â Chymuned Cynnwys y Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a byddwn yn defnyddio’r llwyfan hwn i hysbysebu cyfleoedd ymchwil lle gellir cynnwys y cyhoedd: Cofrestru i gymryd rhan | Ymchwil Gofal Iechyd Cymru (healthandcareresearchwales.org)
  12. Cyfrannu at adnoddau i’w darparu ar wefan THINK. E-bostiwch think@aber.ac.uk gan ddefnyddio’r llinell destun: ⁠Adnoddau

Mae tîm THINK yn edrych ymlaen at eich cyfarfod yn fuan!

THINK Podcast